BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005 Rhif 69 (Cy.7)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050069w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 69 (Cy.7)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005

  Wedi'u gwneud 18 Ionawr 2005 
  Yn dod i rym 21 Ionawr 2005 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 4(1), (2) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 21 Ionawr 2005.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000
    
2. Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000[3] fel a ganlyn.

     3. Yn Atodlen 1 - 

     4. Yn Atodlen 2 - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Ionawr 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau )


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 ("Rheoliadau 2000") mewn perthynas â materion penodol sydd i'w cofnodi ar y gofrestr a gedwir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor"). Mae'r gofrestr i ddangos y dyddiad y cyflogwyd person am y tro cyntaf fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn unol â darpariaethau Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004 ("y Rheoliadau Ymsefydlu"). Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fonitro a ganiateir i berson barhau dan gyflogaeth fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan y Rheoliadau Ymsefydlu. Mae'r Rheoliadau Ymsefydlu yn gosod terfynau ar y cyfnodau pan geir cyflogi person, sydd heb wasanaethu cyfnod ymsefydlu, yn athro cyflenwi neu'n athrawes gyflenwi.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Atodlenni 1 a 2 i Reoliadau 2000 fel nad oes angen mwyach i'r Cyngor gofnodi ar y gofrestr y dyddiad pryd y dechreuodd cwrs hyfforddi cychwynnol athrawon ar gyfer athro neu athrawes a phryd y cwblhawyd y cwrs.


Notes:

[1] 1998 p.30. Mae adrannau 2 i 7 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 9. Diwygir adran 4 yn rhagolygol gan baragraff 4(2) o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32), a diwygiwyd hi gan baragraff 77 o Atodlen 21 i'r Ddeddf honno. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back

[3] O.S. 2000/1979 (Cy.140), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2496 (Cy.200) ac O.S. 2004/1741 (Cy. 180).back

[4] O.S. 2003/543 (Cy. 77). Amnewidiwyd paragraff 4 o Atodlen 1 gan O.S. 2004/872 (Cy.87).back

[5] Mewnosodwyd Rheoliad 18(2) gan O.S. 2004/872 (Cy. 87).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091056 7


  © Crown copyright 2005

Prepared 25 January 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050069w.html