BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif909 (Cy.92)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Sbwriel a Baeddu gan Gwn (Cosb Benodedig) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
24 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 88(7) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1], a chan y ddarpariaeth honno fel y'i cymhwysir gan adran 4(2) o Ddeddf Cwn (Baeddu Tir) 1996[2], sef y pwerau sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru[3], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sbwriel a Baeddu gan Gn (Cosb Benodedig) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr yn unig ac mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig.
Swm y gosb benodedig
2.
Yn adran 88(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (sy'n pennu'r gosb benodol am adael sbwriel ac a gymhwysir yn ogystal gan adran 4(2) o Ddeddf C n (Baeddu Tir) 1996) -
(a) ar ôl y swm a bennwyd ar gyfer Lloegr mewnosoder "or, in Wales, £75", a
(b) diddymir drwy hyn unrhyw gyfeiriad at £25 sy'n goroesi.
Dirymu
3.
- (1) Dirymir Gorchymyn Sbwriel (Cosb Benodedig) 1996[4] mewn perthynas â Chymru.
(2) Dirymir Erthygl 3 o Orchymyn Baeddu gan G n (Cosbau Penodedig) 1996[5] (swm y gosb benodedig) mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn darparu y caiff rhywun dalu cosb benodedig er mwyn ei ryddhau ei hun o fod yn agored i'w gollfarnu am y tramgwydd o adael sbwriel o dan adran 87 o'r Ddeddf honno.
Mae Adran 4 o Ddeddf C n (Baeddu Tir) 1996 yn darparu y caiff rhywun dalu cosb benodedig er mwyn ei ryddhau ei hun o fod yn agored i'w gollfarnu am y tramgwydd o fethu â chael gwared ar faw c n o dan adran 3 o'r Ddeddf honno, ac mae'n cymhwyso darpariaethau adran 88 (2)-(8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd.
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yn cynyddu'r gosb benodedig am y tramgwyddau hyn ill dau, sef y tramgwydd o adael sbwriel a'r tramgwydd o faeddu gan g n, o £25 i £75.
Notes:
[1]
1990 p.43.back
[2]
1996 p.20.back
[3]
Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[4]
O.S. 1996/3055.back
[5]
O.S. 1996/2763.back
[6]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11 090911 9
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
31 March 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040909w.html