BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2005 Rhif 760 (Cy.64)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050760w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 760 (Cy.64)

GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 16 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 17 Mawrth 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21(6), 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[1] ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 21(5) o'r Ddeddf honno:

Enwi, dod i rym a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 17 Mawrth 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y Fframwaith Cenedlaethol
    
2. At ddibenion adran 21(6) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, bydd y Fframwaith Tân ac Achub a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n dwyn yr enw "Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub (Cymru) 2005" a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2005 yn cael effaith.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Mawrth 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru baratoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, y mae'n rhaid iddo osod blaenoriaethau ac amcanion i awdurdodau tân ac achub a chaiff ddarparu canllawiau. Rhaid i'r awdurdodau tân ac achub roi sylw i'r Fframwaith wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae adran 21(6) o'r Ddeddf yn darparu bod y Fframwaith yn effeithiol ond yn unig pan roddir effaith iddo gan y Cynulliad drwy orchymyn. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub (Cymru) 2005. Gellir cael copïau o'r Fframwaith oddi wrth yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Mae hefyd ar gael ar wefan y Cynulliad:
http://www.tai.cymru.gov.uk/.


Notes:

[1] 2004 p. 21.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091100 8


 © Crown copyright 2005

Prepared 24 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050760w.html