BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 434 (Cy.45)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) (Diwygio 2005
|
Wedi'u gwneud |
2 Mawrth 2005[a] | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 6 a 138 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) (Diwygio) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn y gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002[3] ac mae cyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Prif Reoliadau sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
Diwygio'r Prif Reoliadau
2.
Yn rheoliad 3(1) -
(a) ym mharagraffau (i) a (ii) o'r diffiniad o "cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd" yn lle'r geiriau "ym mhrofion y CC" rhodder y geiriau "mewn asesiadau gan athrawon";
(b) yn y diffiniad o "lefel 4" a "lefel 5" yn lle'r geiriau "profion y CC" rhodder y geiriau "asesiadau gan athrawon"; ac
(c) rhodder ar ôl y diffiniad o "anghenion addysgol arbennig" y canlynol -
"
ystyr "asesiadau gan athrawon" ("teacher assessment") yw asesiadau o ddisgyblion a wneir gan athrawon er mwyn penderfynu lefel y cyrhaeddiad y maent wedi'i chyflawni yn y Gymraeg, y Saesneg, gwyddoniaeth neu fathemateg, ac y gwneir darpariaeth asesu ar eu cyfer gan orchmynion neu o dan orchmynion a wneir o dan adran 108(3)(c) o Ddeddf Addysg 2002 sydd mewn grym pan wneir yr asesiadau".
3.
Yn rheoliad 4 -
(a) hepgorer paragraff (2);
(b) ar ôl paragraff (4) rhodder:
"
(5) Ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06, rhaid i drydydd cynllun atodol ymwneud â chyfnod -
(a) o ran gosod targedau a bennir yn rheoliad 30 yn unig, y blynyddoedd ysgol 2005-06 a 2006-07;
(b) o ran popeth arall, y flwyddyn ysgol 2005-06".
4.
Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (2) ychwaneger y canlynol -
"
(3) Pan fydd targedau wedi'u gosod o dan baragraff (1) drwy gyfeirio at gyflawniadau ym mhrofion y CC mae'r targedau hynny i'w darllen fel petai'r cyfeiriadau at gyflawniadau ym mhrofion y CC yn gyfeiriadau at gyflawniadau mewn asesiadau gan athrawon".
5.
Yn rheoliad 12 -
(a) ym mharagraff (1) yn lle "ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r" rhodder "mewn asesiadau gan athrawon sydd i'w gwneud ar y";
(b) ym mharagraff (2) ym mhob un o'r is-baragraffau (a) i (ch) yn lle'r gair "profion" rhodder "asesiadau".
6.
Yn rheoliad 13 -
(a) ym mharagraff (1) yn lle "ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r" rhodder y geiriau "mewn asesiadau gan athrawon sydd i'w gwneud ar y"; a hefyd
(b) ym mharagraff (2) o bob un o'r is-baragraffau (a) i (ch) yn lle'r gair "profion" rhodder "asesiadau".
7.
Yn rheoliad 30, ar ôl paragraff 1(b) rhodder:
"
(c) yn y trydydd cynllun atodol, targedau ar gyfer y blynyddoedd ysgol 2005-06 a 2006-07".
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2005[b]
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwnaed y Rheoliadau hyn o dan adrannau 6 a 138 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac maent yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002.
Mae adran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod addysg lleol lunio cynllun datblygu addysg (sy'n cael ei adnabod yng Nghymru wrth yr enw "cynllun strategol addysg") ar gyfer ei ardal.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad am gynllun llawn dilynol ac yn mewnosod gofyniad am drydydd cynllun atodol i'w lunio ar gyfer blwyddyn ysgol 2005-06.
Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran y targedau sydd i'w gosod ar gyfer cyflawniadau disgyblion yng nghyfnodau allweddol dau a thri. Yn lle'r cyfeiriadau at brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol maent yn rhoi cyfeiriadau at asesiadau gan athrawon ac yn darparu bod targedau a osodwyd sy'n cyfeirio at ganlyniadau profion i'w darllen fel petaent yn cyfeirio at ganlyniadau asesiadau gan athrawon. Mae'r diwygiadau yn rhannol ganlyniadol i Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004. Mae'r Gorchymyn hwnnw'n pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio Cymraeg (fel iaith gyntaf), Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau. Mae'n disodli'r gofyniad i brofion gael eu rhoi i'r disgyblion hynny, fel y penderfynir ar lefelau eu cyrhaeddiad drwy asesiadau gan athrawon.
Notes:
[1]
1998 p.31. Ar gyfer ystyr "regulations" gweler adran 142.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2002/1187.back
[4]
1998 p.38.back
English version
[a]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 2, o dan y teitl; dylai'r dyddiad gwneud ddarllen "2 Mawrth 2005";
back
[b]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 4, dylai'r dyddiad llofnodi ddarllen "2 Mawrth 2005".
back
ISBN
0 11 091080 X
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
8 March 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050434w.html