BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1162 (Cy.77)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Gorchymyn Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Hysbysu) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
13 Ebrill 2005 | |
|
Yn dod i rym |
15 Ebrill 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2, 3(1), (2)(b) a (4) a 4(1)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1], ac a freiniwyd ynddo bellach [2], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Hysbysu) (Cymru) 2005.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Ebrill 2005 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "arolygydd" ("inspector") yw unrhyw berson a awdurdodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i fod yn arolygydd at ddibenion y prif Orchymyn;
mae i "mangre" yr un ystyr â "premises" yn y prif Orchymyn;
ystyr "y prif Orchymyn" ("the principal Order") yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993[3];
ystyr "taten" ("potato") yw unrhyw gloronen Solanum tuberosum L. neu unrhyw had gwirioneddol neu blanhigyn arall ohono neu unrhyw rywogaeth arall o'r genws Solanum L. sy'n ffurfio cloron neu unrhyw gymysgryw ohono;
ystyr "taten berthnasol" ("relevant potato") yw unrhyw daten a dyfwyd yn yr Iseldiroedd yn ystod 2004 neu ers hynny; ac
ystyr "taten hadyd berthnasol" ("relevant seed potato") yw unrhyw daten berthnasol sydd wedi'i bwriadu i'w phlannu.
Hysbysu o fewnforion
3.
- (1) Ni chaiff neb, wrth gynnal busnes, fewnforio tatws i Gymru y mae'r person hwnnw'n gwybod eu bod, neu y mae ganddo sail resymol dros amau eu bod, yn datws perthnasol, oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd, o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad yr oedd yn bwriadu eu mewnforio i Gymru, o'i fwriad i fewnforio'r tatws o dan sylw, ac ynghylch -
(a) amser, dyddiad a dull arfaethedig eu mewnforio;
(b) y pwynt mynediad arfaethedig ar gyfer dod â hwy i mewn i Gymru;
(c) y defnydd arfaethedig ar y tatws;
(ch) cyrchfan arfaethedig y tatws;
(d) rhywogaeth y tatws;
(dd) y maint o datws; ac
(e) Rhif adnabod y cynhyrchydd.
(2) Rhaid i unrhyw berson a fewnforiodd, ar ôl 1 Medi 2004 a chyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, datws hadyd perthnasol i Gymru, wrth gynnal busnes, roi, o ran y tatws hynny, hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd erbyn 3 Mai 2005 fan bellaf ynghylch -
(a) y dyddiad y mewnforiwyd y tatws;
(b) y pwynt mynediad lle doed â hwy i mewn i Gymru;
(c) y defnydd arfaethedig ar y tatws;
(ch) cyrchfan neu gyrchfan arfaethedig y tatws;
(d) rhywogaeth y tatws;
(dd) y maint o datws a fewnforiwyd; ac
(e) Rhif adnabod y cynhyrchydd.
Pwerau arolygydd
4.
- (1) Mae darpariaethau'r erthygl hon i fod yn gymwys heb ragfarnu'r arfer gan arolygydd, o'r pwerau a roddwyd iddo gan y prif Orchymyn.
(2) Os bydd arolygydd yn gwybod neu os bydd ganddo seiliau rhesymol dros amau bod unrhyw datws perthnasol yn debygol o gael, neu fod wedi cael, eu glanio yng Nghymru yn groes i erthygl 3(1), caiff -
(a) at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r prif Orchymyn; neu
(b) at ddibenion arfer unrhyw un o'i bwerau o dan baragraff (4),
ac ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ei awdurdod i weithredu, gymryd y camau ym mharagraff (3).
(3) Y camau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) yw -
(a) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, gan gynnwys unrhyw berson sydd â gofal dros y cwch, yr awyren, y cerbyd, yr hofranfad neu'r cynhwysydd llwyth y mae'r tatws yn debygol o gael, neu fod wedi cael, eu glanio ohonynt, symud y tatws perthnasol neu'r tatws perthnasol amheus i unrhyw fangre;
(b) gwahardd unrhyw berson o'r fath rhag symud, trin neu ddistrywio'r tatws perthnasol neu'r tatws perthnasol amheus neu unrhyw gynhwysydd neu becyn.
