BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041605w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1605 (Cy.164)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 23 Mehefin 2004 
  Yn dod i rym 1 Hydref 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 1 Hydref 2004.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
     2.  - (1) Mae Rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (1) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor - 

    (3) Ar ôl paragraff (1), mewnosoder y paragraff canlynol - 

Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau
    
3. Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, lle mae'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (1) (y dangosir y pwnc amdano yng ngholofn (2)), rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4) yn ei le.

Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau
    
4. Yn rheoliad 8(2)(b) yn lle "is-baragraff (b)" rhodder "is-baragraff (a)".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Mehefin 2004



YR ATODLEN
Rheoliad 3


SYMIAU A AMNEWIDIR YN Y PRIF REOLIADAU


(1) (2) (3) (4)
Y ddarpariaeth yn y prif Reoliadau Y pwnc yr hen swm y swm newydd
Rheoliad 3  -  Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr  -     
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig  -     
  fesul eitem £ 6.00 £ 5.00
  fesul pâr £ 12.00 £ 10.00
paragraff (1)(b) ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) £ 6.00 £ 5.00
paragraff (1A)(a) ffi am hosanau elastig  -     
  fesul eitem £ 6.00 £ 5.00
  fesul pâr £ 12.00 £ 10.00
paragraff (1A)(b) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1A)(b) £ 6.00 £ 5.00
paragraff (4) ffi am gyffuriau, a gyflenwir fesul tipyn £ 6.00 £ 5.00
Rheoliad 4  -  Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon  -     
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig    
  fesul eitem £ 6.00 £ 5.00
  fesul pâr £ 12.00 £ 10.00
paragraff (1)(b) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) £ 6.00 £ 5.00
Rheoliad 5  -  Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar i gleifion allanol gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG  -     
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig -     
  fesul eitem £ 6.00 £ 5.00
  fesul pâr £ 12.00 £ 10.00
paragraff (1)(c) ffi am deits £ 12.00 £ 10.00
paragraff (1)(d) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(c), neu Atodlen 1 £ 6.00 £ 5.00
paragraff (5) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £ 6.00 £ 5.00
Rheoliad 6  -  Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded i mewn    
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig  -     
  fesul eitem £ 6.00 £ 5.00
  fesul pâr £ 12.00 £ 10.00
Paragraff (1)(b) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) £ 6.00 £ 5.00
paragraff (4) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £ 6.00 £ 5.00
Rheoliad 7(1) Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddyd Grwcircp Cleifion    
  ffi am gyffuriau £ 6.00 £ 5.00
Rheoliad 10(5) Tystysgrif ragdalu  -     
  4 mis £ 31.40 £ 26.16
  12 mis £ 84.60 £ 71.83



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi gan feddygon a fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol a gweinyddol, a chan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG i gleifion allanol.

Mae rheoliad 2 o'r prif Reoliadau yn cael ei ddiwygio fel y bydd cyfeiriadau at "awdurdod iechyd" yn cael eu trin fel cyfeiriadau at "fwrdd iechyd lleol".

Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 a'r Atodlen yn gostwng y ffi am eitemau ar bresgripsiwn a gyflenwir i gleifion allanol o £6.00 i £5.00. Gostyngir y ffi am hosanau elastig o £6.00 i £5.00 (o £12.00 i £10.00 fesul pâr) a'r ffi am deits o £12.00 i £10.00. Gostyngir y symiau a ragnodir i roi tystysgrifau rhagdalu o £31.40 i £26.16 am dystysgrif pedwar mis ac o £86.20 i £71.83 am dystysgrif deuddeg mis.

Mae diwygiadau a wneir gan reoliad 4 yn darparu na fydd ffi yn daladwy gan bersonau o dan 25 oed am gyflenwi cyfarpar a chyffur penodol yn unol â rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG).


Notes:

[1] {d1}{t1}1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniad o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77 a 126(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 197(1) .back

[2] O.S.2001/1358 (Cy.86). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.2001/2359 (Cy.196) a 2004/1018 (Cy.115).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090959 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 30 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041605w.html