BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif1025 (Cy.122)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
30 Mawrth 2004 | |
|
Yn dod i rym |
30 Ebrill 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3), 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos i'r Cynulliad ei fod yn ddymunol:
RHAN 1
Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Dehongli
2.
- (1) Yn y rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
ystyr "absenoldeb heb ei awdurdodi" ("unauthorised absence") yw achlysur pan gofnodir disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 ac mae "absenoldeb wedi'i awdurdodi" ("authorised absence") i'w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr "ACCAC" ("ACCAC") yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales)[3];
ystyr "asesiadau statudol" ("statutory assessments") yw trefniadau'r asesiadau hynny a bennir gan y Cynulliad mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(3)(c) o Ddeddf 2002 ac mae "lefel" ("level") i'w ddehongli yn unol â darpariaethau'r gorchymyn hwnnw;
ystyr "Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol" ("National Data Collection Agency") yw corff sydd, at ddibenion neu mewn cysylltiad â swyddogaethau'r Cynulliad sy'n ymwneud ag addysg, yn gyfrifol am gydlynu gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion;
ystyr "asiantaeth farcio allanol" ("external marking agency") yw corff a enwebwyd gan ACCAC ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad i farcio profion y Cwricwlwm Cenedlaethol;
ystyr "awdurdod" ("authority") yw -
(i) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, yr awdurdod hwnnw; a
(ii) mewn perthynas ag ysgol arbennig neu ysgol annibynnol nas cynhelir, yw'r awdurdod addysg lleol y lleolir yr ysgol yn ei ardal;
ystyr "blwyddyn adrodd yr ysgol" ("reporting school year") yw'r flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol y mae'r wybodaeth a roir i'r Cynulliad i'w gyhoeddi gan y Cynulliad neu, yn ôl y digwydd, yr awdurdodau addysg lleol;
mae i "blwyddyn ysgol" yr ystyr a roddir i "school year" gan adran 579(1) o Ddeddf 1996[4];
ystyr "Canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd" ("Statutory Assessment and Reporting Arrangements guidance") yw'r canllawiau a gyhoeddir gan ACCAC bob blwyddyn ysgol ar weinyddiaeth yr asesiadau statudol;
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae "cymhwyster allanol a gymeradwywyd" ("approved external qualification") yn gymhwyster o fewn ystyr adran 96(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[5] a gafodd ei gymeradwyo, ar yr adeg berthnasol, o dan adran 99 o'r Ddeddf honno at ddibenion adran 96 o'r Ddeddf honno;
mae i " diwrnod ysgol" yr ystyr a roddir i "school day" gan adran 579(1) o Ddeddf 1996;
ystyr " Ddeddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996;
ystyr "Ddeddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002[6];
ystyr "NQF" ("NQF") yw Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sy'n cynnwys cymwysterau achrededig gan ACCAC, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a Chyngor Gogledd Iwerddon ar gyfer Arholiadau Cwricwlwm ac Asesiadau ac ystyr "lefel NQF" ("NQF level") yw'r lefel(au) yr achredir y cymwysterau o fewn NQF;
ystyr "profion Cwricwlwm Cenedlaethol" a "thasgau Cwricwlwm Cenedlaethol" ("NC tests" and "NC tasks") yn eu trefn, yw profion Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau Cwricwlwm Cenedlaethol a roddir i ddisgyblion yn unol â'r trefniadau statudol;
ystyr "pynciau perthnasol" ("relevant subjects") yw -
(a) o ran asesiad athrawon ac unrhyw gyfnod allweddol, yr holl bynciau hynny y mae'n ofynnol i'r disgybl neu'r disgyblion sy'n eu hastudio gael eu hasesu drwy asesiad athrawon;
(b) o ran profion Cwricwlwm Cenedlaethol ac unrhyw gyfnod allweddol, yr holl bynciau hynny y mae'n ofynnol i'r disgybl neu'r disgyblion sy'n eu hastudio gael eu hasesu drwy roi'r cyfryw brofion; ac
(c) o ran tasgau Cwricwlwm Cenedlaethol ac unrhyw gyfnod allweddol, yr holl bynciau hynny y mae'n ofynnol rhoi'r tasgau arnynt i'r disgybl neu'r disgyblion sy'n eu hastudio,
