BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003 Rhif 3225 (Cy.307)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033225w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3225 (Cy.307)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 11 Rhagfyr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1), (2), (4) a (4A), 140(4) a 143(1), (3) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2].

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003.

Diwygio Rheoliadau 1999
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (4) o reoliad 1:

    (3) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ac yn effeithiol o 1 Tachwedd 2001 ymlaen, rhowch "Aquila Networks plc" yn lle "Midlands Electricity plc"



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Er mwyn sicrhau bod hereditamentau penodol i gyd yn cael eu hardrethu'n ganolog gyda'i gilydd, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau o dan adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. Yn y rheoliadau hynny, caiff ddynodi person a rhagnodi un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditament annomestig mewn perthynas â'r person hwnnw. I'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, mae'r pwcircer hwn wedi cael ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Y prif Reoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddibynnu ar y pwcircer hwn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999. Mae'r rhain yn effeithiol o ran unrhyw restr ardrethu canolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy roi Aquila Networks plc fel person dynodedig mewn perthynas â hereditamentau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at swyddogaethau darparwr trydan cyhoeddus, neu at ddibenion atodol, yn lle Midlands Electricity plc o 1 Tachwedd 2001.


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 53(1), (2), (4) a (4A), 140(4) a 143(1), (3) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/3453.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090837 6


 
© Crown copyright 2003
Prepared 17 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033225w.html