BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042746w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2746 (Cy.244)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004

  Wedi'i wneud 13 Hydref 2004 
  Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, ac yntau wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1], dyddiedig Mai 2003 ynghylch ei adolygiad o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch, ynghyd â chynigion a ffurfiwyd gan y Comisiwn;

     A Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi penderfynu gwneud y cynigion yn effeithiol heb eu haddasu;

     A chan fod mwy na chwech wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

     Yn awr, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2005, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, gyda'r eithriad bod rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2004.

Dehongli
    
2. Ystyr "y map ffiniau" ("the boundary map") yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sydd wedi'i farcio "Map Ffiniau Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

Newidiadau i'r Ffiniau Sirol
     3. Mae'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch wedi'i newid yn unol ag Erthygl 4.

Ffin Sirol newydd
    
4. Mae'r ffin rhwng y rhannau hynny o Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch, a ddangosir ar y map ffiniau, i gynnwys yr hyn a ddangosir ar y map ffiniau fel "Ffin Sirol Newydd/Ffin Newydd Sir wedi'i Chadw", gyda'r canlyniad bod yr ardal o dir a ddangosir gyda llinellau rhesog du ar y map ffiniau i'w chynnwys yn Sir Powys yn lle ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Newid canlyniadol i adrannau etholiadol
    
5. Newidir ffiniau ward Ystalyfera yng nghymuned Ystalyfera (sy'n ffurfio rhan o ardal etholiadol Ystalyfera), a ward Cwm-twrch yng nghymuned Ystradgynlais (yn ardal etholiadol Cwm-twrch) fel eu bod yn cyd-fynd â'r ffin fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4.

Newid canlyniadol i Ffin Siroedd Wedi'u Cadw
    
6. Mae ffiniau siroedd Gorllewin Morgannwg a Phowys, sef y siroedd sydd wedi'u cadw, wedi'u newid er mwyn iddynt gyd-fynd â'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Sue Essex
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

13 Hydref 2004










EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn gwneud cynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn effeithiol.

Bu i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ("y Comisiwn") adrodd ym mis Mai 2003 ar arolwg a gynhaliwyd ganddo o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch. Yr oedd yr adroddiad yn argymell newidiadau i ran o'r ffin bresennol, ac effaith y rheini oedd y byddai rhan o gymuned Ystalyfera yn ardal Cwm-twrch (a ddangosir ar y map ffiniau gyda llinellau rhesog du, ac y cyfeirir ati yn y Gorchymyn) sydd yn awr ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yn mynd yn rhan o gymuned Ystradgynlais yn Sir Powys. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud yr awgrymiadau hynny'n effeithiol, heb unrhyw addasiad iddynt.

Adneuwyd copïau o'r map ffiniau sy'n dangos y ffin newydd yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot, yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, a gellir edrych arnynt yn ystod oriau gwaith arferol.

Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) ("Rheoliadau 1976"), y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithredu gorchmynion megis y gorchymyn hwn.

Mae newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol Ystalyfera a Chwm-twrch, i gyd-fynd â'r ffin gymunedol newydd, ac i'r ffin rhwng siroedd Gorllewin Morgannwg a Phowys, sydd wedi'u cadw, gan adlewyrchu'r newid i'r ffin rhwng y Fwrdeistref Sirol a'r Sir, sydd, yn eu tro, bellach yn rhan o'r siroedd hynny sydd wedi'u cadw.


Notes:

[1] 1972 p.70.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.back

[3] O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 O.S. 1978/247.back



English version



ISBN 0 11091013 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 28 October 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042746w.html