BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040460w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif460 (Cy.45)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 25 Chwefror 2004 
  Yn dod i rym 26 Chwefror 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 113(1) a (2) a 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1], a pharagraffau 1, 2(4)(a), (e), (g), (i) a (j), 4(4) a (5) a 14(1) a (2) o Atodlen 2 iddi a pharagraffau 6(1) a (2) o Atodlen 3 iddi ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 26 Chwefror 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Diwygio Rheoliadau 1993
     3.  - (1) Mae Rheoliadau 1993 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2  - 

    (3) Ar ôl paragraff 7(b) o Atodlen 1 mewnosodwch  - 

    (4) Ym mharagraff 15(b) o Atodlen 2  - 

    (5) Ym mharagraff 15(c)(i) o Atodlen 2 yn lle "subsection (2) or (3)" rhowch "subsection (3) or (4)".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Chwefror 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 ("y prif reoliadau") yn rhagnodi'r materion sydd i'w cynnwys mewn hysbysiadau sy'n galw am dalu'r dreth gyngor a'r wybodaeth sydd i'w darparu gyda'r hysbysiadau hynny.

Ym mharagraffau 5 a 6(1) o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau, mae'r materion sydd i'w cynnwys mewn hysbysiadau o'r fath yn cynnwys datganiad o'r band prisio perthnasol ar gyfer yr annedd berthnasol a datganiad o swm y dreth gyngor sy'n gymwys i anheddau sy'n dod o fewn y band hwnnw mewn blwyddyn benodol, yn ôl eu trefn. Mae'r bandiau prisio perthnasol yn cael eu penderfynu drwy gyfeirio at restr brisio pob awdurdod bilio. Mae adran 77 (Cylch ailbrisio statudol) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ("Deddf 2003") yn mewnosod adran 22B yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992"). Mae adran 22B yn darparu bod rhaid i restrau prisio newydd gael eu llunio mewn perthynas ag awdurdodau bilio yng Nghymru ar 1 Ebrill 2005 ac o dro i dro ar ôl hynny yn ôl yr hyn a bennir neu a ragnodir.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi diffiniad newydd o'r band prisio perthnasol yn rheoliad 2 o'r prif reoliadau yn lle'r hen ddiffiniad. Mae effaith y diffiniad newydd fel a ganlyn: os yw rhestr brisio newydd i fod i ddod i rym ar gyfer blwyddyn benodol, yna rhaid canfod y band prisio perthnasol ar gyfer y flwyddyn honno drwy gyfeirio at y rhestr y bwriedir ei llunio fel y rhestr newydd neu drwy gyfeirio at wybodaeth ynglyn ag eiddo a ddangosir ar y rhestr arfaethedig i'r graddau y mae'n wahanol i'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y rhestr arfaethedig.

Mae paragraff 7 o Atodlen 1 i'r prif reoliadau yn nodi'r darpariaethau o dan Ddeddf 1992 y mae'n rhaid i awdurdod bilio roi sylw iddynt wrth baratoi datganiad o'r diwrnodau (os oes rhai) y cyfrifir y swm y mae angen ei dalu o dan hysbysiad galw am dalu'r dreth gyngor yn unol â hwy. Mae Adran 76 (Pwcircer awdurdod bilio i leihau swm y dreth sy'n daladwy) o Ddeddf 2003 yn mewnosod darpariaeth newydd yn Neddf 1992 (adran 13A). Mae Adran 13A yn rhoi disgresiwn i awdurdod bilio, lle bo person yn atebol i dalu'r dreth gyngor ar gyfer unrhyw annedd drethadwy ac unrhyw ddiwrnod, i leihau'r swm y mae person yn atebol i'w dalu ar gyfer yr annedd a'r diwrnodau i'r graddau y gwêl yr awdurdod yn dda.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff 7 o Atodlen 1 i'r prif reoliadau fel bod rhaid i awdurdod bilio, wrth baratoi datganiad o'r diwrnodau (os oes rhai) y cyfrifir y swm y mae angen ei dalu o dan hysbysiad galw am dalu'r dreth gyngor yn unol â hwy, roi sylw bellach (yn ychwanegol at y darpariaethau hynny sydd eisoes wedi'u cynnwys ym mharagraff 7) i adran 13A o Ddeddf 1992. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff 15 o Atodlen 2 i'r prif reoliadau hefyd fel bod rhaid bellach i'r nodiadau esboniadol sydd i'w darparu gyda hysbysiad sy'n galw am dalu'r treth gyngor gynnwys (yn ychwanegol at yr arwyddion cyffredinol hynny sydd eisoes wedi'u cynnwys ym mharagraff 15) arwydd cyffredinol ynglyn â'r amgylchiadau y gall person fod yn gymwys odanynt i gael lleihad yn swm y dreth gyngor y mae'n atebol i'w dalu o dan adran 13A o Ddeddf 1992.


Notes:

[1] 1992 p.14.back

[2] Gweler O.S. 1999/672, sef Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Cymru) 1999.back

[3] O.S. 1993/255.back

[4] O.S. 1992/549.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090878 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 16 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040460w.html