BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043158w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 30 Tachwedd 2004 | ||
Yn dod i rym | 9 Rhagfyr 2004 |
Cynigion
2.
- (1) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth ("trefniadau gweithrediaeth presennol"), yn rhinwedd penderfyniad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer), p'un a ydynt yn cael eu cymhwyso gan reoliad 9(1) neu beidio, lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau gweithrediaeth ("trefniadau gweithrediaeth gwahanol") sy'n wahanol i'r trefniadau gweithrediaeth presennol naill ai:
(2) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth presennol lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau amgen yn eu lle[5].
(3) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ("trefniadau amgen presennol"), yn rhinwedd penderfyniad o dan adran 33(2) o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau amgen), p'un a ydynt yn cael eu cymhwyso gan reoliad 9(2) neu beidio, lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau amgen ("trefniadau amgen gwahanol") sy'n wahanol i'r trefniadau amgen presennol mewn unrhyw ffordd.
(4) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen presennol lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn eu lle.
Llunio cynigion
3.
- (1) Cyn llunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4), rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol ac â phersonau eraill sydd â buddiant yn yr ardal honno.
(2) Rhaid i gynigion a lunnir o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4) gynnwys -
(3) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a) neu (4), rhaid i awdurdod lleol benderfynu -
(4) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2(2) neu 2(3), rhaid i awdurdod lleol benderfynu i ba raddau y mae ei swyddogaethau i'w dirprwyo i Fwrdd yr awdurdod[7].
(5) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2, rhaid i awdurdod lleol ystyried i ba raddau y byddai'r cynigion, o'u rhoi ar waith, yn debyg o fod o gymorth i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan dalu sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
Cyfarwyddiadau
4.
Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gofyniad i gynnal refferendwm
5.
- (1) Os bydd awdurdod lleol yn llunio cynigion o dan reoliad 2 a fyddai, petaent wedi'u gwneud o dan adran 25 o Ddeddf 2000 (Cynigion), yn ei gwneud yn ofynnol i refferendwm gael ei gynnal, mae darpariaethau adran 27(1)(a) o Ddeddf 2000 (Refferendwm yn achos cynigion sy'n cynnwys maer etholedig) i fod yn gymwys i'r cynigion hynny.
(2) Os yw'n ofynnol i awdurdod lleol gynnal refferendwm yn rhinwedd paragraff (1), rhaid iddo lunio amlinelliad o'r cynigion hefyd ("cynigion amlinellol wrth gefn") y mae rhaid iddynt gynnwys crynodeb o drefniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol neu ei drefniadau amgen presennol, yn ôl y digwydd.
(3) Ni chaiff awdurdod lleol gynnal refferendwm o'r fath cyn y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol -
Gwybodaeth sydd i'w hanfon i'r Cynulliad
6.
- (1) Os yw cynigion yn cael eu llunio o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4), rhaid i'r awdurdod lleol anfon i'r Cynulliad -
(2) Os yw'n ofynnol i awdurdod lleol gynnal refferendwm yn rhinwedd rheoliad 5, rhaid iddo anfon i'r Cynulliad hefyd, ynghyd â'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), gopi o'r cynigion amlinellol wrth gefn, a luniwyd o dan reoliad 5(2).
Cynigion nad yw'n ofynnol cynnal refferendwm arnynt
7.
- (1) Os yw awdurdod lleol -
rhaid i'r awdurdod, yn ddarostyngedig i baragraff (2), roi'r cynigion ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion.
(2) Rhaid i awdurdod lleol, y mae paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi cynigion ar waith, beidio â gwneud hynny heb gymeradwyaeth ysgrifenedig y Cynulliad.
Cynigion y mae'n ofynnol cynnal refferendwm arnynt
8.
- (1) Os canlyniad refferendwm a gynhaliwyd yn rhinwedd rheoliad 5 yw gwrthod y cynigion a oedd yn destun y refferendwm, rhaid i'r awdurdod lleol -
(2) Os canlyniad refferendwm a gynhaliwyd yn rhinwedd rheoliad 5 yw cymeradwyo'r cynigion a oedd yn destun y refferendwm, rhaid i'r awdurdod lleol roi'r cynigion hynny ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion.
Y gofynion ar gyfer penderfyniad
9.
- (1) Mae is-adran (1) o adran 29 o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) i fod yn gymwys i weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol yn yr un modd ag y mae'n gymwys i weithredu trefniadau gweithrediaeth yn wreiddiol neu yn lle'r trefniadau amgen presennol.
(2) Mae is-adran (2) o adran 33 o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau amgen) i fod yn gymwys i weithredu trefniadau amgen gwahanol fel y mae'n gymwys i weithredu trefniadau amgen yn wreiddiol neu yn lle'r trefniadau gweithrediaeth presennol.
Cyhoeddusrwydd ar gyfer trefniadau
10.
- (1) Os yw awdurdod wedi penderfynu gweithredu -
rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pasio penderfyniad o'r fath, sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael yn ei brif swyddfa i aelodau o'r cyhoedd fwrw golwg drostynt ar bob awr resymol.
(2) Os yw awdurdod wedi penderfynu -
rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pasio penderfyniad o'r fath, gyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cydymffurfio â darpariaethau paragarff (3).
(3) Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) -
(4) Os bydd cynigion yr awdurdod lleol wedi'u gwrthod mewn refferendwm yr oedd yn ofynnol ei gynnal yn rhinwedd rheoliad 5(1), rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cynnal y refferendwm, mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sydd -
Ymgynghori cyn y dyddiad cychwyn
11.
- (1) Mae paragraff (2) yn gymwys -
(2) Rhaid cymryd bod y gofynion hynny wedi'u bodloni i'r graddau hynny.
Dirymu
12.
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gweithredu Trefniadau Gweithredol neu Amgen Gwahanol) (Cymru) 2002[10] drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Tachwedd 2004
[2] Gweler adran 48(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i gael y diffiniad o "awdurdod lleol".back
[3] O.S. 2001/2284 (Cy.173), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/3711, 2002/810, 2003/155, 2003/2676, a 2004/3092.back
[4] Mae ffurfiau ar weithrediaeth wedi'u pennu yn adran 11 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[5] Yn rhinwedd O.S. 2001/2284 (fel y'i diwygiwyd), caiff pob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru weithredu trefniadau amgen.back
[6] Gweler O.S. 2001/2291 (Cy.179), a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/783, 2003/153, 2003/2676 a 2004/3093back
[7] Gweler, yn benodol, reoliadau 7 i 11 of O.S. 2001/2284 (fel y'i diwygiwyd).back
[8] Gweler, yn benodol, adrannau 30 a 33 i 36 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[9] Gweler, yn benodol, adrannau 33 i 36 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[10] O.S. 2002/2880 (Cy.276).back