BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif910 (Cy.93) (C.39)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Dr 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
24 Mawrth 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 105 o Ddeddf D r 2003[1] ("y Ddeddf"), ar ôl ymghynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â chychwyn adran 67 o'r Ddeddf, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dr 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004.
Y Diwrnod Penodedig
2.
- (1) 1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym -
(a) adran 67 o'r Ddeddf (aelodaeth o bwyllgorau rhanbarthol atal llifogydd yng Nghymru);
(b) adran 69 o'r Ddeddf (grantiau ar gyfer gwaith draenio a systemau rhybudd rhag llifogydd);
(c) paragraff 42 o Atodlen 7 i'r Ddeddf (mân ddiwygiadau canlyniadol) ac adran 101(1) o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef;
(ch) Atodlen 9 i'r Ddeddf (diddymiadau a dirymu), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau D r 1991[2] ac adran 101(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[3]; a
(d) adran 75 o'r Ddeddf (estyn pwerau wrth gefn awdurdod gorfodi).
(2) Caiff y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(b) i (d) eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru'n unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau adran 67 o Ddeddf D r 2003; adrannau 69 a 75 o'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru; a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i rym.
Mae adran 67 o'r Ddeddf yn mewnosod adrannau 16A a 16B newydd yn Neddf yr Amgylchedd 1995. Mae adran 16A newydd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy orchymyn a wnaed drwy gyfrwng offeryn statudol, i wneud darpariaeth, yn ddarostyngedig i amodau, i bennu cyfanswm nifer yr aelodau, a'r dull o ddewis a phenodi cadeirydd ac aelodau eraill o bwyllgorau rhanbarthol atal llifogydd Cymreig, ac i wneud darpariaeth ar gyfer y cyfryw ddibenion atodol ag sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae adran 69 yn diddymu adrannau 147 i 149 o Ddeddf Adnoddau D r 1991 er mwyn dileu unrhyw anheuaeth y gellir talu grantiau draenio tir a rhybudd rhag llifogydd i'r Asiantaeth o dan adran 47 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Mae Adran 75 yn diwygio Deddf Cronfeydd D r 1975 i estyn pwerau wrth gefn yr awdurdod gorfodi os na fydd ymgymerwr cronfa dd r yn cydymffurfio â rhai gofynion.
Notes:
[1]
2003 p.37.back
[2]
1991 p.57.back
[3]
1995 p.25.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090912 7
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
31 March 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040910w.html