BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif669 (Cy.62) (C.25)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
9 Mawrth 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 181 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 [1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Deddf 1967" ("the 1967 Act") yw Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967[2];
ystyr "Deddf 1985" ("the 1985 Act") yw Deddf Landlord a Thenant 1985[3];
ystyr "Deddf 1987" ("the 1987 Act") yw Deddf Landlord a Thenant 1987[4]);
ystyr "Deddf 1993" ("the 1993 Act") yw Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993[5];
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Tai 1996[6]);
ystyr "TPL" ("LVT") yw tribiwnlys prisio lesddaliadau;
mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac Atodlenni iddi; ac
mae unrhyw gyfeiriad at ddiddymiad yn gyfeiriad at ddiddymiad a wneir gan adran 180 ac Atodlen 14.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Mawrth 2004
2.
Daw darpariaethau canlynol i rym ar 30 Mawrth 2004 -
(a) adrannau 71 i 73, 75 i 77, 79, 81 i 83 , 85 i 91, 93 i 103, 105 i 109, 111 i 113, 159, 163, 173, Atodlenni 6 a 7;
(b) adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 174 ac Atodlen 12 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym; ac
(c) yn ddarostyngedig i'r arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn -
(i) adrannau 148, 149, 150, 155, 157 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8 i 13 o Atodlen 10, 158, 175, 176 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 i 15 o Atodlen 13, Atodlen 9, paragraffau 8 i 13 o Atodlen 10, Atodlen 11 a pharagraffau 1 i 15 o Atodlen 13;
(ii) is-adrannau (1) i (5) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â chymhwyso i'r Goron adrannau 152 i 154, 164 i 171, paragraffau 1 i 7 o Atodlen 10 a pharagraff 16 o Atodlen 13;
(iii) is-adran (6) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y mae'r amnewidiadau a wnaed gan yr is-adran honno'n ymwneud ag adrannau 42A a 42B o Ddeddf 1987;
(iv) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 180 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i) i (vi), adran 151 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym -
(i) mewn perthynas ag unrhyw achos y mae is-baragraff (ii), (iii), (iv) neu (vi) yn gymwys iddo, ni fydd unrhyw effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 151 a bydd Gorchymyn Taliadau Gwasanaeth (Amcangyfrifon ac Ymgynghori) 1988[7] yn parhau'n gymwys;
(ii) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r gwaith sydd yn gymwys wedi dechrau cyn 31 Mawrth 2004;
(iii) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r landlord wedi rhoi neu arddangos yr hysbysiad angenrheidiol o dan adran 20 o Ddeddf 1985, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys, cyn 31 Mawrth 2004;
(iv) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys y mae is-baragraff (v) yn gymwys iddo, mae'r landlord wedi rhoi hysbysiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Gweithfeydd Cyhoeddus 1991[8], Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993[9] neu Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995[10] cyn 31 Mawrth 2004;
(v) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i waith sydd yn gymwys a wneir o dan gontract -
(a) y bwriedir ei wneud ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004; ac
(b) sydd am gyfnod o ddeuddeg mis neu'n llai;
(vi) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, o dan gytundeb a wneir gan neu ar ran landlord neu uwch landlord, cyn 31 Mawrth 2004, mae gwaith sydd yn gymwys yn cael ei wneud ar unrhyw amser yn y cyfnod yn dechrau ar y dyddiad hwnnw ac yn dod i ben ddau fis ar ôl y dyddiad hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11])
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
ATODLEN 1Erthygl 2(c)(iv)
DIDDYMIADAU
RHAN
1
TRIBIWNLYSOEDD PRISIO PRYDLESI
Teitl byr a phennod
|
Hyd a lled y diddymiad
|
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967 (p. 88) |
Adran 21(1A) a (3) i (4A). |
Deddf Tai 1980 (p. 51) |
Yn adran 142 -
is-adran (2), ac
yn is-adran (3), y geiriau o'r dechrau i "and".
Yn Atodlen 22 -
Rhan 1, ac yn Rhan 2, paragraff 8(4) i (6).
|
Deddf Landlord a Thenant, 1985 (p. 70) |
Adrannau 31A i 31C.
Yn yr Atodlen, paragraff 8(5).
|
Deddf Landlord a Thenant 1987 (p.31) |
Adran 23(2).
