BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042878w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2878 (Cy.248)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 2 Tachwedd 2004 
  Yn dod i rym 3 Tachwedd 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) a (6) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 3 Tachwedd 2004.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dynodi corff cyhoeddus
    
2. Mae PBS 2003 Limited[3], gan ei fod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel pe bai'n berson sy'n arfer swyddogaeth o natur gyhoeddus, yn gorff cyhoeddus at ddibenion Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970.

Cyfyngiadau ar gytundebau  -  PBS 2003 Limited
     3. Mae'r cytundebau y caniateir i PBS 2003 Limited ymrwymo iddynt yn rhinwedd y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a ganlyn - 



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Tachwedd 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 ("Deddf 1970") yn nodi at ba ddibenion y caiff Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng Nghymru (ymhlith eraill) ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus ynghylch cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan y Cyngor hwnnw.

O dan adran 1(5) o Ddeddf 1970, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion Deddf 1970, y pŵer i bennu yn gorff cyhoeddus berson neu ddisgrifiad o bersonau yr ymddengys iddo eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dynodi PBS 2003 Limited yn gorff cyhoeddus o dan adran 1(5) o Ddeddf 1970.

Yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, ceir cyfyngiadau ar y cytundebau y caniateir ymrwymo iddynt.

Effaith y dynodiad hwnnw yw caniatáu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ddarparu gwasanaethau arlwyo a chynnal a chadw tiroedd (neu'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hynny) i PBS 2003 Limited drwy gytundeb sydd at unrhyw ddiben a ragnodir gan adran 1(1) o Ddeddf 1970.


Notes:

[1] 1970 p.39. Mae'r pŵer a roddwyd i'r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol; gweler O.S. 1970/1681 a hefyd O.S. 1997/2971.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Ymgorfforwyd PBS 2003 Limited yn gwmni preifat wedi'i gyfyngu gan gyfrannau ar 12 Rhagfyr 2002 ac fe'i cofrestrwyd o dan rif cwmni 4615908.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091016 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 9 November 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042878w.html