BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1913 (Cy.156)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
12 Gorffennaf 2005 | |
|
Yn dod i rym |
15 Gorffennaf 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd[2], o ran rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a'u symud ar draws ffiniau, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005, deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002[3] yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) Yn lle'r diffiniad o "y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol" rhodder y diffiniad a ganlyn—
"ystyr "y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol" ("the Deliberate Release Directive") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC[4] ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1830/2003[5];"; a
(b) Mewnosoder y diffiniadau canlynol yn eu lle pridol yn ôl trefn yr wyddor—
"
ystyr "bwyd a addaswyd yn enetig" ("genetically modified food") yw—
(a) bwyd sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, neu fwyd sydd wedi'i wneud o organeddau a addaswyd yn enetig;
(b) bwyd a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, neu sy'n cynnwys cynhwysion a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig; neu
(c) organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd;";
“ystyr "bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig" ("genetically modified feed") yw—
(a) bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, neu sydd wedi'i wneud ohonynt neu sydd wedi'i gynhyrchu ohonynt; neu
(b) organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd anifeiliaid;
“ystyr "y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid" ("the Food and Feed Regulation") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003[6] ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig.
(3) Yn rheoliad 16—
(4) Mewnosoder y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 18—
"
Mesurau trosiannol ar gyfer presenoldeb damweiniol neu dechnegol anochel deunydd a addaswyd yn enetig sydd wedi elwa o werthusiad risg ffafriol
18A.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd marchnata olion o organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig mewn cynhyrchion y bwriedir ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol yn fwyd neu'n fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu yn esempt rhag gofynion adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (cynnal asesiad risg) ac adran 111(1)(a) o'r Ddeddf (cael cydsyniad) cyhyd ag y bodlonir yr amodau a osodir yn erthygl 47 o'r Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid.
(2) Bydd paragraff (1) yn peidio â bod yn effeithiol ar 18 Ebrill 2007.".
(5) Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff (2) o reoliad 22—
"
(2) rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi na gwrthod cydsyniad i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd y cyfnod a bennir ar gyfer sylwadau yn unol â rheoliadau 21(b) ac (dd) uchod ac, os daw unrhyw sylwadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21(dd) i law cyn pen y cyfnod hwnnw, cyn iddo ystyried y sylwadau hynny.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Gorffennaf 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 (Rheoliadau 2002).
Mae'r diwygiadau i Reoliadau 2002 yn rhoi effaith yng Nghymru i'r diwygiadau canlyniadol a wnaed i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC (OJ Rhif L106, 17.4.02, t.1) ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd (y "Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol") gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1830/2003 (OJ Rhif L286, 18.10.03, t.1) ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (y "Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid").
Mae'r Rheoliadau diwygio hyn—
(a) yn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth CE berthnasol (rheoliadau 2(2)(a) a 2(3)(b));
(b) yn darparu, pan fo cynhyrchion wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau deddfwriaethol heblaw'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau 2002, bod y cynhyrchion hynny yn esempt rhag gofynion adrannau 108(1)(a) a 111(1)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ond os ydynt wedi'u marchnata yn unol ag unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodwyd ar y cydsyniad a ddyroddwyd o ran y cynnyrch hwnnw (rheoliad 2(3)(a));
(c) yn darparu ar gyfer marchnata bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig ac sydd wedi'u hawdurdodi o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid heb yr angen am gydsyniad marchnata o dan adran 111(1)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("y Ddeddf"), neu asesiad risg ychwanegol o dan adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (rheoliad 2(3)(c)); ac
(ch) yn darparu, tan 18 Ebrill 2007, y bydd gosod ar y farchnad olion organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig mewn cynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu yn esempt rhag gofynion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf (cael cydsyniad marchnata) ac adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (cynnal asesiad risg) cyhyd ag y bodlonir yr amodau a bennir yn erthygl 47 o'r Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (rheoliad 2(4)).
(d) egluro bod rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi na gwrthod caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd y dyddiad diweddaraf pryd y caniateir gwneud y sylwadau a grybwyllir yn rheoliadau 21(c) ac (dd) o Reoliadau 2002 (rheoliad 2(5)).
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i bartoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael gafael ar gopïau o'r is — adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S. 2003/2901.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 2002/3188.back
[4]
OJ Rhif L106, 17.4.2001, t.1.back
[5]
OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.24.back
[6]
OJ Rhif L258, 18.10.2003, t.1.back
[7]
OJ Rhif L43, 14.2.1997, t.1.back
[8]
OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1.back
[9]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091178 4
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
19 July 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051913w.html