(4) At ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, caiff arolygydd, ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ei awdurdod i weithredu, fynd i mewn, ar unrhyw adeg resymol, i fangre ac eithrio mangre sy'n cael ei defnyddio yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd, ac -
(a) archwilio, ffotograffio neu farcio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre, gan gynnwys unrhyw datws;
(b) cymryd samplau o, neu oddi ar, unrhyw datws neu unrhyw gynhwysydd neu becyn; ac
(c) arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu dal) sy'n ymwneud â chynhyrchu neu fasnachu unrhyw datws, gwneud copïau o'r dogfennau neu'r cofnodion hynny, neu eu symud er mwyn gwneud copïau ohonynt.
(5) Caiff arolygydd, at ddibenion arfer unrhyw un o'i bwerau o dan baragraff (4), agor, neu awdurdodi unrhyw berson i agor ar ei ran neu ar ei rhan, unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog neu unrhyw berson sydd â gofal dros unrhyw gynhwysydd neu becyn ei agor yn y modd a bennir gan yr arolygydd.
(6) Pan gedwir unrhyw ddogfen neu gofnod o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (4)(c) drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff arolygydd -
(a) mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r ddogfen neu'r cofnod, a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad; a
(b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol i'w gael.
Tramgwyddau
5.
- (1) Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, heb esgus rhesymol y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei brofi -
(a) yn mynd yn groes i un o ofynion erthygl 3 neu'n methu cydymffurfio ag ef; neu
(b) yn fwriadol yn rhwystro arolygydd neu unrhyw berson a awdurdodir gan arolygydd wrth iddo arfer ei bwerau o dan erthygl 4.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Ebrill 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Ebrill 2005, yn gosod gofynion hysbysu penodol ar bersonau sy'n mewnforio i Gymru datws sy'n tarddu o'r Iseldiroedd ac sydd wedi'u tyfu yn ystod 2004 neu'n ddiweddarach ("tatws perthnasol").
Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n mewnforio tatws perthnasol i Gymru wrth gynnal busnes, roi o leiaf ddau ddiwrnod o hysbysiad o'u mewnforio, mewn ysgrifen, i un o arolygwyr awdurdodedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n ofynnol hefyd i'r personau hynny roi gwybodaeth arall benodol i arolygydd ynghylch y mewnforio gan gynnwys pryd a ble y bwriedir dod â'r tatws perthnasol i mewn i Gymru (erthygl 3(1)). Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i bersonau a fewnforiodd i Gymru datws hadyd sy'n tarddu o'r Iseldiroedd ("tatws hadyd perthnasol") ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, ddarparu i arolygydd awdurdodedig wybodaeth benodol sy'n debyg ei natur erbyn 3 Mai 2005 fan bellaf (erthygl 3(2)).
Mae erthygl 4 yn darparu pwerau i arolygwyr awdurdodedig at ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn a sicrhau cydymffurfedd hefyd â Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 ("y prif Orchymyn"). Mae'r rhain yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol i datws perthnasol gael eu symud i unrhyw fangre a phwer hefyd i wahardd symud, trin neu ddistrywio'r tatws hynny neu unrhyw gynhwysydd neu becyn (Erthygl 4(3)(a) a (b)). At ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, mae gan arolygwyr bŵer hefyd i fynd i mewn i fangre er mwyn cynnal archwiliadau neu arolygiadau o eitemau penodol a geir yno (Erthygl 4(4)). Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan arolygwyr awdurdodedig heb leihau effaith pwerau a roddwyd iddynt gan y prif Orchymyn.
Mae erthygl 5 yn darparu bod person yn euog o dramgwydd os yw'n mynd yn groes i un o ofynion erthygl 3 neu'n methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwnnw neu os yw'n fwriadol yn rhwystro arolygydd awdurdodedig neu unrhyw berson a awdurdodwyd gan arolygydd wrth iddo arfer ei bwerau o dan erthygl 4.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1967 p.8; mae adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn diffinio "competent authorities" at ddibenion y Ddeddf. Diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48).back
[2]
O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac, o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[3]
O.S. 1993/1320; a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245 a 1999/2126 a 2726, 2001/2343, 2002/1067, 2003/1157 a 2004/2365.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091115 6
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
29 April 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051162w.html