BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Dreth Gyngor (Bandiau Prisio) (Cymru) 2003 Rhif 3046 (Cy.289)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033046w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3046 (Cy.289)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Bandiau Prisio) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 26 Tachwedd 2003 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 5(4) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Bandiau Prisio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2003.

    (2) Dim ond i anheddau a leolir yng Nghymru y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[
3].

    (4) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn ac yn y Ddeddf yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn ag sydd iddynt yn y Ddeddf.

Symiau gwahanol i anheddau mewn bandiau prisio gwahanol
     2.  - (1) Caiff adran 5 o'r Ddeddf ei diwygio yn unol â'r Erthygl hon.

    (2) Ar ôl is-adran (1), mewnosoder  - 

    (3) O ran blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005 rhodder y Tabl isod yn lle'r un a geir yn is-adran (3)  - 

Range of values Valuation band
Values not exceeding £44,000 A
Values exceeding £44,000 but not exceeding £65,000 B
Values exceeding £65,000 but not exceeding £91,000 C
Values exceeding £91,000 but not exceeding £123,000 D
Values exceeding £123,000 but not exceeding £162,000 E
Values exceeding £162,000 but not exceeding £223,000 F
Values exceeding £223,000 but not exceeding £324,000 G
Values exceeding £324,000 but not exceeding £424,000 H
Values exceeding £424,000 I".




Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Yn adran 5(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("y Ddeddf") pennir ym mha gyfran y bydd symiau o dreth gyngor, sy'n berthnasol i anheddau sydd o fewn ardal yr un awdurdod bilio (neu yn yr un rhan o ardal o'r fath) ac sydd wedi eu rhestru mewn bandiau prisio gwahanol, yn daladwy.

Yn adran 5(3) o'r Ddeddf nodir y bandiau prisio ar gyfer anheddau yng Nghymru.

Mae adran 5(4) o'r Ddeddf yn awdurdodi rhoi, drwy orchymyn, ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, neu ar ôl dyddiad o'r fath, gyfran arall yn lle'r gyfran honno sydd, am y tro, yn effeithiol at ddibenion is-adran (1), a bandiau prisio eraill yn lle'r bandiau prisio sydd, am y tro, yn effeithiol at ddibenion is-adran (3).

Mae adran 5(4A) yn awdurdodi newid nifer y bandiau prisio a geir yn adran 5(3).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi cyfran arall a bandiau prisio eraill yn lle'r rhai a geir yn is-adrannau (1) a (3) yn y drefn honno o adran 5 o'r Ddeddf.


Notes:

[1] 1992 p. 14, fel y'i diwygiwyd gan a78 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1992 p. 14, fel y'i diwygiwyd gan a78 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.back

[4] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090819 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 4 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033046w.html