BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif1490 (Cy.155)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
8 Mehefin 2004 | |
|
Yn dod i rym |
25 Mehefin 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 10, 11, 12, 13, 15, 16, 26 a 36 o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN 1
Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
O ran y Rheoliadau hyn:
(a) eu henw yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004;
(b) deuant i rym ar 25 Mehefin 2004;
(c) maent yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "awdurdod casglu gwastraff" ("waste collection authority") yw Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol sy'n gweithredu'n unol â swyddogaethau a roddwyd iddo fel awdurdod casglu gwastraff;
ystyr "awdurdod gwaredu gwastraff" ("waste disposal authority") yw Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol sy'n gweithredu'n unol â swyddogaethau a roddwyd iddo fel awdurdod gwaredu gwastraff;
ystyr "awdurdod perthnasol" ("relevant authority") yw -
(a) yr awdurdod monitro, a
(b) y Cynulliad;
ystyr "Catalog Gwastraff Ewropeaidd" ("European Waste Catalogue") yw'r rhestr o wastraff a sefydlwyd yn unol â Phenderfyniad y Cyngor 2000/532/EC[2];
mae i "cyfathrebiad electronig" yr un ystyr ag "electronic communication" yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000[3];
ystyr "cyfleuster gwastraff" ("waste facility") yw cyfleuster ar gyfer gwaredu neu adfer gwastraff ac eithrio safle tirlenwi; at ddibenion y diffiniad hwn, mae i "gwaredu" ac "adfer" yr un ystyr â "disposal" a "recovery" yn Erthygl 1(e) ac (f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff[4];
ystyr "cyfnod cysoni" ("reconciliation period") yw'r cyfnod o dri mis ar ôl diwedd pob blwyddyn gynllun;
ystyr "y Cynulliad" ("the Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003;
ystyr "gwastraff trefol a gasglwyd" ("collected municipal waste") yw gwastraff trefol sy'n dod i feddiant neu o dan reolaeth -
(i) awdurdod casglu gwastraff, neu
(ii) awdurdod gwaredu gwastraff
p'un a yw'r gwastraff ym meddiant neu o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[5]) neu yn rhinwedd y Ddeddf honno neu beidio.
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
(a) mae cyfeiriadau at faint gwastraff yn gyfeiriadau at faint gwastraff yn ôl tunelledd; a
(b) mae cyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon gan awdurdod gwaredu gwastraff i safle tirlenwi neu gyfleuster gwastraff yn gyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon i safle tirlenwi neu gyfleuster o'r fath yn unol â threfniadau sy'n cael eu gwneud gan yr awdurdod.
Hysbysiadau, rhybuddion a chyflwyno ffurflenni
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw'n ofynnol, o dan y Rheoliadau hyn, i berson -
(a) cyflwyno ffurflen, hysbysiad neu ddychweliad i berson arall, neu
(b) hysbysu person arall o unrhyw fater,
rhaid i'r ffurflen, yr hysbysiad neu'r dychweliad fod yn ysgrifenedig.
(2) Os -
(a) y mae gan y person arall hwnnw gyfeiriad at ddibenion cyfathrebu electronig, caniateir defnyddio'r dull cyfathrebu hwnnw i gyflwyno'r ffurflen, yr hysbysiad neu'r dychweliad, neu
(b) y mae rheoliad 4(3)(b) yn gymwys, caniateir llenwi'r ffurflen a'i chyflwyno i'r awdurdod ar y wefan.
Cofrestrau a ffurflenni electronig
4.
- (1) Caiff unrhyw gofrestr a sefydlir neu a gedwir o dan y Rheoliadau hyn fod ar ffurf electronig.
(2) Pan fydd unrhyw gofrestr sy'n cael ei gadw gan awdurdod perthnasol ar ffurf electronig, caiff yr awdurdod hwnnw drefnu bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd ar wefan sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod hwnnw i'r perwyl hwnnw.
(3) Caniateir i unrhyw ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod monitro at ddibenion y Rheoliadau hyn gael ei darparu -
(a) ar ffurf electronig, a
(b) i'w llenwi a'i chyflwyno i'r awdurdod ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod i'r perwyl hwnnw..
