BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1814 (Cy.144) (C.75)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
5 Gorffennaf 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4)(a), (5)(c), (5)(f) a (7) o Ddeddf Tai 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr "Deddf 2004" ("the 2004 Act") yw Deddf Tai 2004; ac
ystyr "y dyddiad cychwyn" ("the commencement date") yw 14 Gorffennaf 2005.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
2.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn —
(a) adran 191;
(b) adran 227;
(c) adran 228;
(ch) adran 265(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 a bennir ym mharagraff (dd) isod;
(d) Atodlen 12; ac
(dd) yn Atodlen 15 —
(i) paragraff 1;
(ii) paragraff 7(1), (2), (3)(a), (3)(c), (4)(a) a 5;
(iii) paragraff 35;
(iv) paragraff 37(1), (2)(a), (2)(b) a (3);
(v) paragraff 45(1), (2)(b), (2)(c), (2)(d) a (3); a
(vi) paragraff 46
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D. Elis-Thomas[a]
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005[b]
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â ddarpariaethau amrywiol Deddf Tai 2004 ("Deddf 2004") i rym o ran Cymru.
Daw darpariaethau Deddf 2004 a restrir o dan erthygl 2 i rym ar 14 Gorffennaf 2005. Maent yn darparu ar gyfer y canlynol:
(a) seiliau newydd dros wrthod cydsynio ag aseinio tenantiaeth ddiogel (mae adran 191 o Ddeddf 2004 yn mewnosod Sail 2A newydd yn Atodlen 3 o Ddeddf Tai 1985);
(b) dileu'r ddyletswydd sydd ar awdurdodau tai lleol o dan adran 167 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i anfon adroddiadau blynyddol at denantiaid (adran 227 o Ddeddf 2004); ac
(c) creu swydd Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru (mae adran 228 o Ddeddf 2004 yn mewnosod adrannau 51A, 51B a 51C yn Neddf Tai 1996 ac mae Atodlen 12 o Ddeddf 2004 yn mewnosod Atodlen 2A newydd yn y ddeddf 1996 honno).
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dod â newidiadau canlyniadol i rym (mae erthygl 2(dd) yn cyfeirio at y rhain).
Notes:
[1]
2004 p.34.back
[2]
1998 p.38.back
English version
[a]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 3; dylid mewnosod y dyddiad llofnodi i ddarllen fel "5 Gorffennaf 2005"; a
back
[b]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 3; dylid mewnosod enw'r llofnodwr
"D. Elis-Thomas" a'i ganoli islaw'r dyddiad llofnodi.
back
ISBN
0 11 091167 9
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
13 July 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051814w.html