BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040313w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif313 (Cy.31)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 10 Chwefror 2004 
  Yn dod i rym 6 Mawrth 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (f), (17)(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 6 Mawrth 2005.

Diwygio Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995
    
2. Diwygir Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995[4]) (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 10.

     3. Yn rheoliad 1(2) (dehongli), yn y diffiniad o "the Directive", yn lle'r geiriau "Commission Directive 1999/50/EC" rhowch y geiriau "Commission Directive 2003/14/EC[5]".

     4. Yn rheoliadau 2(ii) a 3(b) (amodau ar gyfer gwerthu fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol), yn lle'r ymadrodd "regulation 12" rhowch yr ymadrodd "regulations 12 and 12A".

    
5. Yn rheoliadau 5(1)(a) a 6(1)(a) (allforio fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol i drydydd gwledydd), yn lle'r ymadrodd "11 and 12" rhowch yr ymadrodd ", 11, 12 and 12A".

    
6. Yn rheoliadau 8(2) a 9(2) (cyfansoddiad fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol), hepgorwch y geiriau o "and it shall not" hyd at y diwedd.

    
7. Ar ôl rheoliad 12 (cyfansoddiad fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol) mewnosodwch y rheoliad canlynol  - 

     8. Yn rheoliad 22 (tramgwyddau a gorfodi)  - 

     9. Yn lle rheoliad 23 (cymhwyso darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990) rhowch y rheoliad canlynol  - 

     10. Ar ôl Atodlen 7 (yr elfennau mwynol mewn llaeth buchod) mewnosodwch fel Atodlenni 7A a 7B gynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Chwefror 2004



YR ATODLEN
Rheoliad 10


ATODLENNI 7A A 7B NEWYDD I'W MEWNOSOD YN RHEOLIADAU FFORMWLA FABANOD A FFORMWLA DDILYNOL1995







EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995, fel y'u diwygiwyd ("Rheoliadau 1995"), mewn perthynas â Chymru. Mae Rheoliadau 1995 yn gymwys i Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu ar gyfer Cymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/14/EC (OJ Rhif 41, 14.2.2003, t.37) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/321/EEC (OJ Rhif L175, 4.7.91, t.35) ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 6 Mawrth 2005.

     2. Er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/14/EC mae'r Rheoliadau  - 

     3. Er mwyn gweithredu brawddeg olaf Erthygl 6(2) o Gyfarwyddeb 91/321/EEC fel y'i hamnewidiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/50/EC, mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynglycircn â dulliau dadansoddiadol ar gyfer penderfynu lefelau gweddillion plaleiddiaid (rheoliad 7).

     4. Mae'r Rheoliadau hefyd  - 

     5. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/14/EC yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), o'i ddarllen ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] O.S. 1995/77; O.S.2001/1690 yw'r offeryn diwygio perthnasol yw (Cy.120).back

[5] OJ Rhif L41, 14.2.2003, t.37.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090872 4


  © Crown copyright 2004

Prepared 24 February 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040313w.html