BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005 Rhif 426 (Cy.43)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050426w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 426 (Cy.43)

AER GLÂN, CYMRU

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 1 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 5 Mawrth 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], ac yntau wedi'i fodloni y gall y dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwydd nad yw'n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 5 Mawrth 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio rhag adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993
    
2. Mae'r dosbarthau ar leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sy'n gwahardd gollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).

Diwygio Gorchymyn cynharach
    
3. Yn y cofnod sy'n ymwneud â'r Dunsley Yorkshire Stove yn yr Atodlen i Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) 1999[3] - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Mawrth 2005



YR ATODLEN
Erthygl 2


DOSBARTHAU AR LEOEDD TÂN SY'N ESEMPT


Dosbarth ar le tân Amodau
Y Dunsley Yorkshire Woodburning Stove a wneir gan Dunsley Heat Limited      1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 4 Rhagfyr 2004 a'r cyfeirnod D13W.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sych heb ei drin.

Yr Home and Hearth Technologies Quadra-Fire 2100 Millennium Freestanding Wood Burning Stove a wneir gan Hearth & Home Technologies, 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA.      1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 9 Hydref 2003 a'r cyfeirnod 250-6931B.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sydd wedi'i sychu ac sydd heb ei drin ac sydd heb fod yn fwy na 38.1 × 10.16 × 5.08cm.

Yr Home and Hearth Technologies Quadra-Fire Yosemite Freestanding Wood Burning Stove a wneir gan Home and Hearth Technologies, 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA.      1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 4 Mehefin 2003 a'r cyfeirnod 7004-187.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sydd wedi'i sychu ac sydd heb ei drin ac sydd heb fod yn fwy na 38.1 × 10.16 × 5.08cm.

Yr Home and Hearth Technologies Quadra-Fire Cumberland Gap Freestanding Wood Burning Stove a wneir gan Home and Hearth Technologies, 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA.      1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 8 Gorffennaf 2003 a'r cyfeirnod 7006-186.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sydd wedi'i sychu ac sydd heb ei drin ac sydd heb fod yn fwy na 43.18 × 10.16 × 10.16cm.

Modelau Orchard Ovens: FVR Speciale 80, 100, 110, 110 × 160 a 120; TOP Superiore 100 a 120; GR 100, 120, 140, 120 × 160, 140 × 160, 140 × 180 a 180; OT 100, 120, 140, 120 × 160, 140 × 160, 140 × 180 a 180; a'r Valoriani Piccolo; a wneir gan Valoriani o Via Caselli alla Fornace, 213, 50066 Reggello, Firenze, Yr Eidal.      1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 25 Hydref 2004 a'r cyfeirnodau:

     Cyfarwyddyd: Model
     OOLInst.1: FVR 80
     OOLInst.2: FVR 100
     OO LInst.3: FVR 110
     OOLInst.4: FVR 120
     OOLInst.5: FVR 110 × 160
     OOLInst.6: TOP 100
     OOLInst.7: TOP 120
     OOLInst.8: GR 100 ac OT 100
     OOLInst.9: GR 120 ac OT 120
     OOLInst.10: GR 140 ac OT 140
     OOLInst.11: GR 120 × 160 ac OT 120 × 160
     OOLInst.12: GR 140 × 160 ac OT 140 × 160
     OOLInst.13: GR 140 × 180 ac OT 140 × 180
     OOLInst.14: GR 180 ac OT 180
     OOLInst.15: Valoriani Piccolo
          2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sych heb ei drin.

Gwresogydd Wood Waste Technology, modelau WT10 ac WT15, a wneir gan Wood Waste Technology.      1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2005 a'r cyfeirnod WT/a/19/1/05 o ran model WT10 neu'r cyfeirnod WT15/a/19/01/05 o ran model WT15.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n dorbrennau caled neu feddal sydd heb eu trin.




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 ("y Ddeddf") yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn a wnaed o dan adran 21 o'r Ddeddf, esemptio dosbarthau penodedig ar leoedd tân rhag darpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gallant gael eu defnyddio at losgi tanwydd nad yw'n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn esemptio'r dosbarthau ar leoedd tân a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn rhag darpariaethau adran 20 o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr ail golofn o'r Atodlen honno.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn diwygio Gorchymyn cynharach a wnaed o dan adran 21 o'r Ddeddf drwy ychwanegu at y rhestr o leoedd tân esempt sydd wedi'u gwneud gan Dunsley Heat Limited a thrwy ddiwygio'r cyfarwyddiadau sy'n gymwys i osod, cynnal a defnyddio'r lleoedd tân hynny.


Notes:

[1] 1993 p.11.back

[2] Trosglwyddwyd pwerau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1999/1515.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091079 6


 © Crown copyright 2005

Prepared 8 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050426w.html