[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 182 (Cy.15)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
1 Chwefror 2005 | |
|
Yn dod i rym |
28 Chwefror 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005, maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig a deuant i rym ar 28 Chwefror 2005.
Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998
2.
Diwygir Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998[4] i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru, yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3.
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) -
(a) ar ddiwedd y diffiniad o "Commission Directive 2002/16" ychwaneger y geirau "as amended by Commission Directive 2004/13/EC"[5];
(b) ar ddiwedd y diffiniad o "the Directive" ychwaneger y geiriau "as amended by Commission Directive 2004/1/EC"[6].
4.
Yn y darpariaethau canlynol, rhodder y ffigur "2006" yn lle'r ffigur "2005" -
(a) rheoliad 4A(1)(a);
(b) rheoliad 5(1)(b)(i);
(c) rheoliad 8A(1);
(ch) yn adran A o Ran I o Atodlen 1, yn eitem 40 yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau).
5.
Yn Rhan 1 o Atodlen 2, yn eitem 27A yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau), ar ôl y geiriau "For use only as a blowing agent" ychwaneger y geiriau "Use prohibited as from 2 August 2005".
6.
Yn rheoliad 10 (tramgwyddau) -
(a) yn lle paragraff (19) rhodder y ddarpariaeth ganlynol -
"
(23) In any proceedings for an offence under regulations 3(1)(a) or (b) in relation to the sale as from 2 August 2005 of a plastic material or article containing azodicarbonamide with reference number 36640 in Part I of Schedule 2 it shall be a defence to prove that -
(a) the plastic material or article was brought into contact with food before 2 August 2005,
(b) the date of filling (or subject to paragraph (24) of this regulation a coded indication of the date of filling) of the material or article concerned appeared on the plastic material or article at the time of sale, and
(c) the labelling or marking with the particulars mentioned in subparagraph (b) at the time of sale complied with the requirements as regards labelling relating to durability contained in Article 2.1(a) of Directive 2000/13/EC of the European Parliament and the Council.
(24) For the purposes of paragraph (19)(b) and paragraph (23)(b) of this regulation the date signified by a coded indication shall have been made available on request to the Food Standards Agency and the enforcement authority.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Chwefror 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, ac maent yn diwygio ymhellach Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S.1998/1376, "Rheoliadau 1998"), sy'n rhychwantu'r cyfan o Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/13/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/16/EC sy'n ymwneud â defnyddio deilliannau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L51, 22.2.2002, t.27) a hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/1/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC mewn perthynas â defnyddio asodicarbonamid fel cyfrwng chwythu (OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18).
2.
Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 1998 drwy -
(a) ychwanegu blwyddyn at awdurdodiad dros dro i 2,2-bis(hydroxyphenyl)propane bis(2,3-epocsipropyl)ether ("BADGE") (rheoliad 4);
(b) gwahardd defnyddio cyfrwng chwythu asodicarbonamid o 2 Awst 2005 ymlaen (rheoliad 5);
(c) diwygio'r amddiffyniad sydd ar gael o dan reoliad 10 paragraff (19) o Reoliadau 1998 i ganiatáu ar gyfer defnyddio cod dyddiad fel dewis amgen i'r dyddiad llenwi sy'n ymddangos ar ddeunyddiau ac eitemau a orchuddiwyd â haenau arwyneb, a bod yr amddiffyniad hwnnw yn amodol ar i ystyr y cod fod wedi cael ei ddatgelu i'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod gorfodi pan ofynnwyd amdano (rheoliad 6(a));
(ch) creu amddiffyniad sy'n ymwneud ag asodicarbonamid yn debyg i'r un sy'n gymwys i ddeunyddiau ac eitemau a orchuddiwyd â haenau arwyneb (rheoliad 6(c)).
3.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/13/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p. 16.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau "yr Ysgrifennydd Gwladol" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4]
O.S. 1998/1376, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1263 (Cy.70), O.S. 2002/2834 (Cy. 272) ac O.S. 2003/302 (Cy.44).back
[5]
OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.46.back
[6]
OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091062 1
|
© Crown copyright 2005 |
Prepared
8 February 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050182w.html