RHAN 2
Monitro
Yr awdurdod monitro
5.
Yr awdurdod monitro dros Gymru yw Asiantaeth yr Amgylchedd.
Rhwymedigaeth ar awdurdodau gwaredu gwastraff i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau
6.
- (1) Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn gynllun -
(a) faint o wastraff trefol a gasglwyd;
(b) faint o wastraff trefol a anfonwyd i safleoedd tirlenwi gan yr awdurdod; ac
(c) faint o wastraff trefol a anfonwyd i gyfleusterau gwastraff eraill gan yr awdurdod.
(2) O ran y gwastraff trefol a grybwyllwyd yn is-baragraffau (1)(b) ac (c), rhaid i'r cofnod gynnwys manylion -
(a) y cyfanswm a anfonwyd i bob safle tirlenwi neu gyfleuster gwastraff, a
(b) y disgrifiad o'r gwastraff a'r cod priodol ar gyfer y gwastraff, yn y Catalog Gwastraff Ewropeaidd;
(3) Rhaid dal gafael ar y cofnodion o dan baragraff (1) am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r cyfnod cysoni ar gyfer y flwyddyn gynllun i ben.
(4) Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff roi i'r awdurdod monitro ateb sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (1) ar gyfer pob cyfnod o 3 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr o fewn mis i ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(5) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i awdurdod gwaredu gwastraff -
(a) dangos ar gyfer archwiliad neu ar gyfer eu symud i'w harchwilio yn rhywle arall, unrhyw un o'r cofnodion y mae'n ofynnol iddo ei gadw o dan baragraff (1);
(b) darparu gwybodaeth i'r awdurdod monitro am faterion sy'n gysylltiedig ag anfon gwastraff trefol pydradwy i safleoedd tirlenwi, neu dystiolaeth am y materion hynny;
a'i gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny ar unrhyw ffurf, yn unrhyw fan rhesymol ac o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(6) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, wneud copïau o unrhyw gofnodion a ddangoswyd neu a ddarparwyd o dan baragraff (5).
Rhwymedigaeth ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau
7.
- (1) Rhaid i weithredydd safle tirlenwi gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn gynllun -
(a) maint pob llwyth gwastraff trefol a dderbyniwyd ar y safle tirlenwi;
(b) y disgrifiad o'r gwastraff, a'r cod priodol ar gyfer y gwastraff, yn y Catalog Gwastraff Ewropeaidd;
(c) y Sir neu'r Fwrdeistref Sirol y tarddodd y gwastraff trefol ohoni; ac
(ch) unrhyw driniaeth a roddwyd i'r gwastraff cyn ei iddo gael ei gladdu ar safle tirlenwi.
(2) Rhaid dal gafael ar y cofnodion o dan baragraff (1) am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y daeth y cyfnod cysoni ar gyfer y flwyddyn gynllun i ben.
(3) Rhaid i weithredydd safle tirlenwi roi i'r awdurdod monitro ateb sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (1) ar gyfer pob cyfnod o 3 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr o fewn un mis o ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(4) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i weithredydd safle tirlenwi ddangos ar gyfer archwiliad, neu ar gyfer eu symud i'w harchwilio yn rhywle arall, unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol i'r gweithredydd eu cadw o dan baragraff (1) ar unrhyw ffurf, yn unrhyw fan rhesymol ac o fewn yr amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, wneud copïau o unrhyw gofnodion a ddangoswyd o dan baragraff (4).
(6) Caiff person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro fynd ar unrhyw adeg resymol ac, os oes angen, drwy rym rhesymol i mewn i fangre nad yw'n fangre sy'n cael ei defnyddio fel annedd ac sydd wedi'i meddiannu gan berson sy'n ymwneud â gweithredu safle tirlenwi er mwyn -
(a) chwilio am gofnodion yngln â'r ffordd y mae safle tirlenwi yn cael ei weithredu;
(b) archwilio cofnodion yngln â'r ffordd y mae safle tirlenwi yn cael ei weithredu neu eu symud i'w harchwilio yn rhywle arall;
(c) copïo cofnodion yngln â'r ffordd y mae safle tirlenwi yn cael ei weithredu.
