BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041812w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1812 (Cy.197)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 13 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 1 Medi 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[1], â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac sydd yn cynrychioli ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau canlynol honno drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2004 neu wedyn.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997[3]fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle "£1,500" ym mhob man lle y'i gwelir, rhoddir "£1,540".

    (3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle "£11,626" rhoddir "£11,935".

    (4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhoddir y tabl canlynol - 


"TABLE
(1) (2) (3) (4)
Part of relevant income to which specified percentage applies Only assisted pupil (%) Each of two assisted pupils (%) Each of three assisted pupils (%)
That part (if any) which exceeds £11,769 but does not exceed £12,797 9 6.75 5.25
That part (if any) which exceeds £12,797 but does not exceed £13,842 12 9 7
That part (if any) which exceeds £13,842 but does not exceed £15,913 15 11.25 8.75
That part (if any) which exceeds £15,913 but does not exceed £19,108 21 15.75 12.25
That part (if any) which exceeds £19,108 but does not exceed £23,272 24 18 14
That part (if any) which exceeds £23,272 33 24.75 19.25
"






Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ("Rheoliadau 1997") mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2004 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn rhagnodi trefniadau ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honno.

Mae'r swm sydd i'w dynnu yn yr incwm "perthnasol" mewn perthynas â pherthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,500 i £1,540.

Ar lefel incwm 'perthnasol' benodol, neu o dan y lefel honno, gollyngir y ffioedd yn gyfan gwbl. Mae'r lefel honno yn cael ei chynyddu i £11,935 yn lle £11,626, gyda chynnydd cyfatebol yn y cyfran nad yw'n cael ei gasglu os yw'r incwm "perthnasol" yn fwy na'r swm hwnnw.


Notes:

[1] 1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back

[2] Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/1968, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1504, O.S. 2000/1938 (Cy.136), O.S. 2001/2680 (Cy.221), O.S. 2002/1879 (Cy.188) ac O.S. 2003/1854 (Cy.204).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090989 5


  © Crown copyright 2004

Prepared 20 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041812w.html