yn y cyfnod allweddol hwnnw yn unol â'r trefniadau statudol;
ystyr "Rhif unigryw disgybl" ("unique pupil number") yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren neu lythrennau yn cael ei ddyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan y cynulliad Cenedlaethol;
ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw -
mae i "ysgol arbennig" yr ystyr a roddir i "special school" gan adran 337 o Ddeddf 1996 [7]; ac
ystyr "ysgol arbennig nas cynhelir" ("non-maintained special school") yw ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
(a) mae cyfeiriadau at ddisgyblion o oedran penodol yn gyfeiriad at ddisgyblion a gyrhaeddodd yr oedran hwnnw yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn dechrau blwyddyn adrodd yr ysgol, pan fo blwyddyn adrodd yr ysgol yn cychwyn ar ôl y dyddiad hwnnw, neu'r 31 Awst sy'n dod ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, pan fo blwyddyn adrodd yr ysgol yn dechrau ar neu o flaen y dyddiad hwnnw, ac yr oeddent yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y trydydd dydd Iau yn Ionawr ym mlwyddyn adrodd yr ysgol;
(b) mae cyfeiriadau at gymwysterau allanol a gymeradwywyd y rhoddwyd enwau disgyblion yn yr ysgol ar eu cyfer yn cynnwys cymwysterau allanol a gymeradwywyd y rhoddwyd eu henwau ar eu cyfer er nad ydynt yn unol ag adran 402 o Ddeddf 1996[8]; ac
(c) mae cyfeiriadau at gyfnodau allweddol yn gyfeiriadau at y cyfnodau a nodir yn adran 103(1) o Ddeddf 2002.
(3) Pan fydd y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei throsglwyddo mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, gellir bodloni'r gofyniad hwnnw drwy drosglwyddo'r wybodaeth -
(a) drwy wefan ryngrwyd ddiogel a ddarparwyd i'r diben hwnnw gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol,
(b) drwy ddisg hyblyg, neu
(c) drwy fewnrwyd a ddarparwyd i'r diben hwnnw gan neu ar ran awdurdod, ac at ddibenion y rheoliad hwn ystyr mewnrwyd yw rhwydwaith caëedig na ellir ei gyrchu ond gan y canlynol -
(i) yr awdurdod,
(ii) gan neu ar ran corff llywodraethu ysgol o fewn yr awdurdod hwnnw,
(iii) gan athro neu athrawes mewn ysgol yn yr awdurdod hwnnw.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyrhaeddiad gan ddisgybl y penderfynir arno gan brawf Cwricwlwm Cenedlaethol neu dasg Cwricwlwm Cenedlaethol yn ystod blwyddyn ysgol flaenorol neu unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd y rhoddwyd enw'r disgybl ar ei gyfer yn ystod blwyddyn ysgol flaenorol i'w drin fel cyrhaeddiad o'r fath neu roi enw ar gyfer y cymhwyster yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu yn yr Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
Goleddfiad ar y dyletswyddau
3.
Mae dyletswyddau cyrff llywodraethu, awdurdodau a pherchenogion i drefnu bod gwybodaeth ar gael neu roi gwybodaeth yn gymwys yn unig i'r graddau bod yr wybodaeth ar gael iddynt mewn da bryd fel ei fod yn rhesymol ymarferol iddynt drefnu bod yr wybodaeth ar gael, yn cael ei rhoi neu ei chyhoeddi o flaen yr achlysur hwyraf y mae'n ofynnol bod yr wybodaeth ar gael, yn cael ei rhoi neu ei chyhoeddi, yn ôl y digwydd.
Dirymu ac arbedion
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn Atodlen 4.
(2) Nid yw dirymiad y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn Atodlen 4 i ryddhau unrhyw berson o unrhyw ddyletswydd i drefnu bod gwybodaeth ar gael, ei rhoi neu ei chyhoeddi na chafodd ei chyflawni cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
RHAN 2
Darparu gwybodaeth gan y pennaeth
Darparu gwybodaeth gan y pennaeth i'r corff llywodraethu
5.
Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir bob blwyddyn drefnu bod gwybodaeth ar gael i'r corff llywodraethu ynghylch y materion a grybwyllir yn Atodlenni 1 i 3 er mwyn galluogi'r corff llywodraethu i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau mewn perthynas â'r materion hynny.
RHAN 3
Darparu gwybodaeth i'r Cynulliad a'r Awdurdodau Addysg Lleol
Darparu canlyniadau asesiadau cyfnod allweddol cyntaf i awdurdodau addysg lleol
6.
Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, sydd ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, â disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gymwys i asesiadau statudol bob blwyddyn ddarparu gwybodaeth i'r awdurdod sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1, os bydd yn rhesymol ymarferol mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, fel a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd.
Darparu canlyniadau asesiadau cyfnod allweddol cyntaf i'r Cynulliad Cenedlaethol
7.
Rhaid i'r awdurdod erbyn 31 Gorffennaf ym mhob blwyddyn roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir ganddo sydd â disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gymwys ar gyfer asesiadau statudol ym mlwyddyn adrodd yr ysgol.
Darparu canlyniadau cymwysterau allanol a gymeradwywyd i'r Cynulliad Cenedlaethol
8.
Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir a pherchennog pob ysgol arbennig nas cynhelir neu ysgol annibynnol sydd â disgyblion 15, 16, 17 neu 18 oed roi i'r Cynulliad Cenedlaethol y manylion hynny y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt ynghylch y cymwysterau y rhoddwyd enwau disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar eu cyfer, a'r wybodaeth arall y cyfeirir ati -
(a) yn achos ysgol sy'n darparu gwybodaeth mewn perthynas â disgyblion 15 oed, yn Rhan 1 o Atodlen 2; neu
(b) yn achos ysgol sy'n darparu gwybodaeth mewn perthynas â disgyblion 16, 17 neu 18 oed, yn Rhan 2 o Atodlen 2
wrth gael cais ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol am yr wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y cyfryw gais.
Darparu gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol am absenoldebau wedi'u hawdurdodi ac absenoldebau heb eu hawdurdodi
9.
Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir a pherchennog pob ysgol arbennig nas cynhelir neu ysgol annibynnol roi i'r Cynulliad Cenedlaethol y manylion hynny y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt ynghylch absenoldebau wedi'u hawdurdodi ac absenoldebau heb eu hawdurdodi am flwyddyn adrodd yr ysgol wrth gael cais ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol am yr wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y cyfryw gais.
RHAN 4
Darparu gwybodaeth
Darparu gwybodaeth am asesiadau yr ail a thrydydd cyfnod allweddol i'r Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol
10.
- (1) Bob blwyddyn ar neu cyn y dyddiad a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd am flwyddyn adrodd yr ysgol rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, sydd, ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, â disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol sy'n gymwys i asesiadau statudol, ddarparu gwybodaeth i'r Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 3, os bydd yn rhesymol ymarferol mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, fel a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd.
(2) Bob blwyddyn ar neu cyn y dyddiad a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd am y flwyddyn adrodd yr ysgol rhiad i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, sydd, ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, â disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol sy'n gymwys i asesiadau statudol, ddarparu gwybodaeth i'r Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o Atodlen 3, os bydd yn rhesymol ymarferol mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, fel a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd.
Darparu gwybodaeth am asesiadau yr ail a thrydydd cyfnod allweddol i'r asiantaeth farcio allanol
11.
- (1) Bob blwyddyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y diwrnod olaf yn yr ysgol pan roddir profion Cwricwlwm Cenedlaethol i'r disgyblion hynny ym mhob pwnc perthnasol, rhaid i gorff pob ysgol a gynhelir, sydd ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, â disgyblion cofrestredig yn yr ail a thrydydd cyfnod allweddol sydd yn gymwys ar gyfer asesiadau statudol, ddarparu'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 3 o Atodlen 3 mewn perthynas â disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol, a'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 4 o Atodlen 3 mewn perthynas â disgyblion yn y trydydd cyfnod allweddol, i'r asiantaeth farcio allanol.
(2) Bob blwyddyn ar neu cyn y dyddiad a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd am flwyddyn adrodd yr ysgol, rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, sydd, ym mlwyddyn adrodd yr ysgol sydd yn gymwys ar gyfer asesiadau statudol, ddarparu'r i'r asiantaeth farcio allanol mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant yr wybodaeth a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004
ATODLEN 1Rheoliad 6
DARPARU GWYBODAETH I AWDURDODAU ADDYSG LLEOL: CANLYNIADAU CYFNOD ALLWEDDOL CYNTAF
1.
O ran pob disgybl cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl.
2.
O ran pob disgybl o'r fath, canlyniadau eu hasesiadau statudol ac os nad yw rhai o'r canlyniadau hynny neu'r cyfan ohonynt ar gael a oedd y disgybl yn esempt o'r asesiadau o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002 neu a oedd yn absennol.
