BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003 Rhif 2727 (Cy.262)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032727w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2727 (Cy.262)

AER GLÂN, CYMRU

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 23 Hydref 2003 
  Yn dod i rym 14 Tachwedd 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], gan ei fod wedi'i fodloni y gall y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwyddau nad ydynt yn danwyddau awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 14 Tachwedd 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio o adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993
    
2. Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd allyriannau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Hydref 2003



YR ATODLEN
Erthygl 2


Dosbarthiadau o leoedd tân esempt


Dosbarthiadau o leoedd tân Amodau
Y B9 Energy Wood Chip Gasifier Unit a gynhyrchir gan B9 Energy Biomass Limited, Unit 22, Northland Road Industrial Estate, Londonderry, Gogledd Iwerddon.      1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dyddiedig 2002 ac y mae arnynt y cyfeirnod "001/B9ENERGY BIOMASS".

     2. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw sglodion o bren heb eu trin, ysgyrion o bren neu ddarnau bach o bren heb eu trin.

Modelau 110, 140, 180, 220, 280 a 350 o'r Mawera FU-RIA wedi'u cynhyrchu gan Mawera (UK) Limited, 31 Enterprise Industrial Park, Britannia Way, Caerlwytgoed, Swydd Stafford, Lloegr WS14 9UY.      1. Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dyddiedig 31 Hydref 2002 ac y mae arnynt y cyfeirnod "098234-01".

     2. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw pren, cynhyrchion pren, gweddillion fforest, teneuon fforest, bwrdd sglodion MDF wedi'i orchuddio â melamin neu heb ei orchuddio, pren haenog, neu gynhyrchion pren cyfansawdd.




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn gwahardd yn gyffredinol ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Caiff Cynulliad Cenedaethol Cymru, trwy orchymyn wedi'i wneud o dan adran 21 o'r Ddeddf, esemptio dosbarthiadau penodedig o leoedd tân o ddarpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gellir eu defnyddio i losgi tanwyddau heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn eithrio o ddarpariaethau adran 20 y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu rhestru yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n cael eu rhestru yn ail golofn yr Atodlen honno.


Notes:

[1] 1993 p.11.back

[2] Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090799 X


 
© Crown copyright 2003
Prepared 30 October 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032727w.html