BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003 Rhif 2532 (Cy.247) (C.94)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032532w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2532 (Cy.247) (C.94)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 1 Hydref 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan adran 43(6) a (7) o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'n dweud fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001.

Y diwrnod penodedig
    
2. Y diwrnod penodedig pan ddaw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yw 8 Hydref 2003.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Hydref 2003



YR ATODLEN
Erthygl 4


DARPARIAETHAU YN DOD I RYM AR 8 HYDREF 2003


Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 14 Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd
Adran 15 Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd: gweithdrefn
Adran 22 (i'r graddau y mae'n rhoi'r pwcircer i'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cyfarwyddiadau o dan adran 28M(1) neu (3) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 neu yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddyd o'r fath) Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Cynulliad Cenedlaethol



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 8 Hydref 2003 weddill darpariaethau Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 nad ydynt mewn grym yng Nghymru ar ddyddiad y Gorchymyn hwn, fel na fydd angen Gorchymyn pellach mewn perthynas â Chymru.

Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau mewn perthynas â strategaethau a chynlluniau hygyrchedd, o dan ddarpariaethau Rhan 2 o'r Ddeddf (gwahaniaethu ar sail anabledd mewn addysg).

Mae'r darpariaethau hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddiadau i awdurdodau addysg lleol ynghylch cyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau a chynlluniau hygyrchedd neu i wneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddiadau o'r fath.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau canlynol Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y Ddarpariaeth Y Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
Adran 10 (yn rhannol) 8 Rhagfyr 2001 2001/3992 (C. 127)
Paragraffau 3 ac 14 o Atodlen 1 (yn rhannol) 8 Rhagfyr 2001 2001/3992 (C. 127)
Adran 1 (yn rhannol) 21 Ionawr 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 8 (yn rhannol) 21 Ionawr 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 42(1) (yn rhannol) 21 Ionawr 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Paragraffau 17 ac 18 o Atodlen 8 (yn rhannol) 21 Ionawr 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 4 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Adran 5 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Adran 6 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Adran 10 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Adran 41 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Adran 42(1) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) yn rhannol 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Adran 42(2) - (4) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Adran 42(6) yn rhannol 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Paragraffau 1 hyd 20 o Atodlen 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Yn Atodlen 8, paragraffau 13(1) hyd (4) a 15 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Yn Atodlen 9, y diddymiadau canlynol i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru  -           
yn Neddf Addysg 1996, yn adran 336(2), paragraff (d) ac yn adran 441(3)(a), y geiriau "in accordance with paragraph 10 of Schedule 27"; ac          
yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn Atodlen 30, paragraff 186(2)(b). 1 Ebrill 2002 2001/3992 (C. 127)
Adran 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Ebrill 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Adrannau 2 a 3 1 Ebrill 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 7 1 Ebrill 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Ebrill 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 9 1 Ebrill 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 42(1) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) yn rhannol 1 Ebrill 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 42(6) yn rhannol 1 Ebrill 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Yn Atodlen 8, paragraffau 1, 5 hyd 12, 14, 16 hyd 18 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) 1 Ebrill 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
Yn Atodlen 9, y diddymiadau canlynol i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru  -  1 Ebrill 2002 2002/74 (Cy.8) (C.1)
yn Neddf Pobl Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychiolaeth) 1986, adran 5(1); ac          
yn Neddf Addysg 1996  -           
yn adran 325(1), y geiriau ", and of the effect of subsection (2) below"; ac          
yn Atodlen 27, paragraff 3(4), paragraff 8(1)(b)(iii), ym mharagraff 9(1) y geiriau "amend, or" a "10 or", a pharagraff 10.          
Adran 26, at ddibenion caniatáu dynodi sefydliadau addysgol yn unol ag adrannau 28R(6)(c) a 28R(7)(e) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 30 Mai 2002 2002/1647 (C. 49)
Adran 31 30 Mai 2002 2002/1647 (C. 49)
Adran 19 is-adran (1), yn rhannol 1 Gorffennaf 2002 2002/1721 (C. 50)
Yn adran 36, is-adran (2) ac is-adran (1) i'r graddau y maent yn berthnasol i is-adran (2) 1 Gorffennaf 2002 2002/1721 (C. 50)
Paragraff 13(5) o Atodlen 8 1 Gorffennaf 2002 2002/1721 (C. 50)
Adrannau 11 i 13 yn gynhwysol 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adrannau 16 i 18 yn gyn hwysol 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adran 19 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adrannau 20 a 21 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adran 22 (ac eithrio i'r graddau y mae'n rhoi pwcircer i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddiadau o dan adran 28M(1) neu (3) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 neu wneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddyd o'r fath) 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adrannau 23 i 25 yn gynhwysoi 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adran 26 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adran 27 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adran 28 (yn ddarostynedig i erthygl 6 o O.S. 2002/2217(C.71)) 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adran 29 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adran 30 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adrannau 32 i 35 yn gynhwysol 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adran 36 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adrannau 37 i 40 yn gynhwysol 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adran 41 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Adran 42 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Atodlenni 2 i 7 yn gynhwysol 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Atodlen 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)
Atodlen 9 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) 1 Medi 2002 2002/2217 (C.71)


Notes:

[1] 2001 p.10.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090793 0


 
© Crown copyright 2003
Prepared 16 October 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032532w.html