BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau ynghylch Rhagnodi gan Nyrsys Atodol ac Annibynnol) (Cymru) 2003 Rhif 2624 (Cy.252)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032624w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2624 (Cy.252)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau ynghylch Rhagnodi gan Nyrsys Atodol ac Annibynnol) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 8 Hydref 2003 
  Yn dod i rym 10 Hydref 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 41, 42, 43, 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 [1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau ynghylch Rhagnodi gan Nyrsys Atodol ac Annibynnol) (Cymru) 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 10 Hydref 2003.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992[2] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)  - 

and against whose name is recorded in the relevant register an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a supplementary prescriber;";

    (3) Yn Atodlen 2 (telerau gwasanaeth) - 

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992
     3.  - (1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[7] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) hepgorir y diffiniad o "nurse prescriber".

    (3) Yn Atodlen 2 (telerau gwasanaeth) - 

and against whose name is recorded in the relevant register an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a supplementary prescriber;";

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001
     4.  - (1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[11] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (2) (1) (dehongli) - 

ac y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol nodyn i ddynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;";

    (3) yn rheoliad 6(1) (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn canolfannau cerdded i mewn), yn lle "meddyg neu nyrs sy'n rhagnodi" rhodder "meddyg, rhagnodydd atodol neu nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Hydref 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r setiau canlynol o Reoliadau:

    
1. Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 ("Rheoliadau'r Gwasanaethau Fferyllol").

    
2. Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("Rheoliadau'r Gwasanaethau Meddygol") a

    
3. Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau'r Ffioedd").

Mae angen y newidiadau o ganlyniad i ychwanegu categori newydd o ragnodydd meddyginiaethau a chyfarpar i'w ddefnyddio gan bobl at Orchymyn Meddyginiaethau a Ragnodir yn Unig (Defnydd Dynol) 1997.

Cyfeirir at y categori newydd o ragnodydd fel "rhagnodydd atodol". Mae rhagnodwyr atodol yn nyrsys cymwysedig addas a fferyllwyr cofrestredig a fydd yn gallu rhagnodi meddyginiaethau rhagnodol yn unig yn unol â chynllun rheoli clinigol ar gyfer cleifion unigol. Byddant hefyd yn gallu rhagnodi meddyginiaethau eraill a chyfarpar arall o dan y cynlluniau hynny.

Mae Rheoliadau'r Gwasanaethau Fferyllol yn cynnwys categori o "nyrs sy'n rhagnodi" sydd eisoes yn bodoli a ailenwir gan y diwygiadau yn y Rheoliadau hyn yn "nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol" er mwyn arbed dryswch rhwng y gwahanol gategorïau o nyrsys sy'n gallu rhagnodi meddyginiaethau at ddefnydd dynol.

Diwygir hefyd delerau'r gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr o fewn Rheoliadau'r Gwasanaethau Fferyllol i alluogi fferyllwyr i weinyddu presgripsiynau a ddyroddir gan y categorïau newydd o ragnodydd.

Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaethau Meddygol i gymhwyso rheolau sydd eisoes yn bodoli am feddyg yn cyflogi nyrs sy'n rhagnodi i'r categori newydd o ragnodydd atodol a'r nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol a ailenwyd. Gwneir ychwanegiadau i'r Rheoliadau i sicrhau bod gan feddyg sy'n cyflogi rhagnodydd atodol drefniadau ar waith i sicrhau cydymffurfedd â threfn y rheolaeth sy'n ymwneud â'r dull hwn o ragnodi.

Gwneir diwygiadau i'r Rheoliadau Ffioedd i adlewyrchu'r ffaith y caiff rhagnodwyr atodol ddyroddi ffurflenni presgripsiwn ac y cânt gymryd y cyfrifoldeb dros ragnodi i gleifion mewn canolfannau cerdded i mewn, os yw'r rhagnodwyr atodol yn bartïon i gynllun rheoli clinigol y claf hwnnw.


Notes:

[1] {d1}{t1}1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniad o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraff 8.{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Diwygiwyd adran 41 gan Ddeddf 1980, adrannau 1 a 20(1) ac Atodlen 1, paragraff 53 ac Atodlen 7; gan O.S. 1985/39, erthygl 7(13); gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(1) ac Atodlen 10; gan Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc. 1992 (p.28), adran 2; gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 29 a chan Ddeddf 1997, Atodlen 2, paragraff 13.{d1}{t1}Amnewidiwyd adran 42 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1986 (p.66), adran 3(1); ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17 a'i diwygio gan OS 1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf 1990, adran 12(3) a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 30.{d1}{t1}Diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1980, Atodlen 9, paragraff 18(2); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31; a chan Ddeddf 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraff 14.{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back

[2] O.S. 1992/662; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1996/698, 1998/681, 1999/696, 2001/1396 (Cy.91) a 2002/3189 (Cy.305).back

[3] Cymeradwywyd gan O.S.1983/873 a nodir hi yn yr Atodlen iddo; nid oes offerynnau diwygio perthnasol.back

[4] O.S.2001/253.back

[5] 1954 p.61.back

[6] O.S.1976/1213.back

[7] O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1995/3093, 1998/682 a 2838, 1999/326, 2001/833 (Cy.35), 2002/916 (Cy.104) a 1896 (Cy.197) a 2003/784 (Cy.95).back

[8] 1968 p. 67.back

[9] O.S. 1997/1830; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2000/549 a 2003/696.back

[10] 1971 p. 38.back

[11] O.S. 2001/1358 nad oes offerynnau diwygio perthnasol iddo.back

[12] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090792 2


 
© Crown copyright 2003
Prepared 15 October 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032624w.html