(7) Caiff person sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan baragraff (6), fynd â'r canlynol gydag ef -
(a) unrhyw berson arall a awdurdodwyd yn briodol gan yr awdurdod monitro;
(b) os oes gan y person a awdurdodwyd achos rhesymol dros rag-weld unrhyw rwystr difrifol a fyddai'n ei atal rhag cyflawni ei ddyletswydd, cwnstabl;
(c) unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben y mae'r per mynediad yn cael ei arfer i'w gyflawni.
(8) Mae per yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd gan yr awdurdod monitro, o dan baragraffau (4) i (6) yn cynnwys per i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi iddynt unrhyw gyfleusterau a chymorth rhesymol o fewn rheolaeth y person sy'n angenrheidiol i alluogi'r awdurdod monitro a'r person a awdurdodwyd i arfer eu pwerau.
(9) Yn y rheoliad hwn ystyr "gweithredydd safle tirlenwi" yw'r person sydd â rheolaeth dros y safle tirlenwi.
(10) Yn y rheoliad hwn, mae i "triniaeth" yr un ystyr â "treatment" yn Erthygl 2(h) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar gladdu gwastraff mewn safle tirlenwi[6].
Penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy sydd mewn swm o wastraff
8.
At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir mai 61 y cant o'r gwastraff trefol a gasglwyd yw maint y gwastraff pydradwy mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd.
Cysoni lwfansau tirlenwi
9.
Heb fod yn hwy na deufis ar ôl diwedd y cyfnod cysoni, rhaid i'r awdurdod monitro benderfynu mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi.
RHAN 3
Cofrestrau
Cofrestr lwfansau tirlenwi
10.
Rhaid i'r awdurdod monitro sefydlu a chadw cofrestr lwfansau tirlenwi sydd, mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff ar gyfer pob blwyddyn gynllun, yn cynnwys -
(a) y lwfans a ddyrannwyd o dan adran 4 o'r Ddeddf;
(b) unrhyw newid yn y lwfans y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (a) o dan adran 5 o'r Ddeddf;
(c) faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd gwaredu gwastraff gan yr awdurdod gwaredu gwastraff hwnnw; ac
(ch) balans y canlynol:
(i) y lwfans a gofrestrwyd o dan baragraff (a), fel y'i addaswyd gan unrhyw addasiad a gofrestrwyd o dan baragraff (b), ("y lwfans cyfan"); a
(ii) maint y gwastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi gan yr awdurdod gwaredu gwastraff hwnnw fel y'i cofrestrwyd o dan baragraff (c) uchod.
Cofrestr gosbau
11.
Rhaid i'r Cynulliad sefydlu a chadw cofrestr a elwir "y gofrestr gosbau" y mae'n rhaid iddi gynnwys, mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff, yr wybodaeth ganlynol -
Argaeledd cofrestrau
12.
O ran unrhyw gofrestr sy'n cael ei chadw o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod perthnasol -
(a) trefnu bod y gofrestr a gedwir ganddo o dan y Rhan hwn ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ei brif swyddfa yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol; a
(b) rhoi cyfleusterau i aelodau'r cyhoedd gael copïau o gofnodion yn y gofrestr honno drwy dalu ffi resymol.
RHAN 4
Cosbau
Cosbau: mynd dros ben y lwfansau
13.
Swm y gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w dalu o dan adran 9(2) o'r Ddeddf yw £200 fesul tunnell o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safle tirlenwi dros ben lwfans cyfan yr awdurdod hwnnw ar gyfer y flwyddyn gynllun honno.
Cosbau: methu â chydymffurfio â gofynion i hysbysu
14.
- (1) Ac eithrio pan fydd paragraffau (2) a (4) yn gymwys, £1,000 yw swm y gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w dalu o dan adran 12(3) o'r Ddeddf.
(2) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff -
(i) yn tanddatgan faint o wastraff trefol a gasglwyd neu faint o wastraff trefol a anfonwyd i safleoedd tirlenwi; neu
(ii) yn gorddatgan faint o wastraff trefol a ddargyfeiriwyd i gyfleusterau gwastraff eraill,
£200 fesul tunnell o'r gwall yw'r gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w thalu o dan adran 12(3) o'r Ddeddf.
