BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005 Rhif 1208 (Cy.80)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051208w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1208 (Cy.80)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 19 Ebrill 2005 
  Yn dod i rym 30 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512(3) a 568 o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 30 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

mae'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 512(6) o Ddeddf 1996.

Gofyniad rhagnodedig ar gyfer ciniawau ysgol
    
3.  - (1) Rhagnodir y gofyniad canlynol at ddiben adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996.

    (2) Rhaid i ddisgybl cofrestredig sy'n derbyn addysg feithrin fod yn bresennol am ddwy sesiwn lawn ar unrhyw ddiwrnod pan fydd yn yr ysgol i beri bod dyletswydd i ddarparu cinio ar y diwrnod hwnnw.

Darpariaeth drosiannol
    
4. Bydd disgybl sy'n derbyn addysg feithrin mewn ysgol a gynhelir y mae cinio ysgol yn cael ei ddarparu iddo yn union cyn 1 Ebrill 2003 yn cael ei drin fel pe na bai unrhyw ofynion rhagnodedig yn gymwys i'r disgybl hwnnw o dan adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996 hyd nes y bydd yn gorffen derbyn addysg feithrin.

Dirymu
    
5. Mae Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003[3] drwy hyn yn cael ei ddirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Ebrill 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 512(3) o Ddeddf Addysg 1996 fel y'i diwygiwyd gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i ddarparu ciniawau ysgol i ddisgyblion sydd yn gymwys i giniawau ysgol yn rhad ac am ddim, ac eraill, ar yr amod bod unrhyw ofynion rhagnodedig yn cael eu bodloni. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi gofyniad o'r fath.

Mae'r gofyniad yn cael ei nodi yn erthygl 3. Mae'n gymwys yn unig i ddisgyblion cofrestredig sy'n derbyn addysg feithrin; rhaid iddynt fod yn bresennol am ddwy sesiwn lawn ar unrhyw ddiwrnod pan fyddant yn mynychu'r ysgol i beri bod dyletswydd i ddarparu cinio ar y diwrnod hwnnw.

Mae erthygl 4 yn cynnwys darpariaeth drosiannol i atal disgyblion sydd yn derbyn addysg feithrin ran-amser mewn ysgolion a gynhelir, sydd eisioes yn derbyn ciniawau ysgol yn rhad ac am ddim yn union cyn 1 Ebrill 2003, rhag colli'r hawl i giniawau o'r fath.

Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003.


Notes:

[1] 1996 p.56; amnewidir adran 512 gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). I gael ystyr "prescribed" gweler adran 512(6).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002.back

[3] O.S. 2003/880 (Cy.111).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091113 X


 © Crown copyright 2005

Prepared 26 April 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051208w.html