BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Caerdydd (Cymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan) 2003 Rhif 3137 (Cy.301)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033137w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3137 (Cy.301)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Caerdydd (Cymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan) 2003

  Wedi'u gwneud 27 Tachwedd 2003 
  Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Gan fod Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1], adroddiad dyddiedig Tachwedd 2002 ar adolygiad a gyflawnwyd gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd ar y ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan; yn Ninas a Sir Caerdydd ynghyd â chynigion a luniwyd ganddo arnynt;

     A chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny, heb newidiadau;

     A bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

     Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2] yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caerdydd (Cymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan) 2003.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004, a hwnnw yw'r diwrnod penodedig ("appointed day") at ddibenion Rheoliadau 1976, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4 o Reoliadau 1976, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

Newidiadau i Ffiniau Cymunedau
     3. Mae'r ffiniau rhwng cymunedau i Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a'r Llys-Faen; ac Trelái a Sain Ffagan yn cael eu diwygio yn unol ag erthygl 4.

Ffiniau Cymunedau Newydd
    
4.  - (1) Mae'r ffin rhwng cymundau Ystum Taf a'r Eglwys Newydd i fod fel a ddangosir ar Fap A wedi'i farcio fel "y Ffin Gymunedol Newydd".

    (2) Mae'r ffin rhwng cymundau Llanisien a Llys-Faen i fod fel a ddangosir ar Fap B wedi'i farcio fel "y Ffin Gymunedol Newydd".

    (3) Mae'r ffin rhwng cymundau Trelái a Sain Ffagan i fod fel a ddangosir ar Fapiau C ac Ch wedi'u marcio fel "y Ffin Gymunedol Newydd".

Cynghorydd Cymuned Ychwanegol
    
5. Cynyddir y nifer o gynghorwyr cymuned i'w hethol ar gyfer cymuned Sain Ffagan i 9.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


Karen Sinclair
Y Trefnydd

27 Tachwedd 2003

Click here for Image


Click here for Image


Click here for Image


Click here for Image


EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y Gorchymyn yw newid ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan. Ychwanegir un cynghorydd cymuned yng nghymuned Sain Ffagan.

Gwnaed adroddiad yn Nhachwedd 2002 gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol ar adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd ar y ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a'r Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan; yn Ninas a Sir Caerdydd. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i'r ffiniau presennol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi'r argymhellion hynny ar waith heb newidiadau.

Mae printiau o'r mapiau ffiniau A-Ch wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn Neuadd y Cyngor, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) ("Rheoliadau 1976"), y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(4) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion megis y gorchymyn hwn.

Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 1998 at gymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1972 p.70.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) erthygl 2 ac Atodlen 1.back

[3] O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amrywiol offerynnau statudol lle nad yw'r diwygiadau yn berthnasol i'r O.S. hwn).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090850 3


 
© Crown copyright 2003
Prepared 6 January 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033137w.html