BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003 Rhif 2763 (Cy.268)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032763w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2763 (Cy.268)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003

  Wedi'i wneud 30 Hydref 2003 
  Yn dod i rym 31 Hydref 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8(1) ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003; mae'n gymwys i Gymru'n unig a daw i rym ar 31 Hydref 2003.

Diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[2] yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.

    (2) Yn erthygl 1(2) yn lle "1 Tachwedd 2003" rhoddir "31 Mawrth 2004".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Hydref 2003


Ben Bradshaw
Is-Ysgrifennydd Seneddo,l Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

30 Hydref 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Oni bai am y Gorchymyn hwn, byddai Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 yn peidio â bod yn effeithiol ar 1 Tachwedd 2003. Er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau parhaol i gymryd lle'r darpariaethau dros dro a gynhwysir yn y Gorchymyn hwnnw, mae'r Gorchymyn hwn yn caniatáu i'r Gorchymyn hwnnw barhau mewn grym hyd 31 Mawrth 2004.


Notes:

[1] 1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd ymhellach wedyn bob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 2002/2303 (Cy.228), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/170 (Cy.30).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090804 X


 
© Crown copyright 2003
Prepared 14 November 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032763w.html