BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042918w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2918 (Cy.257)

GWASANAETHAU TÂN

PENSIYNAU

Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 9 Tachwedd 2004 
  Yn dod i rym 11 Tachwedd 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 36, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[1]:

Cymhwyso, enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchmyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 11 Tachwedd 2004.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Cynllun" yw'r cynllun a sefydlwyd o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[2] ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992[3].

Cadw'r cynllun pensiwn presennol
     3.  - (1) Er gwaethaf diddymu adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[4]), bydd y Cynllun yn parhau mewn grym.

    (2) Bydd y deddfiadau a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn parhau i fod ag effaith at ddibenion y Cynllun fel pe na baent wedi'u diwygio neu eu diddymu, fel sy'n briodol, gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Newid enw'r cynllun
     4.  - (1) Enw newydd y Cynllun fydd "Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)".

    (2) Dehonglir unrhyw gyfeiriad at y Cynllun mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen arall (gan gynnwys y Cynllun ei hun) fel cyfeiriad at y Cynllun o dan ei enw newydd.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2004



ATODLEN
Erthygl 3(2)

Deddf Adrannau o'r Ddeddf sy'n parhau i fod ag effaith at ddibenion y Cynllun
Deddf Gwasanaethau Tân 1947 Adran 26, is-adrannau (1) i (5)[6]

Adran 27A[7]

Adran 35, i'r graddau y mae'n berthnasol i adran 26

Adran 39(5)

Y Drydedd Atodlen

Deddf Gwasanaethau Tân 1951[8] Adran 1
Deddf y Lluoedd wrth Gefn a'r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951[9]) Adran 46(3)(iii)

Adran 61(1)(d)

Deddf Gwasanaethau Tân 1959[10] Adran 8, is-adrannau (1) i (3)

Adran 9, is-adrannau (1) a (2)Adran 10

Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971[11]) Paragraffau 16, 16A a 44 o Atodlen 2[12]
Deddf Blwydd-daliadau 1972[13] Adran 16

Adran 24(1)(a)

Deddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997[14] Adran 1(3)



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ("y Cynllun"), a sefydlwyd o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947, yn parhau mewn grym er bod yr adran honno wedi'i diddymu gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. At ddibenion y Cynllun, mae'r Gorchymyn hwn yn parhau i roi effaith i ddeddfiadau penodol a ddiwygiwyd neu a ddiddymwyd gan Ddeddf 2004.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer newid enw'r Cynllun yn "Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)". Dehonglir unrhyw gyfeiriad at y Cynllun mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen arall (gan gynnwys y Cynllun ei hun) fel cyfeiriad at y Cynllun o dan ei enw newydd.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'r offeryn yn effeithio o gwbl ar gostau busnesau, elusennau neu gyrff gwirfoddol.


Notes:

[1] 2004 p.21.back

[2] 1947 p. 41.back

[3] O.S. 1992/129, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2309, 1997/2851, 1998/1010, 2001/3649, 2001/3691 ac O.S. 2001/310.back

[4] Diddymir Adran 26 gan adran 54 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac Atodlen 2 iddi, ond mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen iddo yn parhau i roi effaith i'r adran honno at ddibenion y Cynllun.back

[5] 1998 p.38.back

[6] Diwygiwyd adran 26 gan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1951 (p. 27); adran 42 o Ddeddf y Lluoedd wrth Gefn a'r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951 (p. 65); adran 33 o Ddeddf Dwyn 1968 (p. 60) ac Atodlen 3 iddi; adrannau 16 a 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 ac Atodlen 8 iddi (p. 11); adran 100 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1973 ac Atodlen 27 iddi (p. 38); adran 1 o Ddeddf Cymorth Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 1975 ac Atodlen 1 iddi (p. 18); adran 32 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43); adran 1 o Ddeddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 (p. 52) ac erthygl 2 o Orchymyn Cymorth Gwladol (Addasu Deddf Gwasanaethau Tân 1947) 1976 (O.S. 1976/551).back

[7] Mewnosodwyd adran 27A gan adran 3 o Ddeddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 ac fe'i diwygiwyd gan erthygl 102 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Diwygiadau Canlyniadol a Diddymiadau) 2001 (O.S. 2001/3649).back

[8] 1951 p.27.back

[9] 1951 p.65; diwygir adrannau 46(3)(iii) a 61(1)(d), o 11 Tachwedd 2004, gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a pharagraff 12 o Atodlen 1 iddi.back

[10] 1959 p. 44.back

[11] 1971 p. 56; mewnosodwyd paragraff 16A o Atodlen 2 gan adran 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 a pharagraff 89 o Atodlen 6 iddi. Diwygir paragraffau 16, 16A a 44 o Atodlen 2, o 11 Tachwedd 2004, gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a pharagraff 35 o Atodlen 1 iddi.back

[12] 1971 p.56; mewnosodwyd paragraff 16A gan adran 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 ac Atodlen 6 iddi.back

[13] 1972 p.11. O 11 Tachwedd 2004, diwygir adran 24(1)(a) gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, a pharagraff 37 o Atodlen 1 iddi.back

[14] 1997 p.52.back



English version



ISBN 0 11091027 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 17 November 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042918w.html