(3) At ddibenion paragraff (2), "y gwall" yw faint y mae swm gwirioneddol y gwastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safle tirlenwi gan yr awdurdod gwaredu gwastraff yn y flwyddyn gynllun yn fwy na swm y gwastraff trefol pydradwy a fyddai wedi'i anfon i safle tirlenwi am y flwyddyn honno petai'r ffigurau a ddatganwyd gan yr awdurdod wedi bod yn gywir.
(4) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn methu â chyflwyno unrhyw ddychweliad yngln â blwyddyn gynllun yn unol â rheoliad 6(4), mae'r awdurdod hwnnw yn agored i gosb sy'n gyfartal â £400 am bob tunnell o'r lwfans cyfan a ddyrannwyd i'r awdurdod hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno a'r ffigur hwnnw.
Cosbau: cyffredinol
15.
- (1) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i gosb, caiff y Cynulliad asesu'r swm sy'n ddyledus o ran cosb a hysbysu'r awdurdod gwaredu gwastraff o'r swm hwnnw.
(2) Mae'r gosb yn ddyledus un mis ar ôl y dyddiad y cafodd yr awdurdod gwaredu gwastraff ei hysbysu gan y Cynulliad o swm y gosb o dan baragraff (1).
(3) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i gosb o dan y Ddeddf ac nad yw'n talu'r gosb erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus o dan baragraff (2), mae'r awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i dalu llog ar y gosb am y cyfnod sydd -
(a) yn dechrau ar y dyddiad y mae'n ddyledus o dan baragraff (2); a
(b) yn dod i ben y diwrnod cyn y diwrnod y mae'r gosb a aseswyd o dan baragraff (1) yn cael ei thalu.
(4) Mae llog o dan y rheoliad hwn yn daladwy yn ôl cyfradd o un pwynt canran uwchlaw LIBOR fesul dydd.
(5) At ddibenion paragraff (4), ystyr "LIBOR" yw'r gyfradd sterling sy'n cael ei gynnig rhwng banciau Llundain am dri mis ac sydd mewn grym rhwng y dyddiad y mae'r gosb yn dod yn ddyledus a'r dyddiad y mae'r gosb yn cael ei thalu i'r Cynulliad.
(6) Pan fydd cosb wedi'i hasesu a'i hysbysu i awdurdod gwaredu gwastraff o dan baragraff (1), gellir adennill swm y gosb ac unrhyw log y parwyd ei godi o dan baragraff (3) fel dyled sifil.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gosbau yn cynnwys cyfeiriadau at log pan fydd llog yn daladwy.
RHAN 5
Canllawiau
Canllawiau i awdurdodau gwaredu gwastraff
16.
Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff, wrth arfer swyddogaethau yngln â gwastraff sy'n wastraff trefol pydradwy neu sy'n ei gynnwys, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan y Cynulliad at ddibenion y rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mehefin 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Diben Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003[8] ("y Ddeddf") yw sicrhau yn y DU ostyngiadau sylweddol ym maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, yn unol â gofynion Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ddyddiedig 26 Ebrill 1999 ar dirlenwi gwastraff[9] ("y Gyfarwyddeb Dirlenwi"). Mae'r Ddeddf yn gosod y fframwaith ar gyfer creu cynllun lwfansau tirlenwi.
Mae adran 1 o'r Ddeddf yn rhoi'r Ysgrifennydd Gwladol o dan rwymedigaeth i bennu drwy reoliadau uchafswm y gwastraff trefol pydradwy y caniateir ei anfon i safleoedd tirlenwi o'r Deyrnas Unedig, Lloegr, Yr Alban, a Chymru Gogledd Iwerddon. Rhaid i'r uchafswm y caniateir ei awdurdodi ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan fod yn gyson â'r rhwymedigaethau o dan Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Dirlenwi.
