BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2003 Rhif 3034 (Cy.282) (C.113)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033034w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3034 (Cy.282) (C.113)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 26 Tachwedd 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 128(4), (6)(b) a (9) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1].

Enwi a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2003.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") Deddf Llywodraeth Leol 2003.

Darpariaethau sy'n dod i rym
    
2.  - (1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan I o Atodlen 1 ac yn Atodlen 2 i rym ar 27 Tachwedd 2003.

    (2) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i rym ar 1 Ebrill 2004.

    (3) Oni phennir fel arall yn Atodlen 1 neu Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) uchod i rym at bob diben.

    (4) Ac eithrio i'r graddau y cânt eu pennu yn adran 128(4)(b) i (g) o'r Ddeddf, dim ond i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru y dygir i rym ddarpariaethau'r Ddeddf sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn.

Darpariaethau trosiannol ac eithriadau
    
3. Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaethau trosiannol ac eithriadau mewn cysylltiad â'r darpariaethau y mae'n cyfeirio atynt.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003


ATODLEN 1
Erthygl 2



RHAN I

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 27 Tachwedd 2003 i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru

Adrannau 1 i 24 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adrannau 25 i 28 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adran 36  
Adran 37 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adrannau 38 i 40     
Adrannau 41 i 59     
Adrannau 60 a 61     
Adran 62(1) a (3) i (10)     
Adrannau 66 a 67(1) a (3) i (5)     
Adran 70(1) i (3) a (7) i (9)     
Adran 71     
Adran 75(2) i (5)     
Adran 89 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adran 90(1) i (3) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adran 100(3)     
Adran 101 (dim ond i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdod gwerth gorau yng Nghymru, ac eithrio un a gyrbwyllir yn is-adran (7) o'r adran honno)
Adran 102     
Adran 109(1) (i'r graddau y mae'n ymwneud â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Awdurdod Perthnasol mewn cysylltiad â hwy at ddibenion Rhan I o Ddeddf Tai 1996 (p.52))
Adran 109(2)     
Adran 117 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adrannau 118 a 119     
Adran 127(3) a (4)     
Atodlen 1 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Atodlen 2 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Atodlen 3     
Atodlen 7 ac adran 127(1) i'r graddau y maent yn ymwneud â  -      
     pharagraffau 2 a 3 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraff 5
     paragraff 6 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraffau 8, 9(2) a 12 i 17
     paragraff 18 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraffau 19, 22, 23, 24(4), 25(2) a (3), 26(1) a (2)
     paragraff 29 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraff 30
     paragraffau 32 a 33(3) a (5) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraphau 49(b), 50(b) a 51(2)
     paragraffau 51(3) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraff 56
     paragraff 57 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraffau 58, 59, 61 a 62
     paragraffau 63 a 64 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraff 66
     paragraff 67 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraff 79 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Atodlen 8 ac adran 127(2) i'r graddau y maent yn ymwneud ag  - 
     adran 137(4AA) a (4C) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70)
     Deddf Trosglwyddo Stoc 1982 (p.41) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     Deddf Tai 1985 (p.68)
     adran 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 (p.9)
     adran 140(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41)
     adrannau 39 i 66 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     adran 80(2) o Ddeddf Llywodraeth ddiben blynyddoedd ariannol sy'n Leol a Thai 1989 (dim ond at cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     adran 80(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     adran 155(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac Atodlen 3 iddi (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraff 37(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
     paragraff 60 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraffau 6, 7 a 59 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraff 97 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
     adran 88(6)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43)
     adran 11(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14)
     adrannau 32(11), 43(8) a 50(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 neu mewn cysylltiad â hwy)
     adran 52Z(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
     adran 69(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
     paragraff 90 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     adran 51(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2004 ac mewn perthynas â hwy)
     paragraff 30 o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994
     paragraff 88 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraff 8(5) o Atodlen 8 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25)
     adran 30 o Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     adran 73 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) a pharagraff 31(2) o Atodlen 10 iddi (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     Atodlen 7 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p.16) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ô1 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymeradwyaethau Credyd Atodol) 1997 (p.63) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     adran 81(4) o Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     paragraff 5 o Atodlen 12 i Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     adran 1(4) o Ddeddf Ardrethu (Cyn Safleoedd Amaethyddiaeth a Siopau Gwledig) 2001 (p.14)
     paragraff 53 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
     Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)



