BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003 Rhif 2660 (Cy.256)(C.102)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032660w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2660 (Cy.256)(C.102)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003

  Wedi'i wneud 14 Hydref 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwcirc erau a roddwyd iddo gan adrannau 8(2) a (3) a 10(2) o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - 

Enwi a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn  - 

    (3) ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;

    (4) ystyr "Deddf 1977" ("the 1977 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
2].

Y dyddiau a bennwyd ar gyfer darpariaethau ynglycircn â'r Cynghorau Iechyd Cymuned ac Arbedion
     2.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym at bob diben  - 

    (2) Dim ond ynglycircn â Chymru y mae'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn cael eu dwyn i rym.

    (3) Er gwaethaf diddymu Atodlen 7 i Ddeddf 1977, bydd Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996[
3] a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymdeithas y Cynghorau Iechyd Cymuned) 1977[4] yn parhau i gael effaith.

Y dyddiau a bennwyd ar gyfer darpariaethau ynglycircn â Chanolfan Iechyd Cymru
     3.  - (1) 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi, ddod i rym at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig.

    (2) 1 Ebrill 2005 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 2, 3 a 7(1) o'r Ddeddf, ac Atodlenni 2 a 3 o'r Ddeddf heblaw paragraff 16 o Atodlen 3, ddod i rym at bob diben sy'n weddill.

Y dydd a bennwyd ar gyfer darpariaethau ynglyn â Phroffesiynau Iechyd Cymru a darpariaethau atodol a darpariaethau cyffredinol.
    
4. 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 4, 5 a 6 o'r Ddeddf ddod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Hydref 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Dyma'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 ("y Ddeddf").

Mae Erthygl 2 yn dwyn i rym adran 1 o'r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi. Mae'r rhain yn ymwneud â Chynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru. Mae'r cynghorau a sefydlwyd o dan adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd 1977 i barhau mewn bodolaeth a rhoddir pwcircer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau ynglycircn â'u swyddogaethau. Yn ychwanegol, caiff y Cynulliad sefydlu corff statudol i gynghori a chynorthwyo Cynghorau Iechyd Cymuned ynglycircn â chyflawni eu swyddogaethau.

Bydd cynghorau cymuned yn Lloegr yn parhau i fodoli tan ddyddiad cychwyn adran 22 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.

Mae Erthygl 3 yn cychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig (ynghylch aelodaeth a swyddogaethau), adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi. Mae'r rhain yn ymwneud â Chanolfan Iechyd Cymru. Mae'r Ganolfan i'w sefydlu, gyda golwg ar ymgymryd â swyddogaethau ynghylch diogelu a gwella iechyd yng Nghymru, ar 1 Ebrill 2005 pan gychwynnir adran 2 a 3 ac Atodlen 2 at bob diben arall.

Ymhlith y darpariaethau a gychwynnir gan Erthygl 2 o'r Gorchymyn y mae darpariaethau ynglycircn â Phroffesiynau Iechyd Cymru. Mae adrannau 4 a 5 o'r Ddeddf yn rhoi pwcircer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu corff a elwir Proffesiynau Iechyd Cymru ac i wneud darpariaeth i Broffesiynau Iechyd Cymru gyflawni swyddogaethau ynglycircn â phroffesiynau gofal iechyd a chymorth gofal iechyd.

Mae'r Gorchymyn yn cychwyn diwygiadau a diddymiadau canlyniadol hefyd.


Notes:

[1] 2003 p.4.back

[2] 1977 p.49.back

[3] OS 1996/640 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/479 (Cy.20).back

[4] OS 1977/874.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090795 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 21 October 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032660w.html