BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwaith Stryd (Adennill Costau) (Cymru) 2005 Rhif 1810 (Cy.141)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051810w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1810 (Cy.141)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Adennill Costau) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2005 
  Yn dod i rym 8 Gorffennaf 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 96 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Adennill Costau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn:

Sail adennill
    
3. Y sail y mae symiau o gostau i'w cyfrifo arni yw'r sail a roddir yn narpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Costau
    
4. —(1) Y costau fydd costau uniongyrchol a gorbenion i'r graddau y mae'r costau uniongyrchol hynny a'r gorbenion hynny yn berthnasol i waith penodol am dâl a chyfrifir hwynt yn unol â'r polisïau ariannol a fabwysiedir gan yr hawlydd i ddatgan canlyniadau ariannol y canolfannau cost sy'n gyfrifol am y gwaith am dâl neu am ddarparu gwasanaethau cymorth i'r canolfannau hynny.

    (2) Pan fo modd adennill costau yn unol â Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005[
3] ("Rheoliadau 2005") mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r graddau y mae'r costau yn "gostau caniatadwy" fel a ddiffinnir yn rheoliad 2(2) o Reoliadau 2005.

    (3) Bydd modd adennill y costau naill ai fel costau uniongyrchol o dan reoliad 5 neu fel gorbenion o dan reoliad 6, ond nid fel y ddau.

    (4) Bydd y costau'n glir o unrhyw ddisgownt neu ad-daliad a ganiateir i'r hawlydd.

Costau Uniongyrchol
     5. Mae costau uniongyrchol yn gostau yn unrhyw un o'r pum dosbarth a bennir isod—

Gorbenion
    
6. —(1) Gorbenion fydd canran briodol o'r costau uniongyrchol y cyfeirir atynt yn rheoliad 5, wedi'u cyfrifo a'u cymhwyso ar wahân ar gyfer pob dosbarth ar y costau hynny.

    (2) Ystyr canran briodol at ddibenion y rheoliad hwn yw'r ganran a gyfrifir drwy gymhwyso'r fformwla:

(b/a × 100) plws
(c/a × 100) plws
(ch/a × 100)
pan fo:

Cyfrifo Costau Staff ac Oriau Cynhyrchiol
    
7. —(1) At ddibenion rheoliad 5(a), cyfrifir costau staff drwy gyfeirio at y gyfradd y cyflogir person arni fesul awr gan rannu amcangyfrif rhesymol o gost flynyddol cyflogi person ag oriau cynhyrchiol y person hwnnw yn ystod yr un cyfnod blynyddol.

    (2) Ym mharagraff (1) uchod, ystyr "oriau cynhyrchiol" yw'r oriau hynny pryd yr amcangyfrifir yn rhesymol y bydd person wrthi'n gwneud gwaith am dâl neu waith o fath tebyg o fewn sefydliad yr hawlydd, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gyfnodau o salwch, gwyliau, hyfforddiant neu absenoldeb arall.

Eithriadau
    
8. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gostau na threuliau y mae modd eu hadennill o ran unrhyw weithred yr ymgymerir â hi o ran trwydded o dan adran 50 o'r Ddeddf.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r sail dros gyfrifo costau neu dreuliau y caiff awdurdod, corff neu berson eu hadennill o dan Ran III o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991.

Mae Rhan III o'r Ddeddf honno yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy'n rhoi hawl i awdurdod, corff neu berson gyflawni gweithredoedd ac adennill oddi wrth bartïon eraill y costau neu'r treuliau sy'n dod o ymgymryd â'r gweithredoedd hynny. Er enghraifft, os ymddengys i awdurdod strydoedd bod ymgymerwr wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau i adfer stryd a bod y methiant hwnnw'n achosi perygl i'r sawl sy'n defnyddio'r stryd, caiff yr awdurdod wneud y gwaith y mae angen ei wneud a chaiff adennill oddi wrth yr ymgymerwr y costau yr aeth iddynt yn rhesymol wrth wneud y gwaith hwn. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi mai'r costau fydd costau uniongyrchol a gorbenion, ac maent yn diffinio pa ddosbarthau ar gostau uniongyrchol y gellir eu hawlio. Maent hefyd yn rhagnodi sut y mae cyfrifo gorbenion.

Nid yw'r Rheoliadau yn gymwys i gostau na threuliau y mae modd eu hadennill o ran unrhyw weithred yr ymgymerir â hi o ran trwydded a roddwyd o dan adran 50 o'r Ddeddf.


Notes:

[1] 1991 p.22.back

[2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 2005/O.S. 2005/1721 (Cy.133)[a] back

[4] 1998 p.38.back



English version


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 3; dylai troednodyn (1) ddarllen fel "O.S. 2005/1721 (Cy.133).". back



ISBN 0 11 091164 4


 © Crown copyright 2005

Prepared 12 July 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051810w.html