ATODLEN 2Rheoliad 8
DARPARU GWYBODAETH I'R CYNULLIAD: CYMWYSTERAU ALLANOL A GYMERADWYWYD
RHAN
1
Disgyblion 15 Oed
1.
Nifer y disgyblion cofrestredig 15 oed.
2.
Yn achos pob un disgybl o'r fath y cyfeirir ato ym mharagraff 1 y rhoddwyd ei enw ar gyfer un neu fwy o gymwysterau allanol a gymeradwywyd ar lefel 2 NQF neu is na hynny yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol neu unrhyw flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn honno rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl.
3.
Yn achos pob un disgybl o'r fath y cyfeirir ato ym mharagraff 1 a gyflawnodd unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd, yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol neu unrhyw flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn honno y manylion canlynol am bob cymhwyster o'r fath a gyflawnwyd -
(a) y corff dyfarnu;
(b) teitl y pwnc;
(c) y math a'r lefel;
(ch) y canlyniad; ac
(d) y dyddiad dyfarnu.
RHAN
2
Disgyblion 16, 17 neu 18 oed
4.
Nifer y disgyblion cofrestredig 16, 17 neu 18 oed y rhoddwyd eu henwau ar gyfer un neu fwy o gymwysterau allanol a gymeradwywyd neu fwy yn NQF lefel 3 neu uwch na hynny yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol.
5.
Yn achos pob disgybl y cyfeirir ato ym mharagraff 4 yr wybodaeth ganlynol rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl.
6.
Yn achos pob un disgybl o'r fath y cyfeirir ato ym mharagraff 4 a gyflawnodd unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd, yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol neu unrhyw flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn honno y manylion canlynol am bob cymhwyster o'r fath a gyflawnwyd -
(a) y corff dyfarnu;
(b) teitl y pwnc;
(c) y math a'r lefel;
(ch) y canlyniad; ac
(d) y dyddiad dyfarnu.
ATODLEN 3Rheoliadau 10 ac 11
DARPARU GWYBODAETH I'R ASIANTAETH CASGLU DATA CENEDLAETHOL A'R ASIANTAETH FARCIO ALLANOL
RHAN
1
Asesiadau yr Ail Gyfnod Allweddol: Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol
1.
- (1) O ran pob disgybl cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl.
(2) O ran pob disgybl o'r fath, yr wybodaeth ganlynol, pan fo'n briodol, mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol -
(a) unrhyw ganlyniad yn ôl asesiad tasg Cwricwlwm Cenedlaethol;
(b) y lefel ar lefel graddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gyflawnodd y disgybl yn ôl asesiad athrawon;
(c) a aseswyd y disgybl gan athrawon wrth weithio tuag at lefel 1;
(ch) a oedd y disgybl yn esempt rhag asesiad athrawon o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu
(d) a ydyw canlyniad asesiad athrawon heb fod ar gael oherwydd absenoldeb y disgybl.
RHAN
2
Asesiadau y Trydydd Cyfnod Allweddol: Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol
2.
- (1) O ran pob disgybl cofrestredig yng nghyfnod y trydydd cyfnod allweddol, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl.
(2) O ran pob disgybl o'r fath, yr wybodaeth ganlynol, pan fo'n briodol, mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol -
(a) y lefel ar lefel graddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gyflawnodd disgybl yn ôl asesiad athrawon;
(b) a aseswyd disgybl gan athrawon wrth weithio tuag at lefel 1;
(c) a aseswyd disgybl gan athrawon ar lefel ar raddfa lefel y Cwricwlwm Cenedlaethol o dan y pennawd "Perfformiad Eithriadol";
(ch) a oedd y disgybl yn esempt rhag asesiad athrawon o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; ac
(d) a ydyw canlyniad asesiad athrawon heb fod ar gael oherwydd absenoldeb disgybl.
RHAN
3
Asesiadau yr Ail Gyfnod Allweddol: Asiantaeth Farcio Allanol
3.
O ran pob disgybl cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol, yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol -
(a) a oedd y disgybl, ym marn pennaeth yr ysgol, yn gweithio ar lefel 1 neu'n is na hynny ac na roddwyd profion Cwricwlwm Cenedlaethol i'r disgybl;
(b) a oedd y disgybl yn esempt rhag profion Cwricwlwm Cenedlaethol o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu
(c) a ydyw canlyniad prawf Cwricwlwm Cenedlaethol heb fod ar gael am fod y disgybl yn absennol ar y diwrnod y rhoddwyd y prawf Cwricwlwm Cenedlaethol.
