BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif1729 (Cy.173)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
6 Gorffennaf 2004 | |
|
Yn dod i rym |
|
at ddibenion rheoliadau 1, 2, 3 a 8 |
y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud | |
|
at bob diben arall |
1 Medi 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 132, 145 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 132(4), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 ac maent yn dod i rym at ddibenion rheoliadau 1, 2, 3 a 8 ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud ac at bob diben arall ar 1 Medi 2004.
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
3.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "addysgu" ("teaching") yw cyflawni gwaith o fath sydd wedi'i bennu drwy reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Ddeddf Addysg 2002[2];
ystyr "coleg dinasol" ("city college") yw coleg technoleg dinasol neu goleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau;
ystyr "cyflogaeth" ("employment") yw cyflogaeth o dan gontract cyflogi neu gymryd person ymlaen i ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau o dan gontract cyflogi a mae cyfeiriadau at bersonau sydd wedi'u cyflogi neu'n cael eu cyflogi i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
ystyr "cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth" ("employment-based teacher training scheme") yw'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 8;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "person cymwys" ("competent person") os sefydliad achrededig yw'r corff argymell, yw'r sefydliad hwnnw, ac mewn unrhyw achos arall mae'n golygu'r person a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr "Rheoliadau 1959" ("the 1959 Regulations") yw Rheoliadau Ysgolion 1959[3];
ystyr "Rheoliadau 1982" ("the 1982 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982[4];
ystyr "Rheoliadau 1989" ("the 1989 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989[5];
ystyr "Rheoliadau 1993" ("the 1993 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993[6]);
ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999[7];
ystyr "safonau penodedig" ("specified standards") yw'r safonau sy'n gymwys ar yr adeg asesu a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y safonau y mae'n ofynnol i bersonau, sy'n ceisio dod yn athrawon cymwysedig, eu cyrraedd;
ystyr "sefydliad achrededig" ("accredited institution") yw sefydliad sydd wedi'i achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7;
ystyr "sefydliad addysg bellach" ("further education institution") yw sefydliad sy'n darparu addysg bellach ac sy'n cael ei gynnal gan awdurdod addysg lleol, neu sydd o fewn y sector addysg bellach;
ystyr "sefydliad estron" ("foreign institution") yw unrhyw sefydliad ac eithrio sefydliad yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "sefydliad yn y Deyrnas Unedig" ("United Kingdom institution") yw sefydliad a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig, ac eithrio un sy'n sefydliad â'i brif fan busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig, neu un sy'n gysylltiedig â sefydliad o'r fath neu'n ffurfio rhan ohono, ac mae'n cynnwys y Cyngor Cymwysterau Academaidd Cenedlaethol; ac
ystyr "ysgol" ("school") yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni felly.
(2) Mae cyfeiriad at sefydliad heb ddisgrifiad pellach yn gyfeiriad at sefydliad addysg bellach neu sefydliad o fewn y sector addysg uwch.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at -
(a) Atodlen â Rhif , yn gyfeiriad at yr Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(b) rheoliad â Rhif , yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(c) paragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos; ac
(ch) is-baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.
Dirymiadau a darpariaethau trosiannol
4.
- (1) Mae'r rheoliadau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 1 yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn yr Atodlen honno.
(2) Mae'r darpariaethau trosiannol a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i gael effaith.
Statws athrawon cymwysedig
5.
Yn ddarostyngedig i reoliadau 11, 12, 13 a 14 o Reoliadau 1999, mae personau yn athrawon cymwysedig -
(a) os ydynt yn bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 2, 3 neu 4 o Ran 1 o Atodlen 2, neu
(b) os ydynt yn bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 5 i 14 o Ran 1 o Atodlen 2 a'u bod wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor yn unol â rheoliad 6.
Hysbysu o statws athrawon cymwysedig
6.
- (1) Rhaid i'r personau a grybwyllwyd ym mharagraffau 5 i 14 o Atodlen 2 gael eu hysbysu'n ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), mae personau sy'n cael hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (1) yn gymwysedig o'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor yn ei ddarparu yn yr hysbysiad.