RHAN II

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2004 i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru

Adran 64

Adran 67(2)

Adran 92(2)

Adran 120

Atodlen 6

Atodlen 7 ac adran 127(1) i'r graddau y maent yn berthnasol i - 



ATODLEN 2
Erthygl 3


Darpariaethau Trosiannol ac Eithriadau


Gwariant dewisol awdurdodau lleol
     1. Er gwaethaf diddymu adran 137(4AA) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11), mae erthygl 2(2) o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000[
3] i barhau mewn grym.

Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
     2.  - (1) Er gwaethaf diddymu'r adrannau hynny o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a'r paragraffau hynny o Atodlen 3 iddi a geir yng ngholofn (1) isod mae'r rheoliadau cyfatebol yng ngholofn (2) i barhau mewn grym hyd 31 Mawrth 2004, ac ar ôl hynny i'r graddau y caiff y darpariaethau perthnasol eu heithrio gan baragraff 2(2)(a) i (ff) o'r Atodlen hon:

(1) (2)
Adran 66(1)(a) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) 1990[4]
     Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1991[5]
     Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1992[6]
Adrannau 40(5)(a), 49(3), 51(7), 59(3) a (5), 61(4), 64(2), 66(1)(a) a (6) a pharagraffau 10, 15(1)(a) ac 18(1) o Atodlen 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1995[7])
Adrannau 40(5)(b), 42(4)(a), 49(3), 51(7), 58(9)(b), 59(3) a (5), 64(2), 66(1)(a) a pharagraffau 10 a 15(1)(a) o Atodlen 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio Rhif 2) 1995[8]
Adrannau 48(5), 49(3), 58(9)(b), 59(3), (4) a (5), 61(4), 64(2), 66(1)(a) a pharagraffau 10 a 15(1)(a) o Atodlen 3. Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1996[9])
Adrannau 40(5), 42(4), 48(1)(c) a (5), 49(3), 51(7), 57(1)(c), 58(4)(b) a (9), 59(3) i (5), 61(4), 64(2) a (5), 66(1)(a) a (6) a pharagraffau 10, 11(2), 15(1)(a), 17, 18(1) a 20 o Atodlen 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997[10]
Adrannau 48(1)(c), 49(3), 59(4) a 61(4) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) 1997[11]
Adrannau 48(1)(c), 59(4) a pharagraffau 15(1)(a) a 20 o Atodlen 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) 1998[12]
Adran 48(5) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Rhif 2) 1998[13]
Adrannau 40(5)(a), 58(9)(a) a 59(3) a (5) a pharagraff 15(1)(a) o Atodlen 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio Rhif 3) 1998[14])
Adrannau 59(4) a (5) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 1999[15]
Adrannau 40(5)(a), 48(1)(c), 49(2), 59(4) a (5), 61(4) a 66(1)(a) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 1999[16])
Adran 49(3) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000 [17]
Adran 61(1)(a) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2001[18]
Adran 58(9) a 66(1)(a) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2002[19]
Adran 66(1)(a) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002[20]
Adran 49(2) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003[21]
Adran 42(4) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2003[22])

    (2)

Cyllid cyfalaf  -  Rhan 1 o'r Ddeddf
     3.  - (1) Caiff unrhyw drefniant credyd  - 

ei drin fel pe bai'n drefniant credyd at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf (cyllid cyfalaf etc.).

