BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 Rhif 1818 (Cy.146)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051818w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1818 (Cy.146)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2005 
  Yn dod i rym 1 Medi 2005 


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dirymu a darpariaeth drosiannol
3. Dehongli
4. Torri terfynau amser
5. Corff priodol
6. Gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu
7. Sefydliadau lle ceir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu
8. Hyd cyfnod ymsefydlu
9. Cyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu
10. Ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn ei gwblhau
11. Gwasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu
12. Goruchwylio a hyfforddi yn ystod y cyfnod ymsefydlu
13. Y safonau ar gyfer penderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol
14. Cwblhau cyfnod ymsefydlu
15. Ymestyn cyfnod ymsefydlu yn unol â phenderfyniad gan y corff priodol neu'r Cyngor
16. Terfynu cyflogaeth yn dilyn methiant i gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol
17. Apelau
18. Swyddogaethau eraill y corff priodol
19. Taliadau
20. Canllawiau gan y Cynulliad Cenedlaethol

  ATODLEN 1 ACHOSION LLE CEIR CYFLOGI PERSON FEL ATHRO NEU ATHRAWES MEWN YSGOL BERTHNASOL HEB FOD WEDI CWBLHAU CYFNOD YMSEFYDLU YN FODDHAOL

  ATODLEN 2 Y WEITHDREFN AR GYFER APELIO YN ERBYN PENDERFYNIAD Y CORFF PRIODOL
1. Dehongli
2. Yr amser a'r dull ar gyfer apelio
3. Hysbysiad yr apêl
4. Dogfennau ychwanegol, diwygio'r apêl a'i thynnu yn ôl
5. Cydnabod yr apêl a rhoi gwybod amdani
6. Cais am ragor o ddeunydd
7. Ateb gan y corff priodol
8. Cynnwys yr ateb
9. Dogfennau ychwanegol, diwygio'r ateb a'i dynnu yn ôl
10. Cydnabod yr ateb a rhoi gwybod amdano
11. Pŵer i benderfynu ar yr apêl heb wrandawiad
12. Gwrandawiad apêl
13. Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad
14. Y camau sydd i'w dilyn gan yr apelydd a'r corff priodol ar ôl i'r hysbysiad am y gwrandawiad ddod i law
15. Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad
16. Y weithdrefn yn y gwrandawiad
17. Penderfyniad y Cyngor
18. Afreoleidd-dra
19. Dogfennau

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[
1], ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Medi 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.

Dirymu a darpariaeth drosiannol
    
2. —(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003[3], Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004[4] a rheoliad 4 o Reoliadau Athrawon Ysgol (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004[5] wedi'u dirymu.

    (2) Mae person sydd ar 1 Medi 2005 yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn unol â Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 i gael ei drin fel pe bai'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Dehongli
     3. —(1) Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn —

    (2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu pan fydd y person hwnnw wedi gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o —

phan fydd y corff priodol yn ymestyn y cyfnod ymsefydlu yn unol â rheoliad 10, cyfnod yr estyniad hwnnw.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —

Torri terfynau amser
     4. Nid yw methiant gan unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r ddyletswydd honno.

Corff priodol
    
5. —(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn —


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051818w.html