BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 366 (Cy.32)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050366w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 366 (Cy.32)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2005

  Wedi'u gwneud 22 Chwefror 2005 
  Yn dod i rym 4 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 28U a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 4 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2004
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004[2] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn Atodlen 2 (cyffuriau neu feddyginiaethau i'w harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig) - 


(b) Ar ôl y geiriau "in this Schedule" mewnosoder yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Chwefror 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc) (Cymru) 2004 ("y prif Reoliadau") sy'n gwneud darpariaethau ynghylch y cyffuriau, y meddyginiaethau neu'r sylweddau eraill y caniateir eu harchebu ar gyfer cleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol o fewn ystyr "general medical services contract" yn adran 28Q o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae rheoliad 2 yn ychwanegu Oseltamivir (Tamiflu) a Zanamivir (Relenza) at Atodlen 2 i'r prif Reoliadau, sy'n rhestru'r cyffuriau a'r sylweddau eraill y caniateir eu harchebu o dan gontract o'r fath o dan amgylchiadau penodol yn unig, ac mae'n nodi o dan ba amgylchiadau y caniateir eu harchebu.


Notes:

[1] {d1}{t1}1977 p.49; mewnosodwyd adran 28U gan adran 175(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43); y dyddiad y daeth i rym: 28/2/04; gweler O.S. 2004/480, erthygl 3(1)(a).{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 28U a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back

[2] O.S. 2004/1022 (Cy.119).back

[3] O.S. 2004/478 (Cy.48)back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091070 2


  © Crown copyright 2005

Prepared 2 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050366w.html