BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif451 (Cy.42)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
24 Chwefror 2004 | |
|
Yn dod i rym |
25 Chwefror 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(7)(a), 44(4) a 113, o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2].
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 25 Chwefror 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at adran â Rhif yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)
2.
Mae'r rhannau o'r cyfrifiad sydd i'w wneud o dan adran 43(3) yn cael eu haddasu ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2004 i'r graddau y bydd paragraff (a)(i) yn cael effaith fel petai'n cynnwys, yn ychwanegol at y materion sydd eisoes wedi'u pennu ynddo, unrhyw daliadau refeniw heb eu clustnodi eraill a wneir i awdurdod heddlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn honno.
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth
3.
O ganlyniad i'r ddarpariaeth a wnaed gan reoliad 2 uchod, mae'r rhannau o'r cyfrifiad sydd i'w wneud o dan adran 44(1) yn cael eu haddasu ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2004 i'r graddau y bydd y diffiniad o "P" yn cael effaith fel petai'n cynnwys, yn ychwanegol at y materion sydd eisoes wedi'u pennu ynddo, unrhyw daliadau refeniw heb eu clustnodi eraill a wneir i awdurdod heddlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Chwefror 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 43 a 44 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn rhagnodi'r rheolau y mae'n rhaid i'r prif awdurdodau praeseptio lynu wrthynt wrth gyfrifo'u hanghenion cyllideb a swm sylfaenol eu treth gyngor ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Wrth wneud y cyfrifiadau hyn, rhaid i awdurdodau gymryd i ystyriaeth symiau penodol y maent yn amcangyfrif y byddant yn daladwy iddynt ar gyfer y flwyddyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod rhaid i awdurdodau heddlu yng Nghymru (sy'n brif awdurdodau praeseptio at ddibenion Deddf 1992) gymryd i ystyriaeth unrhyw symiau ar ffurf taliadau refeniw heb eu clustnodi ychwanegol y mae'n bosibl y byddant yn eu cael oddi wrth y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn ariannol 2004/5 (yn ogystal â'r symiau eraill y cyfeirir atynt yn yr adrannau hyn) wrth wneud eu cyfrifiadau ynglyn â'u hanghenion cyllidebol a'u cyfrifiadau treth gyngor am y flwyddyn honno.
Notes:
[1]
1992 p.14.back
[2]
Gweler O.S. 1999/672, sef Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Cymru) 1999.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090876 7
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
12 March 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040451w.html