BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1630 (Cy.124)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
14 Mehefin 2005 | |
|
Yn dod i rym |
24 Mehefin 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 38, 78(1), 83A and 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mehefin 2005.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "Rheoliadau 1997" ("the 1997 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[2]; ac
ystyr "Rheoliadau 1986" ("the 1986 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986[3].
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
2.
Yn rheoliad 13(2)(l)(ii) o Reoliadau 1986 (profion llygaid — cymhwyster) yn lle "£14,600" rhodder "£15,050".
Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997
3.
Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli) yn y diffiniad o "NHS sight test fee"—
(a) yn lle "£49.19" rhodder "£50.77"; a
(b) yn lle "£17.82" rhodder "£18.39".
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
4.
Yn rheoliad 8(3)(l)(ii) o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol) yn lle "£14,600" rhodder "£15,050".
Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997
5.
Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) —
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle "£46.80" rhodder "£48.00"; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£12.10" rhodder "£12.40".
Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
6.
—(1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod.
(1)
|
(2)
|
Swm blaenorol
|
Swm newydd
|
£32.10 |
£32.90 |
£48.80 |
£50.00 |
£71.30 |
£73.10 |
£161.00 |
£165.00 |
£55.40 |
£56.80 |
£70.40 |
£72.20 |
£91.30 |
£93.60 |
£177.00 |
£181.40 |
£164.90 |
£169.00 |
£46.80 |
£48.00 |
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig, a theclynnau cymhleth) —
(a) ym mharagraff 1(1)(a), yn lle "£10.40" rhodder "£10.70";
(b) ym mharagraff 1(1)(b) yn lle "£12.50" rhodder "£12.80";
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle "£3.50" rhodder "£3.60";
(ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle "£4.00" rhodder "£4.10";
(d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle "£52.80", "£46.80" a "£25.40" rhodder "£54.10", "£48.00" a "£26.00" yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle "£52.80" rhodder "£54.10";
(e) ym mharagraff 2(a), yn lle "£12.10" rhodder "£12.40"; ac
(f) ym mharagraff 2(b), yn lle "£30.50" rhodder "£31.30".
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Cymhwyso'r Rheoliadau hyn
7.
Nid yw'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 5 a 6 yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 24 Mehefin 2005.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2005
YR ATODLENRheoliad 6(3)
ATODLEN 3 I REOLIADAU 1997 FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN
"
SCHEDULE 3Regulation 19(2) and (3)
VOUCHER VALUES-REPAIR
(1)
|
(2)
|
|
Nature of Repair
|
|
Letter of Codes-Values
|
|
A
|
B
|
C
|
D
|
E
|
F
|
G
|
H
|
I
|
Repair or replacement of one lens |
£10.25 |
£18.80 |
£30.35 |
£76.30 |
£22.20 |
£29.90 |
£40.60 |
£84.50 |
£78.30 |
Repair or replacement of two lens |
£20.50 |
£37.60 |
£60.70 |
£152.60 |
£44.40 |
£59.80 |
£81.20 |
£169.00 |
£156.60 |
Repair or replacement of: |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
The front of a frame |
£10.50 |
£10.50 |
£10.50 |
£10.50 |
£10.50 |
£10.50 |
£10.50 |
£10.50 |
£10.50 |
A side of a frame |
£6.25 |
£6.25 |
£6.25 |
£6.25 |
£6.25 |
£6.25 |
£6.25 |
£6.25 |
£6.25 |
The whole frame |
£12.40 |
£12.40 |
£12.40 |
£12.40 |
£12.40 |
£12.40 |
£12.40 |
£12.40 |
£12.40 |
"
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986").
Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu'r swm a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl i brawf golwg di-dâl o dan y Rheoliadau hynny.
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud drwy gyfrwng system dalebau o ran costau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu ffi prawf golwg y GIG.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu'r swm a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl am gyfraniad tuag at gost teclyn optegol o dan y Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at y gost o ailosod un lens gyffwrdd, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.
Mae rheoliad 6 a'r Atodlen yn diwygio Atodlenni Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd, cynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau a chynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.5% yw graddfa'r cynnydd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
1977 p.49. Diwygiwyd Adran 38 gan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) a pharagraff 51 o Atodlen 1 iddi, adran 1(3) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("y Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol"), erthygl 7(11) o O.S. 1985/39, adran 13(1) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("y Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau"), paragraff 27 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("y Ddeddf Awdurdodau Iechyd").
Diwygiwyd adran 78(1) gan adran 25 o'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau ac Atodlen 3 iddi.
Mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau, gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i'r Ddeddf Awdurdodau Iechyd.
Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990, a chan adran 65(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) a paragraffau 37(1) a (6) o Atodlen 4 iddi ("Deddf 1999"), gan adran 67(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) a paragraffau 5 a 13 o Atodlen 5 iddi, gan adran 6(3)(c) a 37(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), a chan adrannau 184 a 196 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) a pharagraffau 7 a 38 o Atodlen 11 iddi a Rhan 4 o Atodlen 14 iddi.
Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan baragraff 8 o Atodlen 2 i'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau.
Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Atodlen 1, paragraff 3 o'r Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol a'i ddiwygio gan adran 13(2) a (3) o'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y pwerau a grybwyllir uchod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672), fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2]
O.S. 1997/818; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/499, 1999/609 a 2841 (Cy.21), 2000/978 (Cy.48), 2001/1362 (Cy.90), 1423 (Cy.98) a 3323 (Cy.276), 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129), 2004/1014 (Cy.111), 1659 (Cy.171) a 1042 (Cy.124).back
[3]
O.S. 1986/975; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/693 a 2841 (Cy.21), 2001/1362 (Cy.90), 1423 (Cy.98) a 3323 (Cy.276), 2002/1883 (Cy.192), 2003/955 (Cy.129) a 837 (Cy.106), 2004/1014 (Cy.111) a 1042 (Cy.124).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091153 9
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
21 June 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051630w.html