Mae adran 4 o'r Ddeddf yn rhoi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") o dan rwymedigaeth i ddyrannu lwfansau i awdurdodau gwaredu gwastraff yng Nghymru. Rhaid i gyfanswm y dyraniad lwfansau beidio â bod yn fwy na'r uchafswm a bennir mewn perthynas â Chymru o dan adran 1 o'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003, drwy ddarparu'n fanwl ar gyfer monitro a gorfodi'r lwfansau tirlenwi a ddyrennir i awdurdodau gwaredu gwastraff o dan y Ddeddf.
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau am enwi, cychwyn a chymhwyso (rheoliad 1); dehongli (rheoliad 2); hysbysiadau, rhybuddion a chyflwyno ffurflenni (rheoliad 3); a chofrestrau a ffurflenni electronig (rheoliad 4).
Mae Rhan 2 yn ymwneud â monitro.
Mae Rheoliad 5 yn penodi Asiantaeth yr Amgylchedd ("yr Asiantaeth") yn awdurdod monitro dros Gymru.
Mae Rheoliad 6 yn gosod rhwymedigaethau ar awdurdodau gwaredu gwastraff i gadw cofnodion manwl am gasglu gwastraff a faint o wastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi; i anfon dychweliadau i'r Asiantaeth; a threfnu bod gwybodaeth arall ar gael i'r Asiantaeth pan fydd hysbysiad ysgrifenedig yn cael ei roi i'r awdurdodau.
Mae Rheoliad 7 yn gosod rhwymedigaethau ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gadw cofnodion manwl yngln â gwastraff a dderbyniwyd ar safleoedd tirlenwi; i anfon dychweliadau i'r Asiantaeth; a threfnu bod gwybodaeth arall ar gael i'r Asiantaeth.
Mae Rheoliad 8 yn darparu, at ddibenion y Rheoliadau, y bernir bod maint gwastraff pydradwy mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd yn 61 y cant.
Mae Rheoliad 9 yn gorfodi'r Asiantaeth i benderfynu faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi gan bob awdurdod gwaredu gwastraff.
Mae Rhan 3 yn ymwneud â chofrestrau.
Mae Rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth sefydlu a chadw cofrestr lwfansau tirlenwi.
Mae Rheoliad 11 yn rhoi'r Cynulliad o dan rwymedigaeth i sefydlu a chadw cofrestr gosbau.
Mae Rheoliad 12 yn rhoi'r Asiantaeth a'r Cynulliad o dan rwymedigaeth i sicrhau bod y cofrestrau y maent yn gyfrifol amdanynt yn cael eu rhoi ar gael i'r cyhoedd.
Mae Rhan 4 yn ymwneud â chosbau.
Mae Rheoliad 13 yn darparu bod cosbau yn cael eu gosod ar awdurdodau gwaredu gwastraff am fynd dros ben y lwfansau a ddyrannwyd.
Mae Rheoliad 14 yn darparu bod cosbau yn cael eu gosod ar awdurdodau gwaredu gwastraff am fethu â chydymffurfio â'r gofynion ynghylch cyflwyno dychweliadau o dan y Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliad 15 yn darparu'n gyffredinol ar gyfer cosbau.
Mae Rhan 5 yn ymwneud â chanllawiau.
Mae Rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ar gyfer canllawiau i awdurdodau gwaredu gwastraff.
Notes:
[1]
2003 p. 33. Gweler adrannau 12(4) a 13(7) i gael y diffiniadau o "prescribed".back
[2]
OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniadau'r Comisiwn 2001/118/EC (OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.1) a 2001/119/EC (OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.32) a Phenderfyniad y Cyngor 2001/573/EC (OJ Rhif L 203, 28.7.2001, t.18).back
[3]
2000 p.7.back
[4]
OJ Rhif L 194, 25.7.1975, p.39; fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L 78, 26.3.1991, t.32) a Phenderfyniad y Comisiwn 96/350/EC (O.J. Rhif L 135, 6.6.1996, t.32).back
[5]
1990 p.43.back
[6]
OJ L 182, 16.7.1999, t.1.back
[7]
1998 p.38.back
[8]
2003 p.33.back
[9]
OJ L 182, 16.7.1999, t.1.back
English version
ISBN
0 11090953 4
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
15 June 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041490w.html