    (2) Mae'r rhan y gellir ei defnyddio o unrhyw dderbyniad cyfalaf  - 

i'w thrin fel pe bai'n dderbyniad cyfalaf o fewn yr ystyr sydd i hynny yn adran 9 o'r Ddeddf ("capital receipt") at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.

Gweinyddu ariannol
     4. Nid yw adran 27 o'r Ddeddf (cyfrifo cyllideb: adroddiad ar arian wrth gefn nad yw'n ddigonol) i fod yn gymwys mewn cysylltiad â chyfrifo at ddiben unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2005.

Cyfrif refeniw tai
     5. Er i baragraff 33(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf ddod i rym, bydd unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan eitem 9 yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ac a fydd yn effeithiol am flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004, yn parhau i fod yn effeithiol, fel pe bai wedi'i wneud o dan eitem 9 fel y'i hamnewidiwyd gan baragraff 33(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

Cadw ardrethi lleol yn yr ardal leol
     6. Er i adran 70 o'r Ddeddf ddod i rym, bydd y darpariaethau ym mharagraffau 5(6) a (6A) o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41), fel y maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar neu cyn 31 Mawrth 2005, yn parhau i weithredu fel pe na bai'r diwygiadau i'r paragraffau hynny wedi'u gwneud.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 2003 ("y Ddeddf") i rym. Daw'r rheini a bennir yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Tachwedd 2003. Daw'r rheini a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004. Oni nodir fel arall yn Atodlen 1, daw'r darpariaethau hynny a bennir i rym ar y dyddiad perthnasol ac at bob diben.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o Atodlen 1.

Mae adrannau 1 i 22 o'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â system newydd o gyllid cyfalaf a chyfrifon awdurdodau lleol yng Nghymru fel a ganlyn.

Yn benodol, mae adran 1 yn darparu ar gyfer pwerau benthyg awdurdod lleol gan gynnwys y pwcircer i fenthyg at ddiben rheoli materion ariannol yn ddarbodus. Mae adran 2 i 8 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â benthyg. Mae adrannau 9 i 11 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â derbyniadau cyfalaf. Mae adran 12 yn galluogi awdurdodau lleol i fuddsoddi at ddiben sy'n berthnasol i'w swyddogaethau ac at ddiben rheoli eu materion ariannol yn ddarbodus. Mae adrannau 13 i 20 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gwarant ar arian a fenthycir, yr wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad"), canllawiau gan y Cynulliad, ystyr "capital expenditure", cyllid allanol, cwmnïau awdurdodau lleol a chyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae adran 19 yn rhoi effaith weithredol i Atodlen 1 i'r Ddeddf (atodlen sy'n gwneud darpariaeth ynghylch cyllid cyfalaf mewn cysylltiad â chynghorau cymuned ac ymddiriedolwyr siartr). Mae adrannau 21 i 22 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag arferion cyfrifydda a chyfrifon refeniw.

Mae adrannau 23 a 24 yn cynnwys diffiniadau a darpariaethau dehongli.

Mae adrannau 25 i 28 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweinyddu cyllid. Mae adrannau 25 i 27 yn ymdrin â chyfrifo cyllidebau, mae adran 26 yn ymdrin ag isafswm lefel cronfeydd wrth gefn ac mae adran 28 yn ymdrin â monitro cyllidebau.

Bydd y pwcircer yn adran 36 yn galluogi'r Cynulliad i dalu grantiau i awdurdodau gwerth gorau, a hynny mewn perthynas â'r treuliau y maent wedi'u tynnu wrth wneud cais am gael eu dyfarnu'n deilwng o ddynodiad sy'n seiliedig ar ragoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau. Bydd hyn yn ddarostyngedig i unrhyw un o'r dyletswyddau gwerth gorau yn adrannau 3 i 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Pan ddyfernir y dynodiad hwnnw i awdurdod gwerth gorau, sydd yn ddarostyngedig i unrhyw un o'r dyletswyddau perthnasol, bydd y pwcircer hefyd yn galluogi grantiau i gael eu talu'n wobr am y dynodiad hwnnw ac mewn perthynas â threuliau a dynnwyd neu sydd i'w tynnu gan yr awdurdod wrth ddosbarthu gwybodaeth am arferion gorau.