Adrannau 24A a 24B.
Yn adran 38, yn y nodyn ochr, y geiriau "by the court".
Adran 52A
Yn adran 53(2), y geiriau "under section 52A(3) or".
|
Deddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p. 53) |
Yn Atodlen 3, paragraff 13. |
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) |
Adran 75(4) a (5)
Yn adran 88 -
yn is-adran (2)(b), y geiriau "constituted for the purposes of that Part of that Act", a
is-adrannau (3) i (5) a (7).
|
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993 |
Yn adran 91 -
yn is-adran (1), y geiriau o'r dechrau i "this section; and",
is-adrannau (3) i (8),
is-adran (10), ac
yn is-adran (11), y geiriau o "and the reference" i'r diwedd.
Yn adran 94, yn is-adran (10), y geiriau o "and references in this subsection" i'r diwedd.
Yn adran 101(1), y diffiniad o "rent assessment committee".
|
Deddf Tai 1996 (p. 52) |
Adran 83(3).
Adran 86(4) a (5).
Adran 119.
Yn Atodlen 6, yn Rhan 4, paragraffau 7 ac 8.
|
RHAN
2
DIDDYMIADAU ERAILL
Teitl byr a phennod
|
Hyd a lled y diddymiad
|
Deddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70) |
Adran 19(2A) i (3).
Yn adran 39, y cofnod sy'n cyfeirio at yr ymadrodd "flat".
Yn yr Atodlen -
yn y pennawd cyn paragraff 2, y geiriau "Request for",
yn y pennawd cyn paragraff 4, y geiriau "Request relating to",
yn y pennawd cyn paragraff 5, y geiriau "on request".
|
Deddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) |
Yn adran 29(2)(a), y geiriau "repair, maintenance, insurance or".
Adran 56(2).
Yn Atodlen 2, paragraffau 3 a 7
|
Deddf Tai 1996 (p.52) |
Adran 83(1).
Yn Atodlen 9, paragraff 2(3) a (7).
|
ATODLEN 2Erthygl 2(c)
ARBEDION
Landlordiad absennol - tai lesddaliad
1.
Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adrannau 148 a 149 effaith mewn perthynas â chais am ryddfreinio a wneir o dan adran 27 o Ddeddf 1967 cyn 31 Mawrth 2004.
Diffiniad o daliadau gwasanaethau
2.
Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 7 o Atodlen 9 yn gymwys i gostau a dynnir cyn 31 Mawrth 2004 mewn cysylltiad â materion y codir tâl gwasanaethau ar eu cyfer.
Ystyr "management" yn adran 24 o Ddeddf 1987
3.
Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004.
Yr hawl i gaffael buddiant y landlord
4.
Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 9 o Atodlen 9 a'r diddymiad yn adran 29 o Ddeddf 1987 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 29 o'r Ddeddf honno cyn 31 Mawrth 2004.
Hawl tenant i gael archwiliad rheoli
5.
Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 10 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 80 o Ddeddf 1993 cyn 31 Mawrth 2004.
Rhwymedigaeth i dalu taliadau gwasanaethau
6.
Ni fydd effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 155 a diddymiadau adran 19(2A) i (3) o Ddeddf 1985 ac o adran 83(1) o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag -
(a) unrhyw gais a wneir i TPL o dan adran 19(2A) neu (2B) o Ddeddf 1985; neu
(b) unrhyw achos sy'n ymwneud â thaliad gwasanaethau a drosglwyddir i TPL gan lys sirol,
cyn 31 Mawrth 2004.
Yswiriant
7.
Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraffau 8 i 13 o Atodlen 10 a'r diddymiadau canlyniadol yn yr Atodlen i Ddeddf 1985 yn gymwys i gais a wneir o dan yr Atodlen honno cyn 31 Mawrth 2004.
Taliadau gweinyddol: rhesymoldeb, galwadau ac atebolrwydd i dalu
8.
Ni fydd paragraffau 2 i 5 o Atodlen 11 yn gymwys i dâl gweinyddol a oedd yn daladwy cyn 31 Mawrth 2004.
Taliadau gweinyddol: penodi rheolwr
9.
Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 11 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004.
Taliadau o dan gynlluniau rheoli ystadau
10.
