BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Adolygu Dyfarniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2005 Rhif 1819 (Cy.147) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051819w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 5 Gorffennaf 2005 | ||
Yn dod i rym | 30 Rhagfyr 2005 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso. |
2. | Dehongli. |
3. | Dyfarniadau o gymhwyster. |
4. | Cyfansoddiad a swyddogaethau panelau. |
5. | Aelodaeth panelau. |
6. | Cadeirydd ac is-gadeirydd. |
7. | Gweinyddu panelau. |
8. | Treuliau aelodau panelau. |
9. | Cyfarfodydd panelau. |
10. | Cofnodion. |
11. | Cais gan ddarpar fabwysiadwr am i ddyfarniad o gymhwyster gael ei adolygu. |
12. | Cydnabod cais. |
13. | Penodi panel a hysbysu ynghylch adolygiad. |
14. | Argymhelliad panel. |
15. | Gorchymyn i dalu costau. |
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad—
Dyfarniadau o gymhwyster
3.
At ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf, dyfarniad o gymhwyster yw dyfarniad sydd wedi'i wneud gan asiantaeth fabwysiadu yn unol â Rheoliadau 2005 fel a ganlyn:
Aelodaeth panelau
5.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi dim mwy na phum person yn aelodau o'r panel, a rhaid iddynt gynnwys (lle y bo'n rhesymol ymarferol):
(2) Rhaid i'r panel gael cyngor gan:
(3) Ni fydd unrhyw berson yn cael ei benodi naill ai'n aelod o banel neu'n gynghorydd i banel a gaiff ei gynnull i adolygu dyfarniad o gymhwyster a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu a fu'n cyflogi'r person hwnnw ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd cyn y dyddiad pryd yr atgyfeirir yr achos at y panel.
(4) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fod wedi cael ei gyflogi yn cynnwys cael ei gyflogi gan asiantaeth fabwysiadu pa un ai am dâl ai peidio a pha un ai o dan gontract gwasanaethau neu gontract am wasanaethau neu fel gwirfoddolwr.
Cadeirydd ac is-gadeirydd
6.
Wrth ffurfio panel yn unol â rheoliad 4, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penodi:
(b) un o aelodau'r panel yn is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd os bydd y person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag.
Gweinyddu panelau
7.
Gweinyddir y panel gan y Cynulliad Cenedlaethol, a fydd yn gwneud darpariaeth addas ar gyfer gwasanaethau clercio ar gyfer y panel.
Treuliau aelodau panelau
8.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl ei ddisgresiwn, dalu i unrhyw aelod o banel unrhyw ffioedd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn rhesymol.
Cyfarfodydd panelau
9.
Rhaid i banel beidio â chynnal unrhyw fusnes onid oes pedwar o'i aelodau o leiaf gan gynnwys y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn cyfarfod fel panel.
Cofnodion
10.
Rhaid i banel —
Cydnabod cais
12.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gydnabod yn ysgrifenedig o fewn 5 niwrnod gwaith bod unrhyw gais a wnaed yn unol â rheoliad 11 wedi dod i law.
Penodi panel a hysbysu ynghylch adolygiad
13.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r asiantaeth fabwysiadu o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith fod unrhyw gais a wnaed yn unol â rheoliad 11 wedi dod i law.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i unrhyw gais a wnaed yn unol â rheoliad 11 ddod i law, benodi panel a phennu dyddiad i'r panel gyfarfod i adolygu'r dyfarniad o gymhwyster hwnnw.
(3) Ni fydd y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad yn ddiweddarach na 3 mis ar ôl y dyddiad y caiff y dyfarniad ei atgyfeirio.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r asiantaeth fabwysiadu a'r darpar fabwysiadwr o'r dyddiad, yr amser a'r lle y cynhelir yr adolygiad a hynny ddim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad.
(5) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sicrhau bod y panel yn derbyn yr holl bapurau perthnasol sy'n ymwneud â'r adolygiad a hynny ddim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad.
Argymhelliad panel
14.
—(1) Rhaid mai argymhelliad y mwyafrif fydd argymhelliad y panel.
(2) Caiff yr argymhelliad ei wneud a'i gyhoeddi ar ddiwedd yr adolygiad neu ei gadw wedi'i neilltuo.
(3) Rhaid cofnodi'r argymhelliad a'r rhesymau drosto yn ddi-oed a hynny mewn dogfen y bydd y cadeirydd yn ei llofnodi ac yn nodi'r dyddiad arni.
(4) Rhaid ymdrin â'r argymhelliad fel pe bai wedi'i wneud ar y dyddiad y llofnododd y cadeirydd y ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3).
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, a hynny'n ddi-oed ac yn sicr heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y gwnaed yr argymhelliad, anfon copi o'r argymhelliad at —
Gorchymyn i dalu costau
15.
Caiff y panel wneud gorchymyn yn mynnu bod yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y dyfarniad o gymhwyster a adolygwyd yn talu'r costau hynny y mae'r panel mabwysiadu yn ystyried eu bod yn rhesymol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
[3] O.S. 2005/1313 (Cy.95).back
[4] 2000 p.14. Yn rhinwedd adran 55(2)(a) a (4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, person sy'n ymgymryd â gwaith cymdeithasol y mae ei angen mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau iechyd, addysg neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan unrhyw berson yw gweithiwr cymdeithasol at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf honno.back