Bydd adran 37 yn galluogi'r Cynulliad i roi cymorth ariannol mewn argyfwng i Awdurdodau Tân Cyfunol (a gyfunwyd yn rhinwedd Deddf Gwasanaethau Tân 1947) yn eu henw eu hunain.

Mae adrannau 38 a 39 yn hwyluso trosglwyddo tai awdurdodau lleol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. O dan adran 38, bydd y Cynulliad yn gallu gwneud taliadau i'r Comisiynwyr Benthyciad Gweithfeydd Cyhoeddus ("the Commissioners") er mwyn gostwng neu ddileu'r ddyled o'r fath a fydd gan awdurdod leol yng Ngymru, i'r Comisiynwyr yng Nghymru fel y gwêl y Cynulliad yn dda. Gallai'r Comisiynwyr wrthod derbyn taliad y mae'r Cynulliad yn cynnig ei wneud iddynt. Bydd adran 39 yn galluogi'r Cynulliad i wneud taliadau i awdurdodau lleol i'w galluogi i dalu dyledion ac eithrio dyledion i'r Comisiynwyr.

Mae adran 40 yn cychwyn Atodlen 2 i'r Ddeddf sy'n gwneud darpariaeth i alluogi'r Cynulliad i wneud dau adroddiad cyllid llywodraeth leol am unrhyw flwyddyn ariannol, y naill yn ymwneud ag awdurdodau heddlu a'r llall yn ymwneud ag awdurdodau a chyrff eraill.

Mae adrannau 41 i 59 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag Ardaloedd Gwella Busnes ("AGBoedd"). Caiff awdurdodau bilio wneud trefniadau mewn perthynas ag ardaloedd o fewn eu hawdurdod a elwir yn AGBoedd. Mewn AGB, cyllidir gwasanaethau ychwanegol neu welliannau o fudd i'r gymuned leol drwy bobl sy'n talu ardrethi annomestig neu rai pobl benodol sy'n talu ardrethi annomestig yn yr AGB (adran 41). Er mwyn sefydlu AGB, rhaid yn gyntaf i fwyafrif o'r bobl a fyddai'n rhwym o dalu'r ardoll berthnasol bleidleisio o blaid (adran 49).

Mae adrannau 60, 61, 62(1) a (3) i (10), 66, 67(1) a (3) i (5), 70(1) i (3) a (7) i (9), a 71 yn diwygio darpariaethau ardrethu annomestig yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel a ganlyn.

Mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol llunio rhestr o'r ardrethi arfaethedig chwe mis cyn iddynt ddod i rym. Mae adran 61 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth newydd i fusnesau bach. Mae adrannau 62(1) a (3) i (10) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfrifo'r lluosydd ardrethu annomestig. Mae adran 66 yn darparu ar gyfer hawl i ddefnyddio unrhyw dir at ddiben gweithredu mesurydd i fesur cyflenwad o nwy neu drydan neu wasanaeth arall o'r fath y gall y Cynulliad ei bennu'n hereditament (os person heblaw defnyddiwr y gwasanaeth sy'n berchen ar y mesurydd). Mae adrannau 67(1) a (3) i (5) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag esemptiadau ar gyfer adeiladau amaethyddol. Mae adran 70(1) i (3) a (7) i (9) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chadw ardrethi lleol yn yr ardal leol. Mae adran 71 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag addasiadau ar gyfer cymorth caledi.

Mae adran 75(2) i (5) yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 er mwyn gwneud darpariaeth mewn perthynas â disgowntiau yn y dreth gyngor yng Nghymru mewn cysylltiad ag ail gartrefi a chartrefi gwag.