(3) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraffau 9, 10, 12 neu 13 o Atodlen 2, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor beidio â darparu i'r personau hynny fod yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y bydd yr asesiad y cyfeirir ato yn y paragraffau hynny wedi'i gwblhau.
(4) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 11 o Atodlen 2, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor, beidio â darparu i'r personau hynny fod yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y byddant wedi cwblhau'r cyfnod o wasanaeth fel athrawon sydd wedi'u trwyddedu gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel a bennir yn natganiad Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey.
(5) Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor ddarparu bod y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y byddant wedi ymgymhwyso fel athrawon ysgol yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Sefydliadau Achrededig
7.
- (1) Caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru achredu sefydliad fel darparydd cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol i athrawon ysgol.
(2) Dim ond sefydliad sy'n bodloni'r meini prawf a bennir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol y caiff Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ei achredu.
(3) Caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru dynnu'n ôl achrediad sefydliad yn unol â'r meini prawf a bennir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Cyn pennu unrhyw feini prawf o dan baragraffau (2) a (3) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth
8.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu cynllun a fyddai'n fodd i ganiatáu i bersonau, sy'n cael eu cyflogi neu sydd wedi'u cyflogi mewn ysgol neu sefydliad addysg arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion, ddod yn athrawon cymwysedig.
(2) Gelwir cynllun a sefydlir o dan baragraff (1) yn gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.
(3) Caiff cynllun o'r fath ddarparu ar gyfer y rhaglen hyfforddiant y mae'n rhaid i bersonau ymgymryd ag ef.
(4) Caiff cynllun o'r fath ddarparu bod personau, sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen hyfforddiant proffesiynol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig a honno'n rhaglen sy'n cael ei chydnabod fel rhaglen hyfforddiant gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno, yn cael eu hasesu gan berson cymwys i benderfynu a ydynt yn cyrraedd y safonau penodedig heb fod angen iddynt ymgymryd â hyfforddiant pellach.
(5) Rhaid i unrhyw berson neu gorff sy'n arfer swyddogaeth yn rhinwedd y rheoliad hwn ystyried unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno.
Diwygio Rheoliadau 1999
9.
Yn rheoliadau 11, 12 a 13(1) o Reoliadau 1999, rhodder yn lle'r geiriau "yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3" y geiriau "yn athro cymwysedig yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004
ATODLEN 1Rheoliad 4
RHAN
1
Dirymu
Y Rheoliadau sy'n cael eu Dirymu
|
Cyfeiriadau
|
Graddau'r Dirymu
|
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 |
O.S. 1999/2817 (Cy. 18) |
Rheoliadau 8 i 10, Atodlen 1, Rhan I, Rhan II, paragraff 5, ac Atodlen 3. |
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) (Diwygio) 2002 |
O.S. 2002/2938 (Cy. 279) |
Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003 |
O.S. 2003/140 (Cy. 12) |
Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2003 |
O.S. 2003/2458 (Cy. 240) |
Y Rheoliadau cyfan |
RHAN
2
Darpariaethau Trosiannol Cyffredinol
Achredu sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant cychwynnol athrawon
1.
Bydd unrhyw achrediad at ddibenion -
(a) paragraff 3 o Atodlen 3 i Reoliadau 1993 sydd mewn grym yn union cyn 1 Medi 1999; neu
(b) paragraff 2 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999 sydd mewn grym yn union cyn 1 Medi 2004,
yn cael effaith fel petai wedi'i roi at ddibenion rheoliad 7.
Athrawon sy'n ymgymhwyso o dan Reoliadau 1999 ac sydd wedi astudio mewn sefydliadau a achredwyd o dan Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999
2.
Er gwaethaf dirymu Atodlen 3 i Reoliadau 1999, mae paragraffau 1 a 2A o'r Atodlen honno i barhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw bersonau sy'n dod o dan baragraff 2A o'r Atodlen honno tan yr adeg y caiff y personau hynny eu hysbysu eu bod yn athrawon cymwysedig o dan baragraff 1 o'r Atodlen honno neu tan iddynt roi'r gorau i astudio ar y cwrs.
