[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1629 (Cy.123)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
14 Mehefin 2005 | |
|
Yn dod i rym |
30 Mehefin 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), (17)(1) a (2), 26(1)(a), (2)(e) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd ynddo bellach[2], wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno at gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005 sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005
2.
Diwygier Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005[4] fel a ganlyn —
yn y diffiniad o "Reoliad y Comisiwn" ar ôl "Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 455/2004" mewnosoder ", Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004[5], Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 683/2004"[6].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, ac sy'n diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/364 (Cy.31)) ("y prif Reoliadau"), yn darparu ar gyfer gorfodi gofynion —
(a) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1) o ran nitrad mewn bwydydd i fabanod a phlant ifanc; a
(b) Rheoliad Comisiwn (EC) Rhif 683/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 o ran afflatocsinau ac ocratocsin A mewn bwydydd i fabanod a phlant ifanc.
2.
Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Rheoliadau'r Comisiwn y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1 uchod yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.).back
[4]
O.S. 2005/364 (Cy.31).back
[5]
OJ Rhif L104, 8.4.2004, t.48.back
[6]
OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.3.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091152 0
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
21 June 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051629w.html