BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041736w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1736 (Cy.179)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 6 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 1 Medi 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408, 537(1) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymghynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos i'r Cynulliad ei fod yn ddymunol yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996:

Enwi, cychwyn a chymwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[3] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 3(1) mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn nhrefn briodol yr wyddor  - 

    (3) Yn y mannau lle mae'r geiriau "Schedule 3" yn digwydd yn rheoliad 10(1), rheoliad 12(1) a pharagraff 21 o Ran II o Atodlen 1 rhodder y geiriau "Schedules 3 and 4".

    (4) Hepgorer paragraff 16 o Atodlen 3.

    (5) Ar ôl Atodlen 3 mewnosoder y canlynol  - 





Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 sy'n darparu (ymhlith pethau eraill) ar gyfer yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys ym mhrosbectws yr ysgol. Mae rheoliad 2 yn mewnosod rhai diffiniadau newydd ac yn mewnosod hefyd Atodlen 4 newydd sy'n rhagnodi'r wybodaeth am ganlyniadau arholiadau a chymwysterau galwedigaethol y mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu eu cyhoeddi ym mhrosbectws eu hysgolion.


Notes:

[1] 1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30(a) a 30(b) o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), paragraff 106 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), paragraffau 1 a 57 o Atodlen 9 i Deddf Dysgu a Medrau 2000 (2000 p.21) a pharagraff 46 o Atodlen 21 a Rhan 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002 (2002 p.32). Gwnaed diwygiadau perthnasol i adran 537 gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997, paragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/1812.back

[4] 2000 p.21.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090970 4


  © Crown copyright 2004

Prepared 13 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041736w.html