ATODLEN 2Rheoliadau 5 a 6
Gofynion Statws Athrawon Cymwysedig
RHAN
1
1.
Yn yr Atodlen hon -
ystyr "athrawon cofrestredig" ("registered teachers") yw personau y rhoddwyd awdurdodiad iddynt addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;
ystyr "athrawon graddedig" ("graduate teachers") yw personau y rhoddwyd awdurdodiad iddynt addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;
ystyr "Cytundeb AEE" ("EEA Agreement") yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992[9] fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993[10];
ystyr "Cytundeb y Swistir" ("Switzerland Agreement") yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law a Chydffederasiwn y Swistir ar y llaw arall ar Ryddid Pobl i Symud a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999[11] ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002.
2.
Personau sy'n athrawon cymwysedig yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.
3.
Personau sy'n athrawon cymwysedig yn rhinwedd Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr ac sydd mewn grym o dro i dro o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002[12].
4.
Personau sydd o ran proffesiwn athrawon ysgol yn dod o dan Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC[13] ar system gyffredinol i gydnabod diplomâu addysg-uwch a ddyfernir i'r sawl sy'n cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n parhau am dair blynedd o leiaf, fel y'i hestynnir gan y Cytundeb AEE ac fel y'i diwygiwyd gan Gytundeb y Swistir.
5.
Personau -
(a) sy'n dal gradd cyntaf neu gymhwyster cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwyster arall cyfatebol a roddwyd gan sefydliad estron;
(b) sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn sefydliad achrededig yng Nghymru; ac
(c) sydd wedi'u hasesu gan y sefydliad achredu fel rhai sy'n bodloni'r safonau penodedig.
6.
Personau sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ysgol mewn sefydliad addysg yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
7.
Personau sydd wedi'u cofrestru fel athrawon addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.
8.
Personau y rhoddwyd cadarnhad iddynt eu bod wedi'u cydnabod fel athrawon mewn ysgolion yng Ngogledd Iwerddon gan yr Adran Addysg, Swyddfa Gogledd Iwerddon, a'r cadarnhad hwnnw heb gael ei dynnu'n ôl wedyn.
9.
- (1) Personau y rhoddwyd awdurdodiad iddynt addysgu o dan Ran II neu III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004, ac y mae'r corf argymell wedi cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor -
(a) argymhelliad y dylid eu hysbysu eu bod yn athrawon cymwysedig; a
(b) datganiad a ddisgrifir yn is-baragraff (2).
(2) Mae'r datganiad yn ddatganiad bod y personau o dan sylw -
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr "corff argymell" yw'r corff sy'n drefnydd yr hyfforddiant a roddwyd i'r personau a enwyd yn yr argymhelliad.
10.
- (1) Personau -
(a) sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod o hyfforddiant ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth neu wedi bodloni fel arall ofynion y cynllun;
(b) sydd wedi'u hasesu gan berson cymwys fel personau sy'n cyrraedd y safonau penodedig; ac
(c) y mae argymhelliad amdanynt wedi'i gyflwyno gan neu ar ran y corff argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor a hwnnw'n argymhelliad y dylid eu hysbysu eu bod yn athrawon cymwysedig.
(2) Yn y paragraff hwn ystyr "corff argymell" yw'r corff, sy'n drefnydd unrhyw hyfforddiant a roddwyd i'r personau a enwir yn yr argymhelliad, neu'r ysgol neu sefydliad arall lle mae'r personau hynny wedi'u cyflogi, neu gorff arall sy'n gweithredu ar ran yr ysgol honno neu'r sefydliad hwnnw.
11.
- (1) Personau y mae Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor argymhelliad y dylid dyfarnu statws athrawon cymwysedig iddynt a datganiad eu bod yn bodloni'r gofynion a bennir yn is-baragraffau (2), (3) neu (4).
(2) Maent wedi cwblhau'n llwyddiannus ddwy flynedd ysgol o wasanaeth amser-llawn neu gyfnod cyfatebol o wasanaeth rhan-amser fel athrawon wedi'u trwyddedu gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey a'r hyfforddiant a bennwyd yn y drwydded.