RHAN
4
Asesiadau y Trydydd Cyfnod Allweddol: Asiantaeth Farcio Allanol
4.
O ran pob disgybl cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol, yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol -
(a) a oedd y disgybl, ym marn pennaeth yr ysgol, yn gweithio ar lefel 2 neu'n is na hynny ac na roddwyd profion Cwricwlwm Cenedlaethol i'r disgybl;
(b) a oedd y disgybl yn esempt rhag profion Cwricwlwm Cenedlaethol o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu
(c) a ydyw canlyniad prawf Cwricwlwm Cenedlaethol heb fod ar gael am fod y disgybl yn absennol ar y diwrnod y rhoddwyd prawf Cwricwlwm Cenedlaethol.
RHAN
5
Cofrestriadau yr Ail a Thrydydd Cyfnod Allweddol: Asiantaeth Farcio Allanol
5.
O ran pob disgybl cofrestredig yn yr ail a thrydyddd cyfnod allweddol, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl.
ATODLEN 4Rheoliad 4
DIRYMIADAU
Rhif
|
Y Rheoliadau sy'n cael eu Dirymu
|
Cyfeirnod
|
1 |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 1998 |
O.S. 1998/1867 |
2 |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 1999 |
O.S. 1999/1470 |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan adrannau 29(3), 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion yng Nghymru. Maent yn cydgyfnerthu, gyda diwygiadau, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 1998, fel y'u diwygiwyd, ac yn eu dirymu.
Mae'r Rheoliadau'n ymwneud â chasglu gwybodaeth am berfformiad ysgolion.
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau cyffredinol.
Mae Rhan 2 yn gosod dyletswyddau ar benaethiaid ysgolion a gynhelir i drefnu bod gwybodaeth ar gael i gyrff llywodraethu er mwyn eu galluogi i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 5).
Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau manwl sy'n ymwneud â darparu gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i awdurdodau addysg lleol.
Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ddarparu gwybodaeth am ganlyniadau asesiadau ar y cyfnod allweddol cyntaf i'r awdurdodau addysg lleol (rheoliad 6 ac Atodlen 1).
Rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am ganlyniadau asesiadau cyfnod allweddol cyntaf ar gyfer pob disgybl cofrestredig yng nghyfnod allweddol cyntaf yn yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod (rheoliad 7 ac Atodlen 1).
Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a pherchenogion ysgolion arbennig ac ysgolion annibynnol nas cynhelir sydd â disgyblion 15, 16, 17 neu 18 oed roi gwybodaeth benodedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am eu canlyniadau (rheoliad 8 ac Atodlen 2).
Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a pherchenogion ysgolion annibynnol ac ysgolion arbennig nas cynhelir roi gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am absenoldebau sydd wedi'u hawdurdodi a'r rhai heb eu hawdurdodi (rheoliad 9).
Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir roi gwybodaeth i'r Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol (corff sy'n cydlynu gwybodaeth am ganlyniadau asesiadau Cwricwlwm Cenedlaethol disgyblion) a'r asiantaeth farcio allanol (corff sy'n marcio ymatebion disgyblion i brofion Cwricwlwm Cenedlaethol) am ddisgyblion unigol sy'n ymwneud â disgyblion sydd ar ddiwedd neu ar drothwy diwedd blwyddyn olaf yr ail neu'r trydydd cyfnod allweddol (rheoliadau 10 ac 11 ac Atodlen 3).
Notes:
[1]
1996 p.56. Amnewidiwyd adran 29(3) gan baragraff 67 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 a 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). Diwygiwyd adran 537 gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997, paragraffau 57 a 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Amnewidiwyd adran 573A gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (1999/672).back
[3]
Gweler adran 27 o Ddeddf Addysg 1997.back
[4]
Diwygiwyd adran 579(1) gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.back
[5]
2000 p.21.back
[6]
2002 p.32.back
[7]
Amnewidiwyd adran 337 gan baragraffau 57 ac 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back
[8]
Diwygiwyd adran 402 gan baragraffau 57 a 101 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a chan baragraff 45 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back
[9]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090927 5
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
13 April 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041025w.html