BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005 Rhif 1912 (Cy.155)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051912w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1912 (Cy.155)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 12 Gorffennaf 2005 
  Yn dod i rym 15 Gorffennaf 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], o ran rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a'u symud ar draws ffin, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol—

Enwi, cychwyn, a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005, ac aent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Mae i ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor neu y cyfeirir atynt ynddo, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol at ddibenion Rheoliad y Cyngor.

    (3) Mae gofyniad sy'n cael ei osod ar berson gan y Rheoliadau hyn i gyflawni gweithred neu i ymatal rhag ei chyflawni, ac sy'n amodol ar p'un a roddwyd rhyw hysbysiad neu a fynegwyd rhyw ofyniad i'r person hwnnw gan arolygydd, gan awdurdod lleol neu gan y Cynulliad, i'w osod hefyd os oedd yr hysbysiad hwnnw wedi'i roi neu'r gofyniad hwnnw wedi'i fynegi gan berson a chanddo bŵer i wneud hynny o dan Reoliadau sy'n gymwys i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig ac sy'n rhoi eu heffaith i Reoliad y Cyngor.

Awdurdod Cymwys
     3. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi'n Awdurdod Cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.

Gorfodi
    
4. —(1) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (2), rhaid i'r Cynulliad orfodi a gweithredu darpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

    (2) Caiff y Cynulliad gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad penodol neu o ran unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi sy'n cael ei gosod gan y rheoliad hwn i'w chyflawni—

Penodi arolygwyr
    
5. —(1) Caiff y Cynulliad, neu mewn unrhyw achos y mae cyfarwyddyd gan y Cynulliad o dan reoliad 4(2) yn gymwys iddo, yr awdurdod lleol, benodi'n arolygwyr y personau y mae'r Cynulliad neu'r awdurdod lleol yn ôl eu trefn yn barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

    (2) Mae unrhyw benodiad o arolygydd o dan Ran VI o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[
5] sy'n effeithiol ar yr adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn effeithiol fel petai'n benodiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r arolygydd hwnnw i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Hawliau Mynediad
     6. —(1) Os yw'n ofynnol iddo wneud hynny, caiff arolygydd, ar ôl dangos tystiolaeth ddogfennol sy'n dangos ei awdurdod, arfer unrhyw un o'r pwerau a bennir yn is-baragraff (3) isod at ddibenion gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

    (2) At y dibenion hyn, mae'r pwerau hynny yn arferadwy o ran unrhyw fangre ac eithrio unrhyw ran o fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion domestig.

    (3) Mae pwerau arolygydd fel a ganlyn—

    (4) Pan fo arolygydd yn cymryd meddiant, o dan y pŵer a roddwyd gan baragraff (3)(d) uchod, o unrhyw beth a geir ar unrhyw fangre, rhaid iddo adael hysbysiad yno, naill ai gyda pherson cyfrifol neu, os nad yw hynny'n ymarferol, rhaid iddo adael hysbysiad sydd wedi'i osod mewn safle amlwg, sy'n rhoi digon o fanylion i alluogi pobl i wybod pwy yw'r arolygydd a beth y mae wedi'i atafaelu ac sy'n datgan ei fod wedi cymryd meddiant ohono o dan y pŵer hwnnw; a chyn cymryd meddiant o dan y pŵer hwnnw—

rhaid i arolygydd, os yw'n ymarferol ac yn ddiogel iddo wneud hynny, gymryd sampl ohono a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o'r sampl a honno wedi'i marcio mewn modd digonol i'w hadnabod.

Cael gwybodaeth oddi wrth bersonau
    
7. —(1) At unrhyw ddiben o ran gorfodi a gweithredu Rheoliad y Cyngor, caiff y Cynulliad, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo—

ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw roi'r wybodaeth berthnasol sydd ar gael iddo ac a bennir yn yr hysbysiad, ar y ffurf a bennir ynddo ac o fewn y cyfryw gyfnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad ag a bennir ynddo.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "gwybodaeth berthnasol" yw gwybodaeth am unrhyw agwedd ar y gweithgareddau o dan sylw.

Tramgwyddau
    
8. —(1) Mae'n dramgwydd i berson—

    (2) Mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir o dramgwydd o dan reoliad 8(1)(a) i brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y tramgwydd yn cael ei gyflawni ganddo ef ei hun neu gan berson sydd o dan ei reolaeth.

