BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040315w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif315 (Cy.33) (C.16)

HAWLIAU TRAMWY, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 10 Chwefror 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (" y Ddeddf")[1]:

Enwi a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Y diwrnod penodedig
    
2. Y diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym  - 

yw 1 Ebrill 2004.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Chwefror 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym, ar 1 Ebrill 2004, i adrannau 63 a 70(1) a (3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") a pharagraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 iddi mewn perthynas â Chymru,

Mae adran 63 o'r Ddeddf yn mewnosod adrannau 130A, 130B, 130C a 130D yn Neddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980"). Cyflwynwyd y darpariaethau hyn er mwyn cryfhau'r darpariaethau presennol sy'n ymwneud â symud rhwystrau o hawliau tramwy. Lle bydd unrhyw berson yn credu bod awdurdod priffyrdd lleol ("yr awdurdod") yn methu yn ei ddyletswydd o dan adran 130 o Ddeddf 1980 i atal, cyn belled â phosibl, hawl dramwy rhag cael ei chau neu ei rhwystro, mae adran 130A yn galluogi'r person hwnnw i gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod yn gofyn iddo sicrhau bod y rhwystr yn cael ei symud. Lle nad yw'r person a gyflwynodd yr hysbysiad yn fodlon bod y rhwystr wedi'i symud, mae adran 130B yn galluogi'r person hwnnw i geisio gorchymyn llys ynadon er mwyn gorfodi'r awdurdod i fynd ati i sicrhau bod y rhwystr yn cael ei symud. Mae adrannau 130C a 130D yn darparu materion gweithdrefnol cysylltiedig.

Mae adran 70(1) o'r Ddeddf yn ymestyn pwcircer awdurdod priffyrdd o dan adran 66(3) o Ddeddf 1980 i ddarparu a chynnal a chadw nodweddion diogelwch ar lwybrau troed trwy alluogi'r awdurdod i ddarparu a chynnal a chadw pyst a thrwy ymestyn y ffordd y mae'r adran yn cael ei chymhwyso i gynnwys llwybrau ceffylau.

Mae adran 70(3) o'r Ddeddf yn ymestyn pwcircer awdurdod i ddefnyddio cerbydau ar droedffyrdd, llwybrau troed a llwybrau ceffylau trwy alluogi'r awdurdod i ddefnyddio cerbydau ac offer o'r fath at ddibenion atal neu symud rhwystrau, niwsans neu ymyriadau eraill.

Mae paragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff sydd â phwcircer i gadarnhau (neu, yn achos paragraff 1, i gadarnhau neu wneud) gorchymyn creu, dileu neu wyro llwybr cyhoeddus i ystyried unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn cynllun gwella hawliau tramwy a baratowyd o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf lle mae'r gorchymyn arfaethedig yn effeithio ar dir a gynhwysir yn y cynllun. Cychwynnwyd adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf ar 1 Tachwedd 2002 gan Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2615) (Cy.253) (C.82).



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran(nau) neu Atodlen(ni) Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
46(1)(b) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
57 (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
60 a 61 1 Tachwedd 2002 O.S. 2002/2615 (Cy.253) (C.82)
68 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(2) a (4) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
72 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Rhan IV (adrannau 82 i 93 ac, yn unol â hynny, Atodlenni 13, 14 a 15) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
96 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
99 30 Ionawr 2001 O.S. 2001/203 (Cy.9) (C.10)
102 (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 6, paragraffau 18(a) a 19 (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhannau I a II (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhannau V a VI 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)


Notes:

[1] 2000 p.37.back

[2] 1980 p.66.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090867 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 18 February 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040315w.html