(3) Maent -
(a) wedi cwblhau'n llwyddiannus ddim llai nag un flwyddyn ysgol o wasanaeth fel athrawon wedi'u trwyddedu gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey a'r hyfforddiant a bennir yn y drwydded;
(b) yn bersonau a oedd wedi cyrraedd 24 oed cyn dyddiad cychwyn y drwydded; ac
(c) yn bersonau a oedd, cyn dyddiad cychwyn y drwydded, wedi'u cyflogi am ddim llai na dwy flynedd fel athrawon neu ddarlithwyr mewn ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinasol neu Academi), neu sefydliad neu brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu fel Hyfforddwyr neu Swyddogion Addysg yn Lluoedd Arfog y Goron neu fel hyfforddwyr o dan baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1993 neu baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 neu baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 ac nad oeddent wedi'u diswyddo am resymau heblaw swyddi yn dod i ben.
(4) Maent -
(a) wedi cwblhau'n llwyddiannus ddim llai nag un tymor ysgol o wasanaeth fel athrawon trwyddedig a'r hyfforddiant a gynigiwyd yn yr argymhelliad am drwydded;
(b) yn bersonau a oedd wedi cwblhau'n llwyddiannus, cyn dyddiad cychwyn y drwydded, naill ai -
(i) cwrs hyfforddiant cychwynnol yn para o leiaf dair blynedd i athrawon ysgol mewn sefydliad addysg y tu allan i Gymru a Lloegr, neu
(ii) cwrs gradd gyntaf a chwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol i athrawon ysgol mewn sefydliad o'r fath (p'un ai yn yr un sefydliad neu beidio); ac
(c) yn bersonau a oedd wedi'u cyflogi am ddim llai na blwyddyn fel athrawon neu ddarlithwyr mewn ysgol, ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinasol neu Academi), sefydliad neu brifysgol neu sefydliad addysg arall yng Nghymru neu Loegr neu yn rhywle arall ac nad oeddent wedi'u diswyddo am resymau heblaw swyddi yn dod i ben.
12.
- (1) Personau y mae'r awdurdod argymell wedi cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor argymhelliad y dylid eu hysbysu eu bod yn athrawon cymwysedig a datganiad -
(a) eu bod ar ddyddiad yr argymhelliad yn cael eu cyflogi fel athrawon mewn ysgol annibynnol; a
(b) eu bod wedi'u hasesu gan yr awdurdod argymell fel rhai sy'n cyrraedd y safonau penodedig; ac
(c) cyn -
(i) 1 Ionawr 1974 eu bod wedi ennill cymwysterau sy'n bodloni gofynion paragraff 15, 16, 17, 18, 19, 20 neu 21 o Ran 2 o'r Atodlen hon, neu
(ii) 1 Ionawr 1974 eu bod wedi ennill gradd a roddwyd gan brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron, neu
(iii) 1 Medi 1989 eu bod wedi ennill gradd a roddwyd gan brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, botaneg, sŵoleg, ffisioleg, biocemeg neu ddaeareg; ac
(ch) yr oeddent yn cael eu cyflogi fel athrawon mewn ysgol annibynnol neu sefydliad addysg bellach cyn 1 Medi 1989.
(2) Yn y paragraff hwn ystyr "corff argymell" -
(a) yn achos athrawon nad ydynt yn benaethiaid nac yn benaduriaid, yw penaethiaid neu benaduriaid yr ysgolion annibynnol y maent yn cael eu cyflogi i addysgu ynddynt; a
(b) yn achos penaethiaid neu benaduriaid, cadeirydd corff llywodraethu'r ysgolion, neu os nad oes un, perchennog yr ysgolion.
13.
