BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif1825 (Cy.201)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Mesur Trosiannol sy'n Ymwneud â Phartneriaid Anghlinigol) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
14 Gorffennaf 2004 | |
|
Yn dod i rym |
19 Gorffennaf 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 200 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Mesur Trosiannol sy'n Ymwneud â Phartneriaid Anghlinigol) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 19 Gorffennaf 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Deddf 1977" ("the 1977 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[2];
ystyr "partner anghlinigol" ("non-clinical partner") yw partner mewn partneriaeth nad yw'n ymarferydd meddygol cofrestredig nac yn broffesiynolyn gofal iechyd;
dehonglir "partner anghlinigol perthnasol" ("relevant non-clinical partner") yn unol ag erthygl 2;
ystyr "proffesiynolyn gofal iechyd" ("health care professional") yw person sy'n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002[3]; ac
ystyr "ymarferydd unigol" ("sole practitioner") yw ymarferydd meddygol cofrestredig a oedd, cyn 1 Ebrill 2004, yn darparu gwasanaethau o dan adran 29 o Ddeddf 1977[4] (trefniadau a rheoliadau ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol) ond nid fel rhan o gymdeithas o ymarferwyr meddygol cofrestredig a oedd, fel practis grŵp, yn cydlynu eu rhwymedigaethau priodol i ddarparu gwasanaethau o dan yr adran 29 a enwyd.
Partneriaid anghlinigol perthnasol
2.
Os -
(a) bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn ymrwymo neu wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol gydag ymarferydd meddygol cofrestredig fel un o ddau neu fwy o unigolion sy'n ymarfer mewn partneriaeth;
(b) oedd yr ymarferydd meddygol cofrestredig hwnnw yn rhedeg busnes ar 31 Mawrth 2004, ac os oedd yng nghwrs y busnes yn darparu gwasanaethau o dan adran 29 o Ddeddf 1977 (trefniadau a rheoliadau ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol) -
(i) mewn partneriaeth gydag un unigolyn a oedd yn bartner anghlinigol, neu gyda dau neu fwy o unigolion yr oedd un ohonynt yn bartner anghlinigol,
(ii) mewn partneriaeth gydag un neu fwy o ymarferwyr meddygol cofrestredig eraill neu unigolion eraill, a bod y bartneriaeth honno'n cyflogi person sydd neu a fydd yn bartner anghlinigol yn y bartneriaeth sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol; neu
(iii) fel ymarferydd unigol a'i fod wedi cyflogi person sydd neu a fydd yn bartner anghlinigol yn y bartneriaeth sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol; ac
(c) ar y dyddiad y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ymrwymo neu wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol y mae neu yr oedd -
(i) y partner anghlinigol a grybwyllir ym mharagraff (b)(i), neu
(ii) y person a grybwyllir ym mharagraff (b)(ii) neu (b)(iii),
yn bartner yn y bartneriaeth sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol,
mae'r partner hwnnw yn y bartneriaeth, fel y crybwyllir yn is-baragraff (c), at ddibenion erthygl 3, yn "bartner anghlinigol perthnasol".
Partneriaid anghlinigol perthnasol a oedd yn bartneriaid mewn partneriaethau a ymrwymodd, cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a ddaeth yn effeithiol at ddibenion talu ar 1 Ebrill 2004
3.
- (1) Os -
(a) oedd partner anghlinigol perthnasol cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yn bartner mewn partneriaeth a ymrwymodd i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol a ddechreuodd fod yn effeithiol at ddibenion talu ar 1 Ebrill 2004; a
(b) oedd pob partner yn y bartneriaeth honno, ar wahân i'r partner anghlinigol perthnasol, yn unigolyn a oedd yn dod o fewn adran 28S(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1977 ar yr adeg pan ymrwymodd y bartneriaeth i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol,
mae paragraff (2) yn gymwys.
(2) Yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (1), o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym -
(a) rhaid trin y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw fel contract yr ymrwymodd partneriaeth iddo a'r bartneriaeth honno wedi'i ffurfio'n unig o unigolion sy'n dod o fewn adran 28S(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1977; a
(b) os yw'r partner anghlinigol perthnasol y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym yn dal i fod yn bartner mewn partneriaeth sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol, rhaid ei drin, o'r dyddiad hwnnw ymlaen, fel pe bai'n unigolyn sy'n dod o fewn adran 28S(2)(b)(iv) o Ddeddf 1977, ond rhaid peidio ag ymdrin ag ef felly os nad yw'n darparu gwasanaethau o'r math a grybwyllir yn adran 28D(1)(bc) o'r Ddeddf honno am gyfnod parhaus o chwe mis ar ôl y dyddiad hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Gorffennaf 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae pwerau gan Fyrddau Iechyd Lleol i ymrwymo i gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol gyda phartneriaethau, ar yr amod bod cyfansoddiad y bartneriaeth yn bodloni gofynion adran 28S o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau lle caiff unigolion anghlinigol a oedd yn gweithio i bartneriaethau ymarferwyr cyffredinol cyn 1 Ebrill 2004 (y dyddiad cynharaf y caiff contract gwasanaethau meddygol cyffredinol fod yn effeithiol) ond nad ydynt fel arall yn bodloni gofynion adran 28S fod, serch hynny, yn rhan o bartneriaethau sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol.
Notes:
[1]
2003 p.43.back
[2]
1977 p.49.back
[3]
2002 p.17.back
[4]
1977 p.49. Diddymwyd adran 29 ar 1 Ebrill 2004 ond cyn y diddymiad hwnnw cawsai ei diwygio gan: Deddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 7; Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), Atodlen 6, paragraff 2; Deddf Feddygol 1983 (p.54), Atodlen 5, paragraff 16(a); O.S. 1985, erthygl 7; Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18; Deddf Feddygol (Perfformiad Proffesiynol) 1995 (p.51), yr Atodlen, paragraff 28; Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraffau 8 a 71, ac Atodlen 3, Rhan I; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 23, ac Atodlen 6, Rhan 1; a Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), Atodlen 2, paragraff 3, ac Atodlen 8, paragraff 2.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090994 1
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
26 July 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041825w.html