BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005 Rhif 1350 (Cy.98) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051350w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 17 Mai 2005 | ||
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1 |
(c) maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 2065/2003 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn Rheoliad 2065/2003 ac yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at erthygl neu atodiad â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r atodiad â'r Rhif hwnnw yn Rheoliad 2065/2003.
Gweinyddu Rheoliad 2065/2003
3.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd[5] yw'r awdurdod cenedlaethol cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad 2065/2003 (cais am awdurdodiad).
Condemnio bwyd
4.
- (1) Os aed yn groes i unrhyw un o Erthyglau 4.2, 5.1, 5.2, 9.4, neu 9.5 mewn perthynas ag unrhyw fwyd -
(2) At ddibenion y rheoliad hwn mae "bwyd" yn cynnwys unrhyw gyddwysiad sylfaenol o fwg, ffracsiwn sylfaenol o dar neu gyflasyn mwg deilliedig.
Tramgwyddau a chosbau
5.
Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig sydd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990
6.
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 2065/2003 fel y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf -
Gorfodi
7.
Bydd rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
Darpariaeth Rheoliad 2065/2003 | Y Pwnc |
Erthygl 4.2 |
Gwahardd marchnata cyflasyn mwg nad yw ar y rhestr o gyflasynnau mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o'r fath yn bresennol ynddo neu arno. Gwahardd marchnata cyflasyn mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o'r fath yn bresennol ynddo neu arno, ac eithrio yn unol ag unrhyw amodau defnyddio a osodwyd yn yr awdurdodiad. |
Erthygl 5.1 |
Gwahardd defnyddio pren wedi'i drin, oni ellir dangos drwy dystysgrif neu ddogfennaeth briodol nad yw'r sylwedd a ddefnyddir i drin y pren, wrth iddo ymlosgi, yn peri sylweddau a allai fod yn wenwynig. Gofyniad y gellir dangos drwy ddogfennaeth neu dystysgrif fod rhywun wedi cydymffurfio â'r gwaharddiad a ddisgrifir uchod. |
Erthygl 5.2 |
Gofyniad y cydymffurfir â'r amodau yn Atodiad 1 wrth gynhyrchu cynhyrchion cynradd. Gwahardd y defnydd o'r cyflwr olewaidd annhoddadwy mewn dŵr wrth gynhyrchu cyflasynnau mwg. |
Erthygl 9.4 | Gofyniad bod yn rhaid i ddeiliad awdurdodiad neu unrhyw weithredydd busnes bwyd arall, sy'n defnyddio cynnyrch awdurdodedig, neu gyflasyn mwg deilliedig a gynhyrchir o gynnyrch awdurdodedig, gydymffurfio ag unrhyw amodau neu gyfyngiadau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodiad. |
Erthygl 9.5 | Gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu'r Comisiwn o unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy'n ymwneud â chynnyrch awdurdodedig, ac a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch y cynnyrch awdurdodedig hwnnw. |
Erthygl 13.1 | Gofyniad bod gweithredwyr busnesau bwyd yn sicrhau y trosglwyddir yr wybodaeth benodedig i'r gweithredydd busnes bwyd sy'n derbyn y cynnyrch pan osodir y cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf. |
Erthygl 13.2 | Gofyniad, yn sgil gosod cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf, bod gweithredwyr busnesau bwyd sy'n gosod y cynhyrchion ar y farchnad yn trosglwyddo'r wybodaeth benodedig yn Erthygl 13.1 i'r gweithredwyr busnes bwyd sy'n derbyn y cynnyrch, bob tro y rhoddir y cynnyrch ar y farchnad. |
Erthygl 13.3 | Gofyniad bod gan weithredwyr busnesau bwyd systemau a gweithdrefnau yn eu lle sy'n nodi gan bwy y maent wedi derbyn y cynnyrch ac i bwy y maent wedi ei drosglwyddo. |
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] OJ Rhif L31, 1.2. 2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). Yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 (O.S. Rhif 2004/2990), gydag effaith o 7 Rhagfyr 2004 ymlaen datgymhwysir y gofyniad i ymgynghori a geir yn adran 48(4) o Ddeddf 1990 mewn unrhyw achos lle y mae ymgynghori yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.back
[4] OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1.back
[5] Cyfeiriad yr Asiantaeth yng Nghymru yw Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.back