- (1) Personau y mae'r awdurdod argymell wedi cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor argymhelliad y dylid eu hysbysu eu bod yn athrawon cymwysedig a datganiad -
(a) eu bod ar ddyddiad yr argymhelliad -
(i) yn cael eu cyflogi fel athrawon mewn sefydliad addysg bellach, neu
(ii) yn hyfforddwyr mewn ysgol yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004;
(b) eu bod wedi'u hasesu gan yr awdurdod argymell fel rhai sy'n cyrraedd y safonau penodedig;
(c) cyn -
(i) 1 Ionawr 1974 eu bod wedi ennill cymwysterau sy'n bodloni gofynion paragraff 15, 16, 17, 18, 19, 20 neu 21 o Ran 2 o'r Atodlen hon, neu
(ii) 1 Ionawr 1974 eu bod wedi ennill gradd a roddwyd gan brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron, neu
(iii) 1 Medi 1989 eu bod wedi ennill gradd a roddwyd gan brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, llysieueg, sŵoleg, ffisioleg, biocemeg neu ddaeareg;
(ch) yr oeddent yn cael eu cyflogi fel athrawon mewn sefydliadau addysg bellach neu ysgolion annibynnol cyn 1 Medi 1989;
(d) eu bod yn dal Tystysgrif mewn Addysg neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion; ac
(dd) ym marn yr awdurdod argymell, bod ganddynt ddigon o brofiad addysgu i'w galluogi i addysgu disgyblion o 14 oed i 19 oed.
(2) Yn y paragraff hwn ystyr "corff argymell" -
(a) yn achos athrawon nad ydynt yn benaethiaid nac yn benaduriaid, yw penaethiaid neu benaduriaid y sefydliadau addysg bellach y maent yn cael eu cyflogi i addysgu ynddynt; a
(b) yn achos penaethiaid neu benaduriaid, cadeirydd y corff llywodraethu.
14.
Personau a fodlonodd y gofynion ar gyfer cael hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn athrawon cymwysedig o dan Reoliadau 1982, Rheoliadau 1989, Rheoliadau 1993 neu Reoliadau 1999, a'r unig reswm pam nad ydynt yn athrawon cymwysedig yw'r ffaith na chawsant hysbysiad o'r fath.
RHAN
2
Celfyddyd
15.
- (1) Gofynion y paragraff hwn yw bod personau -
(a) wedi ennill cyn 1 Ionawr 1965 gymhwyster -
(i) Diploma Prifysgol Llundain mewn Celfyddyd Cain (Ysgol Slade),
(ii) Diploma Aelodaeth Gyswllt o Goleg Brenhinol Celfyddyd (ARCA) neu Feistr Celfyddyd Coleg Brenhinol Celfyddyd (M Art (RCA)),
(iii) Diploma Dylunydd Coleg Brenhinol Celfyddyd (Des RCA) neu Dystysgrif Dylunydd Coleg Brenhinol Celfyddyd (Cert Des RCA) neu Feistr Dylunio Coleg Brenhinol Celfyddyd (M Des (RCA)),
(iv) Tystysgrif Ysgolion yr Academi Frenhinol a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'r cwrs yn yr Academi yn llwyddiannus, neu
(v) Diploma mewn Celfyddyd a Dylunio a ddyfarnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol dros Ddiplomâu mewn Celfyddyd a Dylunio; neu
(b) wedi cael cymhwyster a bennwyd ym mharagraffau (i) i (v) o is-baragraff (a) ar 1 Ionawr 1965 neu ar ôl hynny, a chyn ennill y cymhwyster hwnnw eu bod wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.
Gwaith llaw
16.
Gofynion y paragraff hwn yw bod personau wedi cael Tystysgrif Athro mewn Gwaith Llaw Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain, cyn 1 Ionawr 1961.
Cerddoriaeth
17.