Tramgwyddau oherwydd bai person arall
    
9. Pan fo tramgwydd wedi'i gyflawni gan unrhyw berson o dan reoliad 8 oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, mae'r person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd, a gellir cyhuddo person o'r tramgwydd a'i gollfarnu ohono yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf neu beidio.

Tramgwyddau gan Gyrff Corfforaethol
    
10. —(1) Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un ohonynt, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae'r paragraff blaenorol yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.

Cosbau
    
11. —(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig yn Rhan I o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd ac yn agored—

    (2) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig yn Rhan II o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod heb fod yn hwy na thri mis, neu i'r ddau.

    (3) Mae person yn euog o dramgwydd o dan reoliad 8(1)(b), (c), (ch), neu (d) uchod yn atebol o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau.

Terfynau Amser
    
12. —(1) Caniateir i achos am dramgwydd o dan reoliad 8, yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, gael ei gychwyn o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y daw tystiolaeth, sy'n ddigon ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau achos cyfreithiol, yn hysbys iddo.

    (2) Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos o'r fath yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na thair blynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac sy'n datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth, a oedd yn ddigon yn ei farn ef i gyfiawnhau dwyn yr achos cyfreithiol, yn hysbys iddo yn dystiolaeth derfynol am y ffaith honno.

    (4) Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir y gwrthwyneb.

Cyflwyno Hysbysiadau
    
13. —(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig.

    (2) Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o'r fath i berson—

    (3) Pan fo hysbysiad i'w gyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre ac nad yw'n ymarferol darganfod, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, enw a chyfeiriad y person y dylid ei gyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy ei gyfeirio at y person o dan sylw a'i ddisgrifio fel "meddiannydd" y fangre (gan enwi'r fangre honno) ac—

    (4) Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, bernir bod y gwasanaeth wedi'i gyflawni drwy gyfeirio a throsglwyddo'r cyfathrebiad electronig yn gywir.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2005



YR ATODLEN
(rheoliad 2(1))


Darpariaethau Cymunedol Penodedig




Rhan I

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad y Cyngor Y Pwnc
Erthygl 5(3) Bwrw ymlaen â symud yn fwriadol organedd a addaswyd yn enetig ar draws ffin am y tro cyntaf a hwnnw'n organedd a fwriadwyd ar gyfer ei ollwng yn fwriadol mewn ffordd na fyddai'n cydymffurfio â'r gweithdrefnau perthnasol.
Erthygl 10(1) Methu â pharchu unrhyw benderfyniad ar fewnforio organeddau a addaswyd yn enetig ac a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu.
Erthygl 10(2) Bwrw ymlaen ag allforio am y tro cyntaf organeddau a addaswyd yn enetig ac a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu mewn ffordd nad yw'n cydymffurfio â'r weithdrefn berthnasol.
Erthygl 10(3) Allforio organeddau a addaswyd yn enetig yn ddarostyngedig i symudiadau trawsffiniol ar gyfer defnyddio'r organeddau hynny'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu heb fod cytundeb datganedig i awdurdodi'r mewnforio wedi'i wneud o fewn y Gymuned neu gan awdurdod cymwys trydedd wlad, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.



