BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 367 (Cy.33)
CAFFAEL TIR, CYMRU
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
22 Chwefror 2005 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ac adrannau 143 a 147 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[2], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Terfyn gwerth blynyddol
2.
£29,200 yw'r swm a ragnodir at ddibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Dirymu
3.
Dirymir drwy hyn Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000[4] .
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Chwefror 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r darpariaethau ynglŷn â hysbysiadau malltod yn adrannau 149 i 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("y Ddeddf") yn galluogi personau sydd â buddiannau penodol mewn categorïau o dir, a bennir yn Atodlen 13 i'r Ddeddf (gan gynnwys tir y mae cynigion cynllunio a chynigion priffyrdd penodol yn effeithio arno), i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol gaffael eu buddiant yn y tir.
Un o'r buddiannau mewn tir sy'n gymwys i'w diogelu yw buddiant perchen-feddiannydd hereditament (sef hereditament perthnasol o fewn ystyr adran 64(4)(a) i (c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988) pan na fydd gwerth blynyddol yr hereditament yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (adran 149(3)(a) o'r Ddeddf).
Mae'r pŵer i ragnodi'r swm hwnnw, i'r graddau y mae'n arferadwy o ran Cymru, wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a, thrwy arfer ei bwerau, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy'r Gorchymyn hwn, yn codi'r terfyn gwerth blynyddol o £24,600 i £29,200 i gymryd ailbrisio'r ardrethi yn y flwyddyn 2005 i ystyriaeth.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1169) (Cy.94) wedi'i ddirymu.
Notes:
[1]
1990 p.8.back
[2]
1988 p.41.back
[3]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel a amrywiwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5).back
[4]
O.S. 2000/1169 (Cy.94).back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091072 9
|
© Crown copyright 2005 |
Prepared
2 March 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050367w.html