OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 3236 (Cy.316)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
9 Rhagfyr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
12 Rhagfyr 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 [1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 12 Rhagfyr 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992[2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2.
- (1) Mae Rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) mewnosodwch y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor -
"
"Local Health Board" has the meaning assigned to it by section 16BA of the Act[3];".
(3) Ar ôl paragraff (1B), mewnosodwch y paragraff canlynol -
"
(1C) In the application of these Regulations in relation to Wales "Health Authority" shall, in each place where these words occur, have effect as if there were substituted in the words "Local Health Board".
Diwygio rheoliad 12 o'r prif Reoliadau
3.
Yn rheoliad 12 o'r prif Reoliadau (penderfynu ceisiadau o ran lleoliadau a reolir), yn is-baragraff 1(d) yn lle "FHSA", ym mhob man lle mae'r talfyriad hwn yn digwydd, rhodder y geiriau "Local Health Board".
Diwygio rheoliad 13 o'r prif Reoliadau
4.
Yn rheoliad 13 o'r prif Reoliadau (apelau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan reoliad 12), yn is-baragraff 2(a) yn lle "FHSA", ym mhob man lle mae'r talfyriad hwn yn digwydd, rhodder y geiriau "Local Health Board".
Diwygio rheoliad 18B o'r prif Rheoliadau
5.
Yn rheoliad 18B o'r prif Reoliadau (y cynllun gwobrwyo), ym mharagraff (1) -
(a) yn is-baragraff (i) -
(i) yn lle "immediately informed" rhowch "informed", a
(ii) ar ôl y geiriau "of this action" mewnosodwch "as soon as practicable";
(b) yn is-baragraff (ii) -
(i) ar ôl "but" rhowch "had reason to believe at that time or", a
(ii) yn lle "within the period of 14 days beginning with the date the order was presented" rhowch "as soon as practicable"; ac
(c) ar ddiwedd y geiriau cloi, ychwanegwch "which has thereafter established that the order referred to in this paragraph was not a genuine order for the person named on the prescription form".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (O.S. 1992/662) ("y prif Reoliadau") sy'n llywodraethu'r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 2 o'r prif Reoliadau yn cael ei ddiwygio fel y bydd cyfeiriad at "Health Authority" yn cael ei drin fel cyfeiriad at "Local Health Board".
Diwygir Rheoliad 12 a 13 fel bod cyfeiriadau at "Local Health Board" yn cael eu rhoi yn lle "FHSA".
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau hefyd i Reoliad 18B o'r prif Reoliadau (y cynllun gwobrwyo).
Notes:
[1]
{d1}{t1}1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(128)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Diwygiwyd adran 41 gan Ddeddf 1980, adrannau 1 ac 20(1) ac Atodlen 1, paragraff 53 ac Atodlen 7; gan O.S. 1985/39, erthygl 7(13); gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(1) ac Atodlen 10; gan Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc. 1992 (p.28), adran 2; gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 29 a chan Ddeddf 1997, Atodlen 2, paragraff 13.{d1}{t1}Amnewidiwyd adran 42 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1986 (p.66), adran 3(1); ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17 a'i diwygio gan O.S. 1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf 1990, adran 12(3) a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 30.{d1}{t1}Diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1980, Atodlen 9, paragraff 18(2); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31; a chan Ddeddf 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraff 14.{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back
[2]
O.S. 1992/662; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/2451, 1994/2402, 1995/644, 1996/698, 1998/681 a 2224, 1999/696, 2001/1396 a 2002/3189 (Cy.305).back
[3]
Mewnosodwyd adran 16BA yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090842 2
|