Mae adran 89 yn ymdrin â thalu a chyfrifo cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai ac mae adran 90(1) a (3) yn ymdrin â symiau negyddol o gymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai.

Mae adran 100(3) yn gwneud Atodlen 3 yn effeithiol. Mae'r Atodlen honno yn diwygio rhai o'r darpariaethau sy'n rhoi pwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau o dan ddeddfau llywodraeth leol amrywiol neu yn llywodraethu eu harfer. Mae'n gwneud hynny at ddibenion eu harfer mewn perthynas ag awdurdodau yr effeithir arnynt ganddynt.

Mae adran 101 yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn cysylltiad â materion trosglwyddo staff. Mae hyn yn berthnasol pan fydd awdurdod gwerth gorau yn gwneud contract â pherson ar gyfer darparu gwasanaethau ac mae adran 102 yn gwneud darpariaeth yn benodol mewn cysylltiad â phensiynau a materion trosglwyddo staff.

Mae adran 109(1) yn diwygio Deddf y Comisiwn Archwilio 1998 ac mae'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag archwilio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a ffioedd ar gyfer hynny. Mae adran 109(2) yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer gorchmynion a rheoliadau sydd i'w gwneud o dan adran 52 o'r Ddeddf honno gan y Cynulliad.

Mae adran 117 yn galluogi'r Cynulliad i ddiwygio deddfiadau sy'n berthnasol i awdurdod lleol os yw'n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni arferion cyfrifydda sy'n gyffredinol dderbyniol.

Mae adran 118 yn diwygio adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (sy'n galluogi awdurdodau lleol i dynnu treuliau at ddibenion penodol nad ydynt yn cael eu hawdurdodi fel arall) ynghyd â'r Atodlen gysylltiedig yn y Ddeddf honno.

Mae adran 119 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â'r defnydd o gosbau penodedig ar gyfer tramgwyddau ysbwriel a chwcirc n yn baeddu.

Caiff effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 ei hegluro isod.

Mae adran 64 yn darparu cymorth ar gyfer clybiau chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig mewn cysylltiad ag ardrethi annomestig.

Mae adran 67(2) yn diwygio Atodlen 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel bod yr esemptio o ardrethu annomestig mewn cysylltiad â thir ac adeiladau amaethyddol yn cael ei estyn.

Mae adran 92(2) yn galluogi'r Cynulliad i ddiddymu drwy orchymyn adran 24(3) o Ddeddf Tai 1985 fel y'i diwygiwyd gan adran 92(1) o'r Ddeddf.

Mae adran 120 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio busnes tyllu rhannau o'r corff a lliwio'r croen at ddibenion cosmetig.

Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaethau trosiannol sy'n gysylltiedig â phan ddaw adran 120 i rym.

Mae Atodlenni 7 ac 8 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau a dirymiadau yn y drefn honno.

Mae Atodlen 2 o'r Gorchymyn yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion.


Notes:

[1] 2003 p. 38.back

[2] 1998 p.38.back

[3] O.S. 2000/990.back

[4] O.S. 1990/426.back

[5] O.S. 1991/501.back

[6] O.S. 1992/1353.back

[7] O.S. 1995/850.back

[8] O.S. 1995/1982.back

[9] O.S. 1996/568.back

[10] O.S. 1997/319.back

[11] O.S. 1997/848.back

[12] O.S. 1998/371.back

[13] O.S. 1998/602.back

[14] O.S. 1998/1937.back

[15] O.S. 1999/501.back

[16] O.S. 1999/1852.back

[17] O.S. 2000/992.back

[18] O.S. 2001/3731.back

[19] O.S. 2002/885.back

[20] O.S. 2002/1884.back

[21] O.S. 2003/894.back

[22] O.S. 2003/915.back



English version



ISBN 0 11090822 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 5 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033034w.html