BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041814w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1814 (Cy.199) (C.74)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 13 Gorffennaf 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004.

Y dyddiad a bennwyd ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â Chynllun Gofodol Cymru
    
2. Y dyddiad a bennwyd i adran 60 o'r Ddeddf ddod i rym yw'r 14 Gorffennaf 2004.

Darpariaeth Drosiannol
    
3. Bydd unrhyw gam a gymerwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â darparu Cynllun Gofodol Cymru[2], gan gynnwys unrhyw ymgynghoriad gydag unrhyw berson mewn perthynas â darpariaethau'r Cynllun, i'w drin fel un a gymerwyd er mwyn cyflawni'r dyletswyddau a osodwyd ar y Cynulliad Cenedlaethol gan adran 60 o'r Ddeddf, boed i'r cam hwnnw gael ei gymryd cyn y dyddiad a bennwyd gan erthygl 2 neu ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf") yn gosod dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i baratoi cynllun gofodol (Cynllun Gofodol Cymru), i ymgyhgori gyda'r cyhoedd ar ei ddarpariaethau ac i'w gymeradwyo a'i gyhoeddi.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 60 o'r Ddeddf i rym ar 14 Gorffennaf 2004.

Gan fod y gwaith o baratoi Cynllun Gofodol Cymru, gan gynnwys ymgynhori â'r cyhoedd arno, wedi'i gychwyn, o dan bwerau cyffredinol y Cynulliad Cenedlaethol, cyn fod adran 60 o'r Ddeddf wedi dod i rym, mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn darparu fod camau a gymerwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r cynllun hwnnw cyn i'r adran honno ddod i rym i'w trin, serch hynny, fel camau a gymerwyd yn unol â'r dyletswyddau perthnasol o dan yr adran honno.


Notes:

[1] 2004 p.5.back

[2] Gweler adran 58(1) o'r Ddeddf.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090992 5


  © Crown copyright 2004

Prepared 23 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041814w.html