Ni fydd Adran 159 yn gymwys i daliad o dan gynllun rheoli ystad a oedd yn daladwy cyn 31 Mawrth 2004.
Amrywio prydlesi: trosglwyddo awdurdodaeth
11.
Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adran 163 effaith mewn perthynas â chais a wneir i'r llys o dan Ran 4 o Ddeddf 1897 cyn 31 Mawrth 2004.
Tir y Goron: amrywio prydlesi
12.
Ni fydd amrywiad unrhyw denantiaeth a wneir gan orchymyn neu yn unol â gorchymyn a wnaed cyn 31 Mawrth 2004 o dan adran 38 o Ddeddf 1987 yn cael ei drin fel un sy'n rhwymo'r Goron, fel rhagflaenydd yn y teitl o dan y denantiaeth, yn rhinwedd adran 39(1) o'r Ddeddf honno.
Tribiwnlysoedd prisio prydlesi
13.
Ni fydd effaith i Adran 175, y diwygiadau a wnaed gan adran 176 ac Atodlen 13 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas ag -
(a) unrhyw gais a wneir i TPL; neu
(b) unrhyw achosion a drosglwyddir i TPL gan gyngor sir,
cyn 31 Mawrth 2004.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddapariaethau amrywiol Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002") mewn perthynas â Chymru.
Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn, daw'r darpariaethau a grybwyllir yn erthygl 2(a) i (c) i rym ar 30 Mawrth 2004. Maent yn cynnwys:
(a) hawl newydd i lesddeiliaid hir fflatiau gyd-reoli eu hadeilad yn ddarostyngedig i gydymffurfio â rhai rheolau cymhwyso (adrannau 71 i 113);
(b) newidiadau i'r diffiniad o daliadau gwasanaethau a'r hawl i herio'r taliadau hynny (adrannau 150 a 155);
(c) newidiadau i'r darpariaethau sy'n ymnweud â cheisiadau am wybodaeth yswiriant gan y landlord (adran 157);
(ch) yr hawl i herio taliadau eraill o dan brydlesi a thaliadau mewn perthynas â chynlluniau rheoli ystadau (adrannau 158 a 159);
(d) cymhwyso darpariaethau amrywiol landlord a thenant i dir y Goron (adran 172);
(dd) ymestyn awdurdodaeth tribiwnlysoedd prisio prydlesi a chydgrynhoi'r darpariaethau sy'n ymwneud â'u gweithdrefn (adrannau 163 a 173 i 176); ac
(e) diwygiadau a diddymiadau canlyniadol a wnaed gan Ddeddf 2002 mewn Deddfau eraill.
Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn erthygl 2(d), daw adran 151 o Ddeddf 2002 i rym hefyd ar 30 Mawrth 2004. Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer gofynion ymgynghori newydd mewn perthynas â thaliadau gwasanaethau.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth
|
Y Dyddiad Cychwyn
|
Rhif O.S.
|
a.74 (yn rhannol) |
1 Ionawr 2003 |
2002/3012 (Cy.284) |
a.78 (yn rhannol) |
|
|
a.80 (yn rhannol) |
|
|
a.84 (yn rhannol) |
|
|
a.92 (yn rhannol) |
|
|
a.110 (yn rhannol) |
|
|
aa.114 i 120 |
|
|
a.122 (yn rhannol) |
|
|
a.125 |
|
|
a.127 i 147 |
|
|
aa.151 i 153 (yn rhannol) |
|
|
a.156 (yn rhannol) |
|
|
a.160 i 162 |
|
|
a.164 (yn rhannol) |
|
|
a.166 (yn rhannol) |
|
|
a.167 (yn rhannol) |
|
|
a.171 (yn rhannol) |
|
|
a.174 (yn rhannol) |
|
|
a.180 (yn rhannol) |
|
|
Atodlen 12 (yn rhannol) |
|
|
Atodlen 14 (yn rhannol) |
|
|
Notes:
[1]
2002 p.15.back
[2]
1967 p.88.back
[3]
1985 p.70.back
[4]
1987 p.31.back
[5]
1993 p.28.back
[6]
1996 p.52.back
[7]
O.S. 1988/1285.back
[8]
O.S. 1991/2680, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.back
[9]
O.S. 1993/3228, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.back
[10]
O.S. 1995/201, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.back
[11]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090882 1
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
16 March 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040669w.html