BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041734w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 6 Gorffennaf 2004 | ||
Yn dod i rym | |||
ac eithrio erthygl 4(3) | 31 Gorffennaf 2004 | ||
erthygl 4(3) | 31 Awst 2004 |
Diwygio Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999
4.
- (1) Diwygir Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999[4] fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw -
(b) hepgorwch y cofnod ar gyfer St. Paul's Primary School o'r rhestr o Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Reolir a mewnosodwch gofnod union debyg ar gyfer St. Paul's Primary School yn y rhestr o Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Gynorthwyir.
(3) Yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw hepgorwch y cofnod ar gyfer St Winefrides Roman Catholic School, Sir Ddinbych.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004
AALl | Enw'r Ysgol | Categori'r Ysgol |
Sir Fynwy | Ysgol Gynradd yr Archesgob Rowan Williams - Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir | Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
Sir Benfro | Ysgol Gynradd Sant Oswallt - Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir | Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
Powys | Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanelwedd - Ysgol Wirfoddol a Reolir | Ysgol Wirfoddol a Reolir |
AALl | Enw'r Ysgol | Categori'r Ysgol |
Sir Ddinbych | Ysgol y Santes Ffraid | Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
AALl | Enw'r Ysgol | Categori'r Ysgol |
Powys | Ysgol Eglwys Loegr Sarn | Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
Nid yw'r dynodiad gan y Gorchymyn hwn ynddo'i hun yn fodd i ennill cymeriad crefyddol na newid cymeriad crefyddol. Mae dynodiad yn cydnabod nodweddion presennol penodol yr ysgol neu ei chorff llywodraethu fel y disgrifir hwy yn Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Y Weithdrefn Ddynodi) 1998 (O.S. 1998/2535). O dan y Ddeddf rhaid i ysgol gau yn gyntaf os yw i ennill cymeriad crefyddol, onid oes ganddi un eisoes fel cwestiwn o ffaith, neu os yw i newid ei chymeriad crefyddol.
Nid yw datganiad yn y Gorchymyn mewn perthynas ag ysgol fod yr enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn unol â'i ddaliadau yn yr ysgol yn unol ag Atodlen 19 i Ddeddf 1998, yn Gatholig yn penderfynu a yw ysgol yn ysgol Gatholig neu beidio yn unol â chyfraith ganon.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud diwygiadau i Orchymyn 1999 er mwyn adlewyrchu'r ffaith:
[2] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddi (O.S.1999/672).back