BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041489w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1489 (Cy.154) (C.59)

CEFN GWLAD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 8 Mehefin 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf")[1]:

Enwi a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Y diwrnod penodedig
    
2. Y diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym - 

yw 21 Mehefin 2004.

Arbed
     3. Er gwaethaf diddymu adran 193(2) o Ddeddf 1925 gan erthygl 2(c) o'r Gorchymyn hwn, mae unrhyw weithred a gyflawnir o dan yr adran honno o Ddeddf 1925 sydd mewn grym yn union o flaen dyddiad dod i rym y Gorchymyn hwn i barhau i fod yn effeithiol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mehefin 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 21 Mehefin 2004, adrannau 18, 20 a 46(1)(a) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, Ran I o Atodlen 16 iddi.

Mae adran 18 o'r Ddeddf yn galluogi awdurdodau mynediad i benodi wardeniaid mewn perthynas â thir mynediad er mwyn rhoi cyngor i ddefnyddwyr hawl mynediad a pherchnogion tir ac er mwyn sicrhau cydymffurfedd ag is-ddeddfau, â'r cyfyngiadau a nodir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf ac ag unrhyw gyfyngiad neu waharddiad a osodir o dan Bennod II o'r Ddeddf.

Mae adran 20 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Gyngor Cefn Gwlad Cymru ("CCGC") i gyhoeddi cod ymddygiad i roi arweiniad i ddefnyddwyr yr hawl mynediad a phersonau sydd â buddiant yn y tir mynediad (megis ffermwyr, perchenogion y tir a chominwyr). Mae'r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i CCGC gymryd y camau hynny y mae o'r farn eu bod yn hwylus er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybod am rychwant, a modd, y mynediad i'r tir mynediad a bod y cyhoedd a'r personau â buddiant yn y tir mynediad yn cael gwybod am eu hawliau a'u rhwymedigaethau o dan yr hawl mynediad statudol.

Mae adran 46 o'r Ddeddf a Rhan I o Atodlen 16 iddi yn gweithredu diddymiadau yn dilyn darpariaethau Rhan I o'r Ddeddf. Mae adran 46(1)(a) o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (sy'n caniatáu i berchenogion tir comin i wneud gweithred gyflwyno fel y daw'r comin yn ddarostyngedig i hawl mynediad ar gyfer awyr iach ac ar gyfer ymarfer y darperir ar ei gyfer yn adran 193(1) o Ddeddf 1925). Nid oes angen y pwcircer hwn bellach am fod y pwcirc er i gyflwyno mynediad dros dir sydd yn adran 16 o'r Ddeddf yn weithredol. Cychwynnwyd adran 16 o'r Ddeddf ar 30 Ionawr 2001 gan adran 103(2) o'r Ddeddf ac mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/135) (Cy.9) yn darparu'r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno tir.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth arbed i alluogi gweithredoedd sydd eisoes yn bodoli ac a wnaed o dan Ddeddf 1925 i barhau mewn grym.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y Tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran(nau) neu Atodlen(ni) Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
46(1)(b) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
57 (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
60 a 61 1 Tachwedd 2002 O.S. 2002/2615 (Cy.253) (C.82)
63 1 Ebrill 2004 O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16)
68 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(1) a (3) 1 Ebrill 2004 O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16)
70(2) a (4) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
72 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Rhan IV (adrannau 82 i 93) (ac yn unol â hynny, Atodlenni 13, 14 a 15) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
96 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
99 30 Ionawr 2001 O.S. 2001/203 (Cy.9) (C.10)
102 (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 6, paragraffau 1, 6 a 9(5) 1 Ebrill 2004 O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlen 6, paragraffau 18(a) a 19 (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I a II (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan V a VI . 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)


Notes:

[1] 2000 p.37.back

[2] 1925 p.20.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090952 6


  © Crown copyright 2004

Prepared 15 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041489w.html