Gofynion y paragraff hwn yw bod personau -
(a) wedi cael cymhwyster -
(i) Diploma Graddedigion Ysgol Gerdd Birmingham (GBSM),
(ii) Diploma Graddedigion Ysgol Gerdd y Guildhall (GGSM),
(iii) Diploma Graddedigion Coleg Cerdd Llundain (GLCM),
(iv) Diploma Graddedigion Ysgol Gerdd y Northern (GNSM),
(v) Gradd Meistr mewn Cerddoriaeth Coleg Brenhinol Cerddoriaeth (M Mus, RCM),
(vi) Diploma Cymrodoriaeth Coleg Brenhinol yr Organyddion (FRCO),
(vii) Diploma Graddedigion Coleg Cerdd y Royal Manchester (GRSM (Manchester)),
(viii) Diploma Graddedigion yr Ysgolion Brenhinol Cerdd (GRSM), neu
(ix) Diploma Graddedigion Coleg Cerdd Trinity (GTCL); neu
(b) wedi cael cyn 1 Ionawr 1964 gymhwyster -
(i) Diploma Ysgol Gerdd Birmingham a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs dwy-flynedd i hyfforddi athrawon ar gyfer Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Gerdd Birmingham (ABSM) (TTD), neu Ddiploma Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Gerdd Birmingham (ABSM) (Athro) ar gyfer unrhyw offeryn neu'r llais a hwnnw'n gymhwyster a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs amser-llawn o dair blynedd neu gyfnod o astudiaeth ran-amser,
(ii) Tystysgrif Addysgu Liphook, Ysgol Ewrhythmeg Dalcroze Llundain, a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 1955 neu cyn hynny,
(iii) Tystysgrif Canolfan Hyfforddi Cymdeithas Dalcroze (Gorfforedig) a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ym 1954 neu 1955,
(iv) Tystysgrif Ysgol Ewrhythmeg Llundain Cymdeithas Dalcroze (Gorfforedig) a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ar 1 Ionawr 1956 neu ar ôl hynny,
(v) Diploma Addysg Gerddorol i Ysgolion Coleg a Chanolfan Gelfyddydau Dartington,
(vi) Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Gerdd y Guildhall (AGSM) neu Drwyddedog Ysgol Gerdd y Guildhall (LGSM) gyda Diploma Athro arbennig (Cerddoriaeth) neu Ddiploma Athro AGSM neu LGSM (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu AGSM neu LGSM mewn Hyfforddiant Clywedol a Gwerthfawrogi Cerddoriaeth neu AGSM neu LGSM mewn Canu Dosbarth a Hyfforddi'r Llais,
(vii) Diploma mewn Cerddoriaeth Coleg Technoleg Huddersfield,
(viii) Diploma Athro Trwyddedog Coleg Cerdd Llundain (LLCM (TD)) mewn offeryn, neu'r llais neu (os y'i cafwyd erbyn 31 Rhagfyr 1960 fan bellaf) mewn Cerddoriaeth Ysgol neu LLCM mewn Cerddoriaeth Ysgol,
(ix) Diploma Cyswllt Addysg Gerddorol Ysgol Gerdd y Northern,
(x) Diploma Athro Trwyddedog yr Academi Frenhinol Gerdd (LRAM) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu LRAM mewn Hyfforddiant Clywedol neu LRAM mewn Meithrin Llais a Chanu Dosbarth,
(xi) Diploma Athro Aelodaeth Gyswllt o'r Coleg Brenhinol Cerdd (ARCM) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall),
(xii) Aelodaeth Gyswllt o Goleg Brenhinol Cerdd y Royal Manchester (ARMCM) neu ARMCM (Cerddoriaeth Ysgol),
(xiii) Diploma Athro Trwyddedig Coleg Cerdd Trinity, Trwyddedog Coleg Trinity Llundain (LTCL) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu Gymrodoriaeth, FTCL neu Ddiploma Addysg Gerddorol ar gyfer Ysgolion (LTCL Mus Ed),
(xiv) Diploma mewn Cerddoriaeth unrhyw un o Golegau Prifysgol Cymru, neu
(xv) Trwyddedog yr Ysgolion Brenhinol Cerdd (LRSM) neu Ddiploma Athro'r Ysgolion Brenhinol Cerdd (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall);
a chyn iddynt ennill y cymhwyster y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a) neu (b) yr oeddent wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.
Gwniadwaith a Phynciau Cartref
18.
Gofynion y paragraff hwn yw bod personau wedi cael cymhwyster -
(a) dwy dystysgrif mewn gwahanol bynciau gwniadwaith Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain, y mae rhaid i un ohonynt fod yn Dystysgrif Athro,
(b) Tystysgrif Athrawon Technegol Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain a ddyfarnwyd o 1955 i 1964 a dwy Dystysgrif y Sefydliad mewn gwahanol bynciau gwniadwaith, y mae rhaid i un ohonynt fod yn dystysgrif uwch, neu
(c) Tystysgrif Athro Pynciau Cartref (Addysg Bellach) Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain a ddyfarnwyd o 1956 i 1970, ynghyd â'r canlynol
(i) dwy Dystysgrif y Sefydliad mewn gwahanol bynciau gwniadwaith y mae rhaid i un ohonynt fod yn dystysgrif uwch, neu
(ii) Tystysgrif y Sefydliad mewn Coginio Cartref Uwch a Thystysgrif y Sefydliad mewn Gwyddor Tŷ neu Reoli Cartref.
Gwyddoniaeth
19.
Gofynion y paragraff hwn yw bod personau wedi cael cymhwyster -
(a) Aelodaeth Gyswllt o Goleg Brenhinol Gwyddoniaeth (Llundain),
(b) Aelodaeth neu Aelodaeth Gysylltiol y Sefydliad Ffiseg gan gynnwys cymhwyster Aelodaeth Gyswllt neu Raddedig y Sefydliad a gafwyd cyn 1 Mawrth 1971,
(c) Aelodaeth Gyswllt neu Raddedig Sefydliad Brenhinol Cemeg, neu
(ch) Aelodaeth o'r Sefydliad Bioleg.
Lleferydd a Drama
20.
Gofynion y paragraff hwn yw bod personau wedi cael cymhwyster -
(a) Diploma Addysgu a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn Ysgol Ganolog Hyfforddiant Lleferydd a Chelfyddyd Drama (Ysgol Ganolog Lleferydd a Drama wedi hynny),
(b) Diploma Addysgu mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn yr Academi Frenhinol Gerdd,
(c) Diploma Addysgu mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yng Ngholeg Newydd Lleferydd a Drama,
(ch) Diploma Athro Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Cerdd a Drama'r Guildhall (AGSM) mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn Ysgol Cerddoriaeth a Drama'r Guildhall cyn 1 Ionawr 1960,
(d) Diploma a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd mewn Lleferydd a Drama a gynhaliwyd gan Goleg Hyfforddiant Lleferydd a Drama Rose Bruford (Coleg Lleferydd a Drama Rose Bruford wedi hynny),
(dd) Tystysgrif Athro a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd mewn Lleferydd a Drama a gynhaliwyd gan Ysgol Gerdd y Northern tan 1968,
(e) Diploma a ddyfarnwyd ym 1969 ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd ar gyfer athrawon Lleferydd a Drama yng Ngholeg Celfyddyd a Dylunio Manceinion, neu
(f) Diploma a ddyfarnwyd o 1970 ymlaen ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd ar gyfer athrawon Lleferydd a Drama ym Mholytechnig Manceinion,
a chyn iddynt ennill cymhwyster y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (a) i (f) yr oeddent wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.
Cymwysterau eraill
21.
Gofynion y paragraff hwn yw bod y person wedi cael cymhwyster -
(a) Diploma Cenedlaethol Uwch,
(b) Tystysgrif Genedlaethol Uwch,
(c) Diploma mewn Technoleg a ddyfarnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol dros Ddyfarniadau Technolegol neu'r Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol, neu
(ch) Tystysgrif A Undeb neu Sefydliad Cenedlaethol Froebel a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau cwrs tair blynedd yn llwyddiannus.
Dehongli
22.
Yn y Rhan hon ystyr "y cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig" yw lleiafswm o bum cymhwyster lefel gyffredin y Dystysgrif Gyffredinol Addysg, neu gymhwyster cyfatebol.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu darpariaethau yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (Rheoliadau 1999). Mae Rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn dirymu'r rheoliadau cynharach ac yn gwneud darpariaethau trosiannol.
Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn pennu'r gofynion sydd i'w bodloni gan bobl cyn y gallant ddod yn athrawon cymwysedig.
Mae pobl y'u cydnabyddir fel athrawon cymwysedig yn cynnwys -
- y rhai a oeddent yn athrawon cymwysedig o dan Reoliadau 1999;
- y rhai a oeddent yn athrawon cymwysedig o dan reoliadau cyfatebol a wnaed mewn perthynas â Lloegr;
- athrawon ysgol o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir;
- y rhai sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon yng Nghymru;
- y rhai sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
- y rhai sy'n cael eu cydnabod fel athrawon yng Ngogledd Iwerddon;
- y rhai sydd wedi'u cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban;
- y rhai sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod o hyfforddiant fel athrawon graddedig, athrawon cofrestredig neu gyfnod ar y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, neu'r rhai yr aseswyd eu bod yn cyrraedd y safonau penodedig o dan y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth heb fod angen iddynt ymgymryd â hyfforddiant pellach;
- y rhai sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer statws athrawon cymwysedig gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey;
- athrawon penodedig mewn ysgolion annibynnol;
- athrawon addysg bellach penodedig sy'n cael eu cyflogi mewn sefydliadau addysg bellach neu fel hyfforddwyr mewn ysgolion;
- y rhai a fyddai wedi bod yn athrawon cymwysedig o dan Reoliadau 1999 neu reoliadau cynharach, oni bai am fethiant oherwydd amryfusedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor") neu eu rhagflaenwyr i roi hysbysiad ysgrifenedig o dan y Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 6 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor i fod i hysbysu pobl eu bod yn athrawon cymwysedig.
Mae rheoliad 7 yn galluogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i achredu sefydliadau sy'n bodloni meini prawf a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff sefydliadau o'r fath ddarparu cyrsiau hyfforddiant cychwynnol i athrawon ysgol.
Mae rheoliad 8 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol sefydlu cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth a fyddai'n galluogi pobl i gael hyfforddiant i ddod yn athrawon tra'n aros yn gyflogedig. Gallai'r cynllun hwn gynnwys cwmpas y rhaglenni ar gyfer athrawon graddedig ac athrawon cofrestredig a sefydlwyd o dan Reoliadau 1999. Mae darpariaeth benodol yn cael ei gwneud a fyddai'n golygu y gallai'r cynllun ganiatáu bod athrawon a gafodd eu hyfforddi dramor yn cael eu hasesu yn erbyn y safonau ar gyfer statws athrawon cymwysedig heb fod angen iddynt gael hyfforddiant pellach. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud i ganllawiau ar y cynllun, y mae'n rhaid i bobl eu hystyried, gael eu rhoi gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Notes:
[1]
2002 p. 32. Ystyr "Regulations" yw rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 212(1)).back
[2]
Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004, O.S.2004/ (Cy.), oedd y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y Rheoliadau hyn.back
[3]
O.S. 1959/364 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/1281, 1969/1777, 1971/342, 1973/2021 a 1978/1144.back
[4]
O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.back
[5]
O.S. 1989/1319 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1989/1541, 1990/1561, 1991/1134, 1991/1840, 1991/2240 a 1992/1809.back
[6]
O.S. 1993/543 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/368, 1997/2679 a 1998/1584.back
[7]
O.S.1999/2817(Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy. 158), 2002/2938 (Cy. 279), 2003/140 (Cy.12), 2003/2458 (Cy. 240) ac fel y'i dirymwyd yn rhannol gan O.S.2004/1744 (Cy.183).back
[8]
1998 p.38.back
[9]
Gorch. 2073.back
[10]
Gorch. 2183.back
[11]
Gorch. 4904.back
[12]
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Lloegr) 2003, O.S.2003/1662, oedd y Rheoliadau a oedd mewn grym mewn perthynas â Lloegr adeg gwneud y rheoliadau hyn.back
[13]
OJ Rhif L 19, 24.1.89, tud 16.back
English version
ISBN
0 11090975 5
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
20 July 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041729w.html