Rhan II

Erthygl 4 Methiant gan allforiwr i hysbysu'r gwledydd neu'r cyrff nad ydynt yn Bartïon ac sy'n mewnforio cyn symud ar draws ffin ryngwladol am y tro cyntaf GMO (Organedd a Addaswyd yn Enetig) a fwriadwyd ar gyfer ei ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd ac a arfaethwyd ar gyfer y defnydd a bennir yn unol ag Atodiad I, pwynt (i), i Reoliad y Cyngor;
           Methu â darparu yn yr hysbysiad yr wybodaeth ofynnol, fel a bennir yn Atodiad I i Reoliad y Cyngor; a
           Methu â sicrhau bod yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad yn gywir.
Erthygl 6 Methu â chadw am 5 mlynedd o leiaf gofnodion o hysbysiadau o dan Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor; cydnabyddiadau bod hysbysiadau wedi dod i law; a phenderfyniadau'r Parti sy'n mewnforio neu'r wlad neu'r corff nad yw'n Barti ac sy'n mewnforio; a Methu ag anfon copïau o'r cofnodion i'r Awdurdod Cymwys ac i'r Comisiwn.
Erthygl 7(2) Methu ag anfon copi i'r Ysgrifenyddiaeth o unrhyw nodyn atgoffa a anfonwyd i'r Partïon sy'n mewnforio neu i'r gwledydd neu'r cyrff nad ydynt yn Bartïon ac sy'n mewnforio.
Erthygl 12(1) Methu â sicrhau bod gwybodaeth benodedig yn cael ei chynnwys mewn dogfen sy'n mynd gyda'r GMOs; a methu â sicrhau bod yr wybodaeth honno yn cael ei throsglwyddo i'r mewnforiwr.
Erthygl 12(2) Methu â darparu'r wybodaeth atodol benodedig o ran GMOs a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu.
Erthygl 12(3) Methu â darparu'r wybodaeth atodol benodedig o ran GMOs a fwriadwyd ar gyfer defnydd cyfyngedig.
Erthygl 12(4) Methu â darparu'r wybodaeth atodol benodedig o ran GMOs a fwriadwyd ar gyfer eu gollwng yn fwriadol ac unrhyw GMOs eraill y mae Rheoliad y Cyngor yn gymwys iddynt.
Erthygl 13 Methu â hysbysu Partïon o dramwyad organeddau a addaswyd yn enetig drwy eu tiriogaeth.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran Cymru ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1946/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 15 Gorffennaf 2003, sy'n ymwneud â symud organeddau a addaswyd yn enetig ar draws ffin ac sy'n uniongyrchol gymwys.

Daw'r Rheoliadau i rym ar 15 Gorffennaf 2005.

Mae Rheoliad y Cyngor yn rhoi ar waith ar lefel y Gymuned y gweithdrefnau a osodwyd ym Mhrotocol Cartagena ar Fioddiogelwch, sef y Protocol i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol ("y Protocol"), a lofnodwyd gan y Gymuned a'i Haelod-wladwriaethau yn 2000. Yn unol â'r Protocol, mae'n ofynnol i allforwyr y Gymuned sicrhau bod holl ofynion y Flaenweithdrefn Cytundeb Deallus, fel y'u nodir yn y Protocol, yn cael eu bodloni.

Mae rheoliad 3 yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 'Awdurdod Cymwys' at ddibenion Rheoliad y Cyngor o ran Cymru. Mae Erthygl 3(19) o Reoliad y Cyngor yn darparu bod awdurdodau cymwys yn gyfrifol am gyflawni'r swyddogaethau gweinyddol sy'n ofynnol o dan y Protocol.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau a'r darpariaethau Cymunedol penodedig (darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 1946/2003 a bennir yn yr Atodlen).

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi arolygwyr, a threfniadau trosiannol ar gyfer arolygwyr a benodwyd eisoes o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43).

Mae rheoliad 6 yn darparu pwerau mynediad, gan gynnwys y pŵer i gynnal profion ac arolygiadau, ac i gymryd samplau.

Mae rheoliad 7 yn galluogi arolygwyr i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei darparu.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn dramgwydd i fynd yn groes i'r darpariaethau Cymunedol penodedig; i rwystro arolygwyr wrth iddynt arfer eu pwerau o dan y Rheoliadau hyn; ac i roi gwybodaeth anwir; ac mae'n nodi amddiffyniad diwydrwydd dyladwy ynghylch mynd yn groes i'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tramgwyddau sy'n cael eu cyflawni oherwydd bai person arall.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tramgwyddau sy'n cael eu cyflawni gan gyrff corfforaethol.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn rhagnodi cosbau ac yn pennu terfynau amser ar gyfer dwyn erlyniadau.

Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiadau.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i bartoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael gafael ar gopïau o'r is — adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2003/2901.back

[2] 1972 p.68.back

[3] 2000 p.7; diwygiwyd y diffiniad o "electronic communications" yn adran 15(1) gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.back

[4] OJ Rhif L 287 t.1, 5.11.2003.back

[5] 1990 p.43.back

[6] 1999 p.38back



English version



ISBN 0 11 091179 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 July 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051912w.html