BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 3) 2005 Rhif 1911 (Cy.154) (C.83)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051911w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1911 (Cy.154) (C.83)

ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 3) 2005

  Wedi'i wneud 12 Gorffennaf 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 73 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 3) 2005.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

    (3) Mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 20 Gorffennaf 2005
    
2. Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym at bob diben ar 20 Gorffennaf 2005.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2005



YR ATODLEN
Erthygl 2


Darpariaethau sy'n dod i rym ar 20 Gorffennaf 2005


Is-adrannau (1) i (5) o adran 54[
3].

Adran 54A[4].



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("y Ddeddf") nad ydynt eisoes mewn grym i rym ar 20 Gorffennaf 2005 yng Nghymru a Lloegr.

Y darpariaethau yw is-adrannau (1) i (5) o adran 54, ac adran 54A o'r Ddeddf. Mae adrannau 54 a 54A ill dwy yn rheoleiddio datgelu gwybodaeth.

Mae adran 54 o'r Ddeddf yn gymwys i bersonau nad ydynt yn awdurdodau cyhoeddus at ddibenion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ("Deddf 2000"), ac nad ydynt yn gweithredu ar eu rhan. Mae'n cyfyngu ar yr amgylchiadau pryd y caiff y personau hynny ddatgelu gwybodaeth benodol a geir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu archwilydd a benodir ganddo o dan adran 13 o'r Ddeddf ("archwilydd").

Yr wybodaeth dan sylw yw gwybodaeth a geir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu archwilydd, wrth arfer ei swyddogaethau o dan:

Mae'r cyfyngiadau yn adran 54 yn gweithredu drwy waharddiad cyffredinol ar ddatgelu, yn ddarostyngedig i eithriadau eang iawn, a roddir yn is-adran (2). Datgelu at ddibenion unrhyw swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu archwilydd, o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yw un o'r eithriadau.

Os datgelir gwybodaeth heblaw o dan un o'r eithriadau yn is-adran (2), mae'n bosibl y bydd y person sy'n datgelu yn agored i gael ei garcharu am ddwy flynedd ac/neu ddirwy.

Mae adran 54A yn gymwys i bersonau sy'n awdurdodau cyhoeddus at ddibenion Deddf 2000 neu'n gweithredu ar eu rhan. Caiff y personau hyn ddatgelu gwybodaeth y byddai adran 54 yn gwahardd personau eraill rhag ei datgelu. Yr unig amgylchiad pryd y mae'n anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus o dan Ddeddf 2000, neu berson sy'n gweithredu ar ran awdurdod cyhoeddus o'r fath, ddatgelu'r wybodaeth honno yw pryd y byddai'r datgelu yn debygol o ragfarnu perfformiad effeithiol swyddogaeth statudol gan berson o'r fath.

Os datgelir gwybodaeth gan dorri adran 54A bydd y person sy'n datgleu yn agored i ddirwy ond nid i garchar.

Diwygiwyd adran 54, a mewnosodwyd adran 54A yn y Ddeddf gan Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Llacio'r Cyfyngiad ar Ddatgelu) 2005 (O.S. 2005/1018). Daethpwyd ag is-adrannau (6) i (8) o adran 54 i rym ar 31 Ionawr 2005 i alluogi gwneud y Gorchymyn hwnnw.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn )


Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi'u dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth Y Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
Adrannau 1-6 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adran 7 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adrannau 8-11 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adran 12 31 Ionawr 2005 2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)
Adrannau 13-15 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adran 16 31 Ionawr 2005 2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)
Adrannau 17-19 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Is-adrannau (1) i (3) o adran 20 31 Ionawr 2005 2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)
Is-adrannau (4) i (6) o adran 20 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 21 1 Ionawr 2005 2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)
Is-adrannau (3) a (4) o adran 21 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adrannau 22-38 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adran 39 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adrannau 40-49 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adran 50 ac Atodlen 1 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adrannau 51-53 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Is-adrannau (6) i (8) o adran 54 31 Ionawr 2005 2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)
Adrannau 55-65 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adran 58 31 Ionawr 2005 2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)
Adran 59 31 Ionawr 2005 2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)
Adran 66 ac Atodlen 2 (gydag arbedion) 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adran 67 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adran 68 ac Atodlen 3 31 Ionawr 2005 2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)
Adrannau 69-70 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
Adran 72 ac Atodlen 4 (gydag arbedion) 1 Ebrill 2005 2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)


Notes:

[1] 2004 p.23.back

[2] 1998 p.38.back

[3] Diwygiwyd adran 54 gan Orchymyn Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Llacio'r Cyfyngiad ar Ddatgelu) 2005 (O.S. 2005/1018), sydd, o dan erthygl 1(2) ohono, yn dod i rym yn syth cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.back

[4] Mewnosodwyd adran 54A yn y Ddeddf gan Orchymyn Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Llacio'r Cyfyngiad ar Ddatgelu) 2005 (O.S. 2005/1018), sydd, o dan erthygl 1(2) ohono, yn dod i rym yn syth cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.back



English version



ISBN 0 11